Mae’r Swyddfa Gartref wedi cyhoeddi bod yr ymgynghoriad cam un o’r Adolygiad o Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol (CSP) bellach wedi’i lansio ochr yn ochr â’r Cynllun Gweithredu ar ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae’r ymgynghoriad yn canolbwyntio ar dri pheth:
- Safbwyntiau ar y berthynas rhwng y Partneriaethau Diogelwch Cymunedol a’r Comisiynwyr, gyda’r nod o gryfhau model atebolrwydd y Partneriaethau Diogelwch Cymunedol.
- Safbwyntiau ar sut mae Partneriaethau Diogelwch Cymunedol a Chomisiynwyr yn gweithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
- Safbwyntiau ar bwerau ymddygiad gwrthgymdeithasol ac a ddylid eu hymestyn.
Bydd cam dau adolygiad y Partneriaethau Diogelwch Cymunedol yn canolbwyntio ar wella effeithlonrwydd ffyrdd y Partneriaethau o weithio a symleiddio rolau a chyfrifoldebau, a bydd rhagor o fanylion yn cael eu rhannu maes o law.
Mae’r Swyddfa Gartref yn croesawu eich barn i’r ymgynghoriad hwn, sydd ar gael ar GOV.UK Community safety partnerships review and antisocial behaviour powers – GOV.UK (www.gov.uk) ac yn cau ar 22 Mai 2023.