Neidio i'r prif gynnwys

Seminar WDAIIN: Cefnogi penderfyniadau ar sail tystiolaeth ar gyfer Diogelwch Cymunedol

Seminar WDAIIN: Cefnogi penderfyniadau ar sail tystiolaeth ar gyfer Diogelwch Cymunedol

Ar 18 Hydref 2023, bydd Cadeirydd Rhwydwaith Arloesi a Gwella Dadansoddi Data Cymru (WDAIIN), PCC Dafydd Llywelyn yn cynnal seminar ar-lein wedi’i anelu at swyddogion etholedig, uwch reolwyr, penderfynwyr ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn penderfynidau seiliedig ar dystiolaeth i gwneud ein cymunedau yn fwy diogel.

Cynhelir y digwyddiad ddydd Mercher 18 Hydref 2023, 14:00 – 15:30 (drwy MS Teams), gyda chyflwyniadau yn edrych ar arfer da a heriau a rennir gyda ffocws ar sut y gallwn weithio mewn ffordd fwy cyson i oresgyn y rhain gyda’i gilydd.

Mae Diogelwch Cymunedol yn gwreiddio nifer o ddyletswyddau gan ei fod yn cwmpasu cam-drin domestig, trais (rhywiol a chorfforol), ymddygiad gwrthgymdeithasol, tipio anghyfreithlon, camfanteisio, caethwasiaeth fodern, eithafiaeth a throseddau casineb. Gydag agenda mor eang mae’n bwysig bod data’n cael ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth i wneud cymunedau ledled Cymru yn fwy diogel. Bydd y sesiwn hon yn edrych ar rai o’r arferion gorau sy’n digwydd ledled Cymru, gallai hyn gefnogi gweithio mewn partneriaeth fel rhan o’r gofynion o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Gallai hefyd helpu Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus wrth iddynt wneud yn wybodus, penderfyniadau a chynlluniau hirdymor a chydweithredol.

Os hoffech fynychu’r digwyddiad hwn, anfonwch e-bost at Rwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru – cymunedaumwydiogel@wlga.gov.uk