
Y thema ar gyfer Wythnos Anawsterau Dysgu 2022 yw ailgysylltu â ffrindiau a’u cymunedau a chydnabod y materion y mae llawer o bobl yn dal i’w hwynebu ar ôl i gyfyngiadau COVID ddod i ben, fel dal i orfod ynysu neu ddelio ag iechyd meddwl a phryder gwael. I gael rhagor o wybodaeth ac i gael gwybod sut i gymryd rhan, ewch i – Mencap.
Mae Gwasanaethau Anabledd Dysgu a Mencap Cymru wedi datblygu Cynllun Cerdyn Cadw’n Ddiogel Cymru ar y cyd â Heddluoedd Cymru sy’n helpu’r rhai sydd ag anabledd dysgu, iechyd meddwl, dementia a/neu anghenion cyfathrebu.
Nod y cynllun yw gwneud pobl yn fwy ymwybodol o’u diogelwch personol, i annog pobl i roi gwybod am droseddau – yn enwedig troseddau casineb – ac i geisio cymorth os oes ei angen arnynt.
Bydd hefyd yn helpu’r rhai sy’n darparu cymorth, i gael cymorth i ddeiliad y cerdyn, ac i helpu’r rhai sy’n cynorthwyo i ddeall sut y gallant wneud i’r person deimlo’n ddiogel.
I gael rhagor o wybodaeth: Heddlu De Cymru; Heddlu Gogledd Cymru; Heddlu Gwent
Mae Heddlu Dyfed Powys yn cynnig cynllun tebyg o’r enw Pegasus- Heddlu Dyfed-Powys