Neidio i'r prif gynnwys

Menter Bêl-droed Merthyr Tudful

<<Yn ôl i Astudiaethau Achos

Cyfrannwyd gan Adam LIKE, Ymgynghorydd Tactegol Lleihau Troseddau, Diogelwch Cymunedol Uned Reoli Sylfaenol Morgannwg Ganol.

Ar ddechrau 2023 roedd Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a throsedd yn ymwneud â phobl ifanc ar gynnydd ym Mhentref Hamdden Rhydycar. Codwyd pryderon gan nifer o fusnesau yn y lleoliad. Roedd y galw hwn yn gynnydd sylweddol o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, fel y dangosir ar y graff (ffigwr 1).

Graff yn dangos cynnydd sylweddol yn y galw ym mis Mawrth 2023 o 2022

Roedd Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn ardal Merthyr ar yr adeg hon yn destun craffu ychwanegol. Roedd grŵp o unigolion ifanc – sy’n galw’u hunain yn “Young and Dangerous’ – wedi bod yn achosi problemau drwy ardal Merthyr, gan gynnwys Pentref Hamdden Rhydycar. Roedd hyn yn achosi ofn ymhlith y bobl ifanc a oedd eisiau mynychu’r lleoliad yn gyfreithlon.

Roedd gweithgarwch yn yr ardal yn cynnwys:

  • Camdriniaeth eiriol yn erbyn staff
  • Cyffuriau
  • Dwyn
  • Galwadau yn ymwneud â phryder am ddiogelwch
  • Trais yn erbyn yr unigolyn

Roedd yr unigolion ifanc a oedd yn achosi pryder yn yr ardal yn tueddu i ymgasglu mewn grwpiau mawr, a oedd yn golygu fod casglu tystiolaeth yn erbyn unrhyw unigolyn yn hynod o anodd.

Fe luniodd Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu y ward 58004 Steffan John gynllun Plismona Datrys Problemau ym mis Chwefror, gan ymgynghori gyda’r Ymgynghorydd Tactegol Lleihau Troseddau. O ganlyniad i natur yr ardal, gyda chanolfan fowlio, sinema a McDonalds ar y safle, byddai pobl ifanc bob amser yn cael eu denu i’r ardal. Drwy SGANIO a DADANSODDI sefydlwyd mai gweithgarwch gwrthdyniadol i gynyddu ymgysylltu gyda phobl ifanc fyddai’r YMATEB cychwynnol gorau. Byddai newidiadau amgylcheddol a gwella diogelwch yn effeithio yn negyddol ar gwsmeriaid cyfreithlon sy’n defnyddio’r safle.

Cynhaliwyd cyfarfod ar y cyd gyda’r busnesau a’r ganolfan hamdden, y Tîm Plismona Cymdogaethau a’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol, yr Ymgynghorydd Tactegol Lleihau Troseddau a’r Swyddog Ymddygiad Gwrthgymdeithasol.  Canlyniad y cyfarfod hwn oedd ein bod wedi sicrhau’r defnydd o gaeau pêl-droed y ganolfan hamdden yn rhad ac am ddim (ar ôl i ffi gael ei nodi yn wreiddiol) a chynigiodd McDonalds arian tuag at git pêl-droed. Dewiswyd cyfnod prawf o 10 wythnos gan fod hyn yn cyd-fynd â’r system roedd y ganolfan hamdden yn ei defnyddio ar gyfer archebu mewn bloc.

Fe gynhaliodd Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu Steffan John a 57888 Michael Rees o Heddlu’r De sesiynau pêl-droed ar nos Wener.  I ddechrau fe wnaethom ni benderfynu y byddai’n well peidio â hysbysebu’r digwyddiad – roedd y tensiynau rhwng y bobl ifanc a’r busnesau’n uchel. Nid oeddem eisiau denu nifer o bobl ifanc i’r ardal, hyd nes ein bod wedi asesu’r diddordeb a phwy fyddai o bosibl yn mynychu. O ganlyniad i hyn roedd y rhai a fanteisiodd ar y cychwyn yn araf, fodd bynnag, mae’r digwyddiad wedi bod yn ennill momentwm ac wedi cael effaith gadarnhaol ar y Pentref Hamdden.

Ers ei weithredu mae’r galw wedi gostwng yn is na’r lefelau “normal”.

Graff yn dangos y galw ar yr heddlu gyda phigau yn Ionawr a Chwefror, a Chwefror oedd y mis uchaf ar gyfer Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Sylwer: Cychwynnodd y sesiynau pêl-droed ym mis Ebrill. Fe ostyngodd y galw cyn hyn, fodd bynnag roedd hyn gan fod swyddogion Castell-nedd Port Talbot wedi cyfrannu llawer o adnoddau anghynaliadwy yn yr ardal, tra roedd y pêl-droed yn cael ei gychwyn a’i gynllunio.  Roedd angen datrysiad yn y tymor hirach.

Canlyniadau a’r hyn a ddysgwyd

Datgelodd rhai asesiadau cychwynnol a wnaed gan John, Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu:

  • Ers dechrau’r pêl-droed ym mis Ebrill, fe ostyngodd y galwadau yn ymwneud ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn yr ardal yn sylweddol (fel y dangosir ar y graff uchod)
  • Plant oedd yn mynychu’r Uned Cyfeirio Disgyblion oedd y rhai a ddeuai yma fwyaf rheolaidd
  • Roedd y presenoldeb uchaf mewn un sesiwn tua 20+ o bobl ifanc
  • Mae busnesau lleol wedi gweld effaith gadarnhaol o ran ymddygiad pobl ifanc o fewn eu safleoedd
  • Mae canolfan fowlio Superbowl nawr wedi codi eu gwaharddiad ar unigolion o dan 16 oed yn mynychu heb oedolyn
  • Mae barn pobl ifanc o’r Uned Cyfeirio Disgyblion am yr heddlu yn gyffredinol bellach yn fwy cadarnhaol a byddent yn fwy tebygol o roi gwybod i ni am rywbeth
  • Mae mwy o bobl ifanc yn adnabod Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu a byddant yn aml yn dod atom tra rydym ar batrôl i sgwrsio a lleisio’u pryderon.

Mae’r fenter wedi:

  • Ein helpu ni i ddod i wybod enwau a wynebau’r bobl ifanc sy’n ymddwyn yn wrthgymdeithasol drwy ardal Merthyr.
  • Ein galluogi ni i ddatblygu perthnasoedd da gyda’r bobl ifanc sy’n mynychu
  • Wedi dangos gweithio rhagorol mewn partneriaeth gyda gweithwyr allgymorth ieuenctid lleol a staff yr Uned Cyfeirio Disgyblion, yn arbennig Kris Hames sy’n mynychu’n rheolaidd
  • Arwain at adnabod unigolion a oedd yn cael eu hamau o gyflawni lladrad arfog yn llwyddiannus
  • Creu perthynas gyda’r Ganolfan Hamdden sydd wedi cynnig cefnogaeth lawn i ni drwy’r broses hon a sydd yn garedig wedi cynnig eu gwasanaethau os ydym angen cynnal y digwyddiad yn y dyfodol

Yr heriau a wynebwyd wrth lansio’r fenter:

  • Roedd rhai busnesau’n amharod i ymgysylltu a chyfrannu
  • Mae McDonald’s wedi bod yn araf yn cael y cit, fodd bynnag mae’r clwb “Man V Fat” lleol wedi cynorthwyo drwy fenthyg cit
  • Mae cynnal y digwyddiad pan fo’r tîm i ffwrdd wedi bod yn anghyson