Neidio i'r prif gynnwys

Adolygiadau Diogelu ac Adolygiadau Lladdiadau Domestig

Archwilio is-bynciau

Beth yw Adolygiad Diogelu?

Mae Adolygiadau Diogelu yn cyfeirio at Adolygiadau Ymarfer Plant (a elwir hefyd yn Adolygiadau Diogelu Plant) ac Adolygiadau Ymarfer Oedolion (a elwir hefyd yn Adolygiadau Diogelu Oedolion). Mae angen adolygiad lle mae digwyddiad sylweddol o gamdriniaeth neu esgeulustod yn hysbys neu’n cael ei amau.

“Pwrpas cyffredinol y system adolygu yw i hyrwyddo’r diwylliant cadarnhaol o ddysgu ac adolygu diogelu oedolion aml-asiantaeth mewn ardaloedd lleol, y mae Byrddau [ Partneriaeth Ranbarthol] ac asiantaethau partner yn gyfrifol amdanynt. I gyflawni hyn mae’n gosod sylfaen ar gyfer dysgu ar y cyd gyda gweithwyr proffesiynol o wahanol asiantaethau a dan yr amgylchiadau hynny lle mae angen adolygiad mwy ffurfiol pan fo digwyddiadau difrifol yn deillio o gamdriniaeth neu esgeulustod.” Llywodraeth Cymru

Mae angen adolygiad aml asiantaeth pan fo plentyn neu oedolyn wedi marw, wedi cael anaf allai o bosibl fygwth ei fywyd, neu wedi cael nam difrifol a pharhaol ar iechyd neu ddatblygiad. Mae yna ddwy ffurf ar gyfer pob un, cryno ac estynedig. Mae disgwyl i’r allbynnau greu ffurf newydd o addysgu a all gefnogi gwelliant parhaus mewn ymarfer diogelu rhyngasiantaethol. Mae’n rhaid datblygu cynllun gweithredu a chamau gweithredu wedi eu seilio ar argymhellion o’r hyn a ddysgir yn yr adolygiadau. Os yn ymwneud ag oedolyn yna bydd yn dibynnu ar a gyflawnwyd camau gweithredu i ddiogelu cyn y digwyddiad.

Nid yw Adolygiadau Ymarfer Plant ac Adolygiadau Ymarfer Oedolion yn ymchwiliadau i sut y bu unigolyn farw na phwy sydd i’w feio. Mae’r rhain yn faterion y mae Crwneriaid a’r Llysoedd Troseddol yn ymdrin â hwy (gweler Lladdiadau).

Beth yw Adolygiad Lladdiad Domestig?

Mae Adolygiad Lladdiad Domestig yn “adolygiad amlasiantaeth o’r amgylchiadau lle mae marwolaeth unigolyn 16 oed neu hŷn wedi, neu’n ymddangos o fod wedi, deillio o drais, camdriniaeth neu esgeulustod gan unigolyn yr oeddent yn perthyn iddo neu yr oeddent, neu wedi bod, mewn perthynas bersonol agos gyda hwy, neu aelod o’r un aelwyd â hwy eu hunain”. (Llywodraeth y Du )

Gweler Cam-drin Domestig am ddiffiniad llawn. Mae perthynas bersonol agos yn cynnwys perthnasoedd rhwng oedolion sydd, neu wedi bod, yn bartneriaid agos neu aelodau o’r un teulu, waeth beth fo’u rhywedd neu eu rhywioldeb.

Pwrpas Adolygiad Lladdiad Domestig yw i:

  • sefydlu pa wersi sydd i’w dysgu yn ymwneud â’r modd y mae gweithwyr proffesiynol lleol a sefydliadau yn gweithio’n unigol a gyda’i gilydd i ddiogelu dioddefwyr.
  • nodi’n glir beth yw’r gwersi hynny drwy argymhellion, o fewn a rhwng asiantaethau, sut ac o fewn pa derfynau amser y dylid eu cyflawni, a’r newidiadau a ddisgwylir.
  • gweithredu’r gwersi hyn ar gyfer gwasanaethau, gan gynnwys diweddaru polisïau a gweithdrefnau os yn briodol.
  • atal lladdiadau domestig yn y dyfodol a gwella gwasanaethau ar gyfer pob dioddefwr a’u teuluoedd drwy wella gweithio mewn partneriaeth yn fewnol ac yn allanol.
  • cyfrannu at well dealltwriaeth o drais domestig a chamdriniaeth.
  • amlygu arferion da.

 Nid yw Adolygiadau Lladdiadau Domestig yn ymholiadau i sut y bu unigolyn farw na phwy sydd i’w feio. Mae’r rhain yn faterion y mae Crwneriaid a’r Llysoedd Troseddol yn ymdrin â nhw. Mae’n rhaid i bob Adolygiad Lladdiad Domestig gael ei gyflwyno i’r Swyddfa Gartref ar gyfer sicrhau ansawdd (gweler Lladdiadau).

Fe all Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd arwain at newidiadau yn dilyn adolygiad gofynnol i laddiad domestig (cymal 24).

Adolygiadau Diogelu Unedig Sengl (ADUS)

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried dod ag Adolygiadau Amddiffyn Plant, Adolygiadau Amddiffyn Oedolion ac Adolygiadau Lladdiadau Domestig i gyd o dan un Adolygiad Diogelu Unedig Sengl, efo proses a chanllawiau statudol newydd yn cael eu paratoi ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru. Yn ymuno â hwy bydd yr Adolygiadau Lladdiadau Iechyd Meddwl, yr Adolygiadau Lladdiadau Arfau Ymosodol (sydd i’w dreialu yn 2022) ac unrhyw adolygiadau eraill a allai gael eu cyflwyno drwy ddeddfwriaeth gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Mae’r Rhaglen eisoes ar waith gydag ystorfa ganolog ar gyfer storio dadansoddiad yn ddiogel yn cael ei chreu gan Brifysgol Caerdydd o dan gyfarwyddyd Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys. Mae canllawiau newydd i gyflawni adolygiadau o dan system unigol tra’n cyflawni yn erbyn deddfwriaeth ddatganoledig a heb ei datganoli yn cael eu paratoi. Fe fydd Canolbwynt Cydlynu Adolygiadau Diogelu Unedig Sengl newydd yn darparu ysgrifenyddiaeth, yn dal rhestr o gadeiryddion a gymeradwywyd ac yn cydgysylltu gyda byrddau partneriaeth diogelu ranbarthol a phartneriaethau diogelwch cymunedol ar gynnydd yn erbyn argymhellion a chamau gweithredu. Hefyd fe fydd cyfle i adnabod themâu a datblygu a darparu hyfforddiant priodol ac addysg i wella’r canlyniadau yn y tymor byr a’r hirdymor o ganlyniad i’r adolygiadau hyn.

Fe fydd yr adran hon yn cael ei diweddaru wrth i’r Rhaglen ddatblygu ymhellach.

Cyhoeddir dogfennau briffio saith munud i rannu gwybodaeth am y gwaith ar y prosiect i gyflawni’r Adolygiad Diogelu Unedig Sengl gyda’r fersiwn ddiweddaraf ar gael yn ein hadran diweddariadau ar y wefan. Yn ogystal, mae’r Daflen Ffeithiau ADUS yn dangos rhai o’r newidiadau a ddaw i rym wrth weithredu’r broses Adolygiad Diogelu Unedig Sengl.

Adolygiadau Diogelu

Adolygiadau Lladdiadau Domestig

  • Sefydlodd Deddf Trais Domestig, Troseddau a Dioddefwyr 2004 sail statudol ar gyfer Adolygiadau Lladdiadau Domestig a weithredwyd gyda chanllawiau priodol yn 2011 ac fe’i hadolygwyd yn 2016. Mae’n nodi “yr amgylchiadau lle mae marwolaeth unigolyn 16 oed neu hŷn yn, neu’n ymddangos ei fod yn, ganlyniad i drais, camdriniaeth neu esgeulustod gan:
    • unigolyn yr oedd yn perthyn iddo neu yr oedd ef/hi mewn, neu wedi bod mewn, perthynas bersonol agos gyda hwy neu
    • aelod o’r un aelwyd â hwy eu hunain, wedi ei gynnal gyda’r bwriad o nodi’r gwersi i’w dysgu o’r farwolaeth.”

Lle y bodlonir y diffiniad, a hynny’n cael ei gadarnhau gan y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol, yna mae’n rhaid cynnal Adolygiad Lladdiad Domestig.

Mae Deddf Cam-drin Domestig 2021 yn ei gwneud yn ofynnol i’r holl argymhellion o Adolygiadau Lladdiadau Domestig i gael eu cyflwyno i’r Comisiynydd Cam-drin Domestig.

 


Cymorth a chefnogaeth

Ar gyfer dioddefwyr, teuluoedd a phobl bryderus

Os ydych chi neu aelod o’ch teulu yn destun adolygiad, yna fe ddylech gael cynnig cymorth eiriolaeth gan yr awdurdod lleol, bwrdd diogelu rhanbarthol neu Gadeirydd yr adolygiad. Mae’r eiriolaeth yno i’ch cefnogi drwy’r broses a chynrychioli pan fo’n briodol. Mae yna eiriolwyr arbenigol ar gyfer plant ac yn ddibynnol ar amgylchiadau’r adolygiad a gaiff ei gynnal.