Neidio i'r prif gynnwys

Cyflwyniad i’r SUSR - Cyfres Seminar Hydref/ Gaeaf

Archwilio is-bynciau

Cyflwyniad i’r Adolygiad Diogelu Unedig Sengl (SUSR)

Ar Dydd Mawrth 06 Rhagfyr 2022, 10:00 – 10:45cynhaliodd Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru seminar ar y rhaglen Adolygiad Diogelu Unedig Sengl (SUSR), a ymgymerir gan Lywodraeth Cymru ochr yn ochr â phartneriaid er mwyn dod â’r holl adolygiadau ynghyd mewn un system er mwyn lleihau’r baich ar ddioddefwyr, eu teuluoedd a’u ffrindiau. Roedd y seminar yn canolbwyntio ar roi’r cefndir, pam mae’r SUSR mor bwysig, y cynnydd hyd yma a’r camau nesaf.

Roedd y seminar yn cynnwys cyflwyniadau gan y rheiny sy’n gweithio’n uniongyrchol ar wahanol elfennau o’r SUSR. Roedd yn darparu gwybodaeth cyn i raglen yr SUSR gael ei chyflwyno yn 2023, pan fydd mwy o seminarau a chyfarfodydd yn cael eu cynnal i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i bawb dan sylw.

Isod fe welwch y pecyn seminar a recordiad.