Neidio i'r prif gynnwys

Ymgysylltu â Dinasyddion a'r Gymuned - Cyfres Seminar Gaeaf

Archwilio is-bynciau

Ymgysylltu â Dinasyddion a’r Gymuned:  Cryfhau ymateb lleol i Droseddau Cyfundrefnol Difrifol drwy Glirio, Cynnal ac Adeiladu

Ar Dydd Iau 10 Chwefror 2022, 10:00 – 11:30, cynhaliodd Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru seminar Ymgysylltu â Dinasyddion a’r Gymuned i dynnu sylw at bwysigrwydd ymgysylltu â’n cymunedau yng Nghymru i sicrhau bod llais y gymuned yn cael ei wirioneddol gynrychioli mewn prosesau gwneud penderfyniadau a chynllunio i gryfhau’r ymateb lleol i Droseddau Cyfundrefnol Difrifol.  Roedd y cyflwyniadau’n amlinellu manteision y model Clirio, Cynnal ac Adeiladu a sut y gall partneriaethau ddefnyddio’r dulliau hyn yn eu cynlluniau busnes er budd cymunedau.  Roedd hefyd cyflwyniad i Dewis Cymru, sy’n eich galluogi i ddod o hyd i grwpiau cymunedol lleol yn hawdd.

Isod fe welwch y pecyn seminar a recordiad.