Cynhelir prawf cenedlaethol ar system newydd Rhybuddion Argyfwng y DU ddydd Sul 23 Ebrill am 15:00: gall y darllediad fod yn weithredol tan 16:00 (dim ond unwaith y bydd ffonau’n cael y rhybudd).
Anfonir y rhybudd prawf i’r rhan fwyaf o ffonau symudol ledled y DU. Bydd dyfeisiau’n gwneud sain unigryw, tebyg i seiren am hyd at 10 eiliad, gan gynnwys ar ffonau sydd wedi’u newid i’r modd distaw.
Bydd ffonau hefyd yn dirgrynu ac yn arddangos neges am y prawf. Gallwch glywed enghraifft o sut fydd y prawf yn edrych ac yn swnio yn y fideo hwn (Saesneg yn unig).
Gwasanaeth gan lywodraeth y DU yw Rhybuddion Argyfwng a fydd yn eich rhybuddio os bydd perygl i fywyd gerllaw. Mewn argyfwng, bydd eich ffôn symudol neu lechen yn derbyn rhybudd gyda chyngor ar sut i gadw’n ddiogel. Am Rybuddion Argyfwng – GOV.UK
Nid yw Llywodraeth y DU wedi darparu ond graffegau cyfyngedig o’u pecyn cymorth ehangach yn y Gymraeg, mae’r rhain i’w gweld yma: dolen at graffegau iaith ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg).
Mae pecyn cymorth ehangach Llywodraeth y DU wedi ei rannu’n adrannau defnyddiol a nodir isod:
- Graffegau trafnidiaeth a modurwyr.
- Graffegau cynulleidfaoedd bregus.
- Graffegau prawf cyffredinol 23 Ebrill ar draws y DU.
- Holi ac Ateb a Thaflenni Ffeithiau.
- Y Cyfryngau Cymdeithasol.
- Dolen at bob graffeg pecyn cymorth.
PWYSIG: Mae Refuge wedi creu canllaw i oroeswyr ar reoli rhybuddion os oes ganddynt ffôn cyfrinachol y gallent ei guddio rhag partner camdriniol.