Neidio i'r prif gynnwys

Troseddau a Chyfiawnder

Archwilio is-bynciau

Beth yw’r System Cyfiawnder Troseddol?

Mae’r system cyfiawnder troseddol yn cynnwys casgliad o asiantaethau sy’n gyfrifol am gynnal y gyfraith er budd yr holl ddinasyddion. Mae’n ymwneud yn benodol ag:

 

  • Atal, ymchwilio a datgelu trosedd.
  • Casglu tystiolaeth mewn cysylltiad â gweithgareddau troseddol.
  • Arestio, cyhuddo a dwyn troseddwyr i dreial.
  • Cosb i’r rheiny sy’n euog o weithred droseddol.
  • Y ddedfryd sy’n cael ei chyflwyno gan lys.
  • Darparu cefnogaeth i atal troseddwyr rhag ail-droseddu.
  • Sicrhau fod anghenion y dioddefwyr yn cael eu cyflenwi’n ddigonol.”

(Ffynhonnell: Peter Joyce, 2009, Criminology and Criminal Justice)

O fewn y pwnc hwn mae’r system cyfiawnder troseddol yn cwmpasu System Cyfiawnder Oedolion (yn cynnwys Plismona, Llysoedd, Carchardai, Gwasanaeth Prawf, Parôl) a’r System Cyfiawnder Ieuenctid (yn cynnwys Gwyriad, Llysoedd Ieuenctid, Dalfa Ieuenctid, Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid). Mae hawliau a gwasanaethau penodol yn bodoli ar gyfer Dioddefwyr a Thystion o drosedd. Mae meysydd perthnasol yn cynnwys Cynlluniau Gwrthdyniadol / Datrys y Tu Allan i’r Llys ac ymyraethau eraill i atal neu leihau ail-droseddu, yn cynnwys Cyfiawnder Adferol, Rhaglenni Merched a Rheolaeth Integredig o Droseddwyr.


Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru

Mae’r system cyfiawnder troseddol sy’n cynnwys awdurdodaeth gyfreithiol Cymru a Lloegr yn neilltuedig a heb ei ddatganoli. Felly, mae cyfiawnder troseddol yng Nghymru sy’n cynnwys cyfrifoldeb dros yr heddlu, llysoedd, carchardai a’r gwasanaeth prawf yng Nghymru yn nwylo Senedd a Llywodraeth y DU. Fodd bynnag, mae gan Senedd a Llywodraeth Cymru lawer o bwerau sy’n gorgyffwrdd â’r broses o gyflenwi’r system cyfiawnder. Mae’r rhain yn cynnwys gwasanaethau diogelu, iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau, addysg a hyfforddiant sgiliau sy’n berthnasol i adsefydlu troseddwyr, a darparu tai i droseddwyr sy’n ailgartrefu yn y gymuned.

Ar ben hynny mae Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gydag asiantaethau cyfiawnder troseddol i gefnogi cymunedau mwy diogel yn cynnwys trwy’r Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru, Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru a’r Bwrdd Partneriaeth Plismona i Gymru sy’n trafod a chynghori ar achosion o blismona. Mae Swyddogion Cefnogi Cymunedau’r Heddlu yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru i gefnogi cymunedau mwy diogel. Hefyd, mae cynlluniau partneriaethau traws-lywodraethol yn bodoli i gefnogi troseddwyr benywaidd a throseddwyr ifanc sy’n debygol, neu mewn risg o fod yn rhan o’r system cyfiawnder troseddol (darllenwch mwy ar ein tudalennau is-bynciol am Raglenni Merched a Chyfiawnder Ieuenctid).

Yn arbennig fe gyhoeddwyd yr Adroddiad Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru yn 2019. Tasg y Comisiwn oedd adolygu’r gweithrediad o’r system gyfiawnder yng Nghymru a phennu gweledigaeth hirdymor ar gyfer ei ddyfodol. Penderfynwyd bod “pobl Cymru angen, ac yn haeddu system well. Dydi cyfiawnder ddim yn ynys a dylai gael ei integreiddio’n llwyr i bolisïau ar gyfer Cymru gyfiawn, deg a llewyrchus.”

Gweler yr adroddiad uchafbwyntiau diweddaraf gan Fwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru, gweler y dolenni isod i weld holl raglen waith a negeseuon allweddol BCT Cymru.

Negeseuon Ailweddol ar gyfer Mawrth 2024

Podlediad Cymunedau Mwy Diogel

Mae deddfwriaeth sy’n berthnasol i wahanol feysydd o’r system gyfiawnder i’w gael o dan bob pwnc.

Mae cyrsiau am ddim ar OpenLearn gan y Brifysgol Agored yn cynnwys:


Cymorth a Chefnogaeth

Ar gyfer dioddefwyr, teuluoedd a phobl bryderus

Os ydych wedi bod yn dyst neu’n ddioddefwr o drosedd dylech ei riportio i’r Heddlu. Ffoniwch 101 neu ei riportio ar-lein yn dibynnu ar eich rhanbarth o Gymru – Heddlu De Cymru, Heddlu Dyfed Powys, Heddlu Gwent neu Heddlu Gogledd Cymru. Mewn achos o argyfwng ffoniwch 999.

Os ydych yn fyddar neu’n drwm eich clyw, defnyddiwch wasanaeth ffôn testun yr Heddlu 18000 neu anfonwch neges testun at 999 os ydych wedi cofrestru o flaen llaw gyda’r gwasanaeth SMS mewn argyfwng.

Os oes gennych wybodaeth am drosedd ac yn dymuno bod yn anhysbys, cysylltwch â’r elusen annibynnol Crimestoppers ar 0800 555 111 neu ar-lein.

Os ydych wedi cael eich effeithio gan drosedd, gallwch gael mynediad i gefnogaeth gan Gymorth i Ddioddefwyr, yn cynnwys trwy eu llinell gymorth 24/7 cenedlaethol am ddim ar 08 08 16 89 111, neu gael cymorth ar-lein.

Am fwy o gefnogaeth a chymorth arbenigol ewch i’r adran Pynciau ar ein gwefan.