“Mae cyfiawnder adferol yn rhoi’r cyfle i ddioddefwr i gwrdd neu gyfathrebu gyda’u troseddwr i egluro effaith go iawn y drosedd – mae’n grymuso dioddefwyr drwy roi llais iddyn nhw. Mae hefyd yn gwneud troseddwyr yn atebol am yr hyn y maen nhw wedi’i wneud ac yn eu helpu i gymryd cyfrifoldeb ac i wneud iawn am hynny. Mae cyfiawnder adferol fel arfer yn cynnwys cynhadledd lle mae’r dioddefwr yn cwrdd â’r troseddwr wyneb yn wyneb. Weithiau nid cyfarfod wyneb yn wyneb yw’r ffordd orau ymlaen ac yn hytrach bydd y dioddefwr a’r troseddwr yn cyfathrebu drwy lythyrau, cyfweliadau wedi’u recordio neu ar fideo.” Cyngor Cyfiawnder Adferol