Neidio i'r prif gynnwys

Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ac Anrhefn

Archwilio is-bynciau

Beth yw Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ac Anrhefn?

Yn y gyfraith diffinnir ymddygiad gwrthgymdeithasol fel “ymddygiad gan berson sy’n achosi, neu’n debygol o achosi, aflonyddwch, braw neu drallod i bobl nad ydynt o’r un aelwyd â’r person hwnnw.” (Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 a Deddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011)

Ar gyfer aflonyddwch, braw neu drallod i bobl o’r un aelwyd ewch i’r adran Trais yn erbyn Merched, Cam-Drin Domestig a Thrais Rhywiol ar y wefan.

Ceir sawl ffurf ar ymddygiad gwrthgymdeithasol a gaiff eu hesbonio’n fanylach:

Gall y rhain fod yn gysylltiedig ag elfennau eraill, ac maent i gyd yn bwysig er mwyn i bobl deimlo’n ddiogel yn y gymuned:

Gall digwyddiadau ymddangos yn fach, ddim yn bwysig, yn ddibwys ac efallai y byddwch yn amau eich hun. Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol fynd yn raddol waeth, gall barhau am gyfnod hir a gall fod yn ddifrifol iawn. Nid yw pob ymddygiad gwrthgymdeithasol yn drosedd, ond mae hyn yn wir am lawer iawn ohonynt neu gallent ddatblygu i fod yn droseddau.

Mae nifer o sefydliadau wedi nodi amryw o weithgareddau a allai fod yn ymddygiad gwrthgymdeithasol:

  • Sŵn – yn cynnwys cerddoriaeth uchel, gwneud gwaith llaw neu ddefnyddio peiriannau yn ystod oriau anghymdeithasol, partïon swnllyd
  • Gweiddi, rhegi a ffraeo
  • Dychryn/ymddygiad bygythiol drwy fygythion neu drais yn unigol neu mewn grwpiau 
  • Aflonyddwch a stelcio (gweler Stelcio ac Aflonyddwch)
  • Cam-drin geiriol
  • Ymddygiad camdriniol wedi’i anelu at bobl benodol â phriodoleddau (gweler Troseddau Casineb
  • Niwsans cerbydau – gyrru’n ddiofal, yn cynnwys ymgasglu ar gyfer rasio ceir neu yrru o gwmpas mewn ceir, neu barcio i atal mynediad i berson at eu cartref neu eu heiddo
  • Tipio anghyfreithlon, yn cynnwys gadael cerbydau
  • Niwsans anifeiliaid
  • Fandaliaeth, yn cynnwys difrod i eiddo, gosod posteri’n anghyfreithlon a graffiti
  • Defnydd gwrthgymdeithasol o gyffuriau ac alcohol (gall gynnwys delio cyffuriau, gweler Delio a Masnachu mewn Cyffuriau)
  • Tanau bwriadol (gweler Gosod Tanau’n Fwriadol)
  • Gangiau a throseddau cyfundrefnol (gweler Camfanteisio Troseddol)
  • Camddefnyddio tân gwyllt

 (Cymorth i Ddioddefwyr, ASB Help a Crimestoppers)

Gall effaith Ymddygiad Gwrthgymdeithasol gynnwys cynnydd mewn gorbryder ac ofn, ac unigolion, teuluoedd a phobl mewn cymunedau’n teimlo’n anniogel ac yn methu â gadael eu cartrefi neu’n methu â chael mynediad at gyfleusterau neu rannau penodol o’u cymunedau lleol.

Cynllun Gweithredu Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2023

Lansiwyd y Cynllun Gweithredu Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ar 27 Mawrth 2023. Mae’r Cynllun yn nodi dull y llywodraeth o ddileu ymddygiad gwrthgymdeithasol ac adfer hawl pobl i deimlo’n ddiogel yn eu hardal leol ac i ymfalchïo ynddi. Mae’r cynllun yn ddull newydd uchelgeisiol a phellgyrhaeddol a fydd yn rhoi’r arfau i Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu, awdurdodau lleol ac asiantaethau eraill fynd i’r afael â malltod ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n wynebu cymunedau ledled Cymru a Lloegr.

Gweler y dolenni wedi’u diweddaru i’r dudalen canllawiau diwygiedig i weithwyr proffesiynol a dioddefwyr.

Canllawiau Statudol & Egwyddorion Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2022

Mae Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru wedi rhyddhau sesiwn briffio saith munud ar ôl i’r Swyddfa Gartref ryddhau Canllawiau Statudol Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ym mis Mehefin 2022. Cliciwch yma am y sesiwn briffio saith munud diweddaraf.

Mae Bwrdd Strategol Ymddygiad Gwrthgymdeithasol y Swyddfa Gartref wedi datblygu set o Egwyddorion Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ar gyfer cymunedau lleol. Lansiwyd y rhain yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2022 ac maent wedi’u cynllunio i’w defnyddio gan unrhyw asiantaeth sy’n ymwneud â mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Er enghraifft, Cynghorau, Partneriaethau Diogelwch Cymunedol, yr Heddlu, Iechyd, Cymdeithasau Tai, Swyddogion Diogelwch Cymunedol, Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, ac unrhyw asiantaeth arall sy’n ymwneud â’r broses o’r eiliad y mae digwyddiad wedi digwydd hyd at gau achosion a chymorth i ddioddefwyr.

Mae’r Ddeddf hon yn amlinellu’r chwe ffordd sydd ar gael ar hyn o bryd i reoli ymddygiad gwrthgymdeithasol sef: gwaharddebau sifil, gorchmynion ymddygiad troseddol; hysbysiadau amddiffyn cymunedol; gorchmynion diogelu mannau agored cyhoeddus; gorchmynion cau; pwerau gwasgaru. Cyflwynwyd hefyd y sbardun cymunedol a dulliau unioni cymunedol.

  • Contract Ymddygiad Derbyniol

Cytundeb ysgrifenedig gwirfoddol gydag unigolyn yw Contract Ymddygiad Derbyniol, a elwir hefyd yn Gytundeb Ymddygiad Derbyniol. Mae’r unigolyn yn cytuno i gadw at y telerau a nodwyd a gweithio gyda’r asiantaethau i fynd i’r afael â’u Hymddygiad Gwrthgymdeithasol. Mae’n rhan o’r opsiynau ac er nad yw’r contract wedi’i rwymo mewn cyfraith, os eir yn erbyn y telerau, gellir ei ddefnyddio fel tystiolaeth i ddangos bod angen camau gorfodi i fynd i’r afael â’r Ymddygiad Gwrthgymdeithasol. Am ragor o wybodaeth, ymwelwch â gwefan ASB Help.

  • Contract Rhianta

Cytundeb gwirfoddol rhwng rhiant/rhieni neu warcheidwad plant sydd wedi cyflawni Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn y gymuned yw Contract Rhianta. Mae’r contractau hyn yn aml yn gweithio ochr yn ochr â Chontractau Ymddygiad Derbyniol a dylent ymgorffori’r rhieni mewn trefniadau adsefydlu ac atal achosion pellach o’r ymddygiad.

  • Gorchmynion Rhianta

Cyflwynir Gorchmynion Rhianta drwy system y Llys pan fo problem ag ymddygiad unigolyn ifanc. Mae’r rhain wedi’u rhwymo mewn cyfraith (Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998) a bydd achosion o anghydffurfiaeth yn arwain at ddirwy.

  • Rhybudd Amddiffyn Troseddwr

Ysgrifennir a darperir Rhybudd Amddiffyn Troseddwr cyn cyflwyno Hysbysiad Amddiffyn Cymunedol. Mae’n nodi bod yn rhaid i’r problemau ymddygiad ddod i ben, neu fel arall, bydd yn rhaid cyflwyno Hysbysiad.

  • Gwaharddebau sifil 

Mae llysoedd yn dyfarnu gwaharddebau i rwystro pobl rhag cymryd rhan mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol. Gellir eu dyfarnu heb rybudd ond maent ar gael dim ond os oes trais wedi cael ei fygwth neu wedi cael ei ddefnyddio.

  • Gorchmynion ymddygiad troseddol

Fe’u rhoddir gan lys troseddol yn erbyn person sydd wedi ei gael yn euog o drosedd ac sy’n achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol.

  • Pwerau gwasgaru

Mae’r rhain yn galluogi’r heddlu i roi gorchymyn i berson sy’n achosi aflonyddwch, braw neu drallod i adael ardal benodol am hyd at 48 awr.

  • Hysbysiadau amddiffyn cymunedol

Gall awdurdodau lleol, yr heddlu a rhai cymdeithasau tai eu cyflwyno er mwyn mynd i’r afael ag amrywiaeth eang o broblemau, megis taflu sbwriel a niwsans sŵn.

  • Gorchmynion diogelu mannau agored cyhoeddus

Gall awdurdodau lleol eu defnyddio i atal ymddygiad parhaus, afresymol a/neu niweidiol.

  • Gorchmynion cau

Gorchymyn llys i gau eiddo sy’n achosi niwsans, anrhefn neu ymddygiad troseddol difrifol, a gosod gwaharddiad dros dro ar ganiatáu i unrhyw un feddiannu’r eiddo.

  • Achos cymryd meddiant

Troi allan y cyflawnwr ymddygiad gwrthgymdeithasol drwy’r llysoedd.

  • Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus Hwylus (E-PSPO) 

Cyflwynwyd drwy Ddeddf yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd 2022 i ddiogelu rhag niwed gan brotestiadau mewn ysgolion, canolfannau brechu a safleoedd Profi, Olrhain a Diogelu. Rhaid i’r Cyngor ymgynghori gyda phrif swyddog yr heddlu a chorff plismona lleol, yr ysgol berthnasol neu awdurdod GIG. Gall fod mewn lle am chwe mis ac mae mynd yn groes iddo yn drosedd.

 

Gellir dod o hyd i offer a phwerau pellach yn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014: Pwerau ymddygiad gwrthgymdeithasol. Canllawiau statudol ar gyfer gweithwyr proffesiynol rheng flaen, a ddiwygiwyd ym mis Ionawr 2021.

  • Resolve

Gwefan Resolve – mae’n cynnwys gwybodaeth am eu rhaglenni BTEC ac amryw o adnoddau eraill

  • ASB Help

Podcast Sbardun Cymunedol

  • Sanctuary

Deall ymddygiad gwrthgymdeithasol (YouTube)

  • Cymdeithas Llywodraeth Leol

Gweminar Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn ein cymunedau

Dolenni Defnyddiol

ASB Help – gwybodaeth ar gyfer dioddefwyr ac ymarferwyr

Ewch i’r Wefan

Cymorth i Ddioddefwyr – gwybodaeth a chefnogaeth ar gyfer dioddefwyr 

Ewch i’r Wefan

Crimestoppers – gwybodaeth am beth yw ymddygiad gwrthgymdeithasol a sut i adrodd amdano

Ewch i’r Wefan

Resolve – gwybodaeth a chyngor ar gyfer ymarferwyr

Ewch i’r Wefan


Cymorth a Chefnogaeth

Ar gyfer dioddefwyr, teuluoedd a phobl bryderus

Mae ASB Help yn rhoi gwybodaeth a chyngor i’r rhai sy’n dioddef ymddygiad gwrthgymdeithasol yng Nghymru a Lloegr. Mae ganddynt hefyd wybodaeth am bwy y dylid dweud wrthynt, megis Awdurdodau Lleol, yr Heddlu a Chymdeithasau Tai.

Mae Sbardun Cymunedol (a elwir hefyd yn adolygiad achos Ymddygiad Gwrthgymdeithasol) ar gael drwy Awdurdodau Lleol (gweler y Cyfeirlyfr), neu drwy bedair gwefan yr heddlu (Dyfed Powys, Gwent, Gogledd Cymru, De Cymru). Os byddwch chi neu unrhyw un arall wedi adrodd am ddigwyddiadau dair neu ragor o weithiau o fewn chwe mis, yna gallwch ddefnyddio’r Sbardun er mwyn cynnal adolygiad fel bod yr asiantaethau’n ymdrin ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol di-baid. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan ASB Help.

Os byddwch yn dioddef ymddygiad gwrthgymdeithasol, efallai y bydd yn rhaid i chi helpu i roi tystiolaeth cyn y gellir cymryd camau gweithredu.