Categorïau’r gwobrau
Gall unigolion enwebu eu hunain ar gyfer y gwobrau neu gael eu henwebu gan drydydd parti. Croesawir enwebiadau ar gyfer unrhyw unigolyn, sefydliad neu brosiect yng Nghymru p’un ai a ydynt yn cael eu talu neu ddim yn cael eu talu o’r sector cyhoeddus, y sector preifat neu’r trydydd sector – elusennau, grwpiau gwirfoddol a grwpiau cymunedol.
Mae yna bedwar categori ar ddeg o wobrwyon yn y meysydd canlynol:
- Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
- Atal Troseddu
- Ymyrraeth Gynnar
- Cydraddoldeb, Cynhwysiant a Chydlyniant
- Llywodraethu
- Caethwasiaeth Fodern a Chamfanteisio
- Troseddu a Chyfiawnder
- Troseddu Cyfundrefnol
- Partneriaethau
- Diogelwch y Cyhoedd
- Diogelu
- Trais Difrifol
- Terfysgaeth ac Eithafiaeth
- Trais yn Erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
Beirniadu
Bydd y ceisiadau yn cael eu hadolygu gan banel dyfarnu a fydd yn penderfynu ar enillwyr y categorïau a’r enillwyr cyffredinol. Caiff aelodau’r panel eu dewis i osgoi cynifer o achosion o wrthdaro buddiannau â phosibl, tra’n dod â’r rhai hynny sydd â gwybodaeth arbenigol am ddiogelwch cymunedol yn y llywodraeth, y sector cyhoeddus neu’r trydydd sector ynghyd. Mae’r panel yn cynnwys cynrychiolydd o Lywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yr Heddlu yng Nghymru a Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru.
Os bydd unrhyw gwestiynau neu os bydd y panel angen unrhyw eglurhad er mwyn gwneud penderfyniad ar sail gwybodaeth fe fydd Tîm Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru yn cysylltu â’r enwebydd ac os oes angen yr enwebai. Bydd penderfyniad y panel yn derfynol.
Meini prawf sgorio
Bydd pob cais yn cael ei sgorio ar:
Atal
- A yw’r fenter yn atal rhywbeth rhag digwydd?
- A yw’n atal mater rhag gwaethygu neu ailddigwydd?
Arloesedd neu Welliant
- A yw’r ymagwedd yn arloesol?
- A yw’n gwella ar brofiad blaenorol?
Effaith
- Pa effaith y mae’r fenter wedi’i chael ar unigolion neu gymunedau?
- Sut mae wedi gwella ansawdd bywyd neu ddiogelwch cymunedol?
Bydd y beirniaid yn sgorio pob cais o 1 i 10, ym mhob un o’r meysydd hyn. Bydd y sgôr cyffredinol uchaf yn y categori yn cael ei ddyfarnu fel yr enillydd. Bydd yr enillydd cyffredinol yn cael ei benderfynu gan y sgorau uchaf a’r fenter neu’r prosiect y mae’r beirniaid yn teimlo sy’n arddangos rhagoriaeth orau.