Neidio i'r prif gynnwys

Trais yn Erbyn Menywod, Cam-Drin Domestig a Thrais Rhywiol

Archwilio is-bynciau

Beth yw Trais yn Erbyn Menywod, Cam-Drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV)?

Trais yn erbyn Menywod, Cam-Drin Domestig a Thrais Rhywiol yw ystyr VAWDASV.

Mae’n cynnwys Trais yn Erbyn Menywod (a merched), Cam-Drin Domestig, Trais a Thrais Rhywiol, Aflonyddu Rhywiol, Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod, Trais ar sail Anrhydedd, Priodas Dan Orfod, Stelcian, Masnachu mewn Pobl a mathau eraill o drais.

Amcangyfrifir bod tua 3 miliwn o ferched ar draws y DU yn profi trais, trais domestig, priodas dan orfod, stelcian, cam-fanteisio rhywiol, masnachu mewn pobl a mathau eraill o drais bob blwyddyn. Mae hyn gyfwerth â phoblogaeth Cymru.

Adroddiad yr Ysgrifennydd Cyffredinol, 2006

Mae’n bwysig nodi y gall y pob rhyw fod yn ddioddefwyr a/neu gyflawnwyr Cam-Drin Domestig a Thrais Rhywiol.

Mae Strategaeth 2022 i 2026 Trais yn Erbyn Menywod, Cam-Drin Domestig a Thrais Rhywiol Cymru ar gael, a lansiwyd ym mis Mai 2022.

Gweler y Strategaeth yma

Trais yn Erbyn Menywod, Cam-Drin Domestig a Thrais Rhywiol Crynodeb o’r Gorchmynion.

Podlediad Cymunedau Mwy Diogel

Roedd Cyfres 2 o’r Podlediad Cymunedau Mwy Diogel yn archwilio diogelwch menywod a merched yng Nghymru.

Gwrandewch yma

Dyma’r brif ddeddfwriaeth sy’n effeithio ar VAWDASV yng Nghymru a’r DU ar hyn o bryd: 

  • Deddf Cam-Drin Domestig 2021
  • Deddf Trais yn erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015
  • Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
  • Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
  • Deddf Troseddu Difrifol 2015
  • Deddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a’r Heddlu 2005
  • Deddf Troseddau Rhyw 2003 (Rhan 1)
  • Deddf Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod 2003
  • Deddf Tai (Cymru) 2014
  • Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014
  • Deddf Plismona a Throsedd 2017
  • Deddf Diogelwch rhag Aflonyddu 1997
  • Deddf Diogelu Rhyddidau 2012
  • Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998
  • Deddf Trais Domestig, Troseddu a Dioddefwyr 2004
  • Deddf Cyfraith Teulu 1996
  • Cynllun datgelu Trais Domestig: canllawiau (2012) ‘Clare’s Law’
  • Deddf Plant a Phobl Ifanc 1933
  • Deddf Plant 2004 (Cymru a Lloegr)
  • Deddf Hawliau Dynol 1998
  • Y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol
  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (mae’r DU wedi cadarnhau)
  • Adran 47 Deddf Plant 1989
  • Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 
  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar ddileu pob math o Wahaniaethu yn erbyn Merched

Mae’n bwysig nodi bod un Bil yn mynd trwy Senedd y DU, sy’n debygol o ychwanegu at hyn, sef Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd.

Mae Deddf Trais yn erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 (Deddf VAWDASV) yn rhoi dyletswydd ar y Sector Cyhoeddus i nodi a darparu cymorth arbenigol. Caiff ei adnabod fel Gofyn a Gweithredu 

darllen mwy

Mae’r Ddeddf yn creu dyletswydd gyffredinol i roi sylw i’r angen i ddileu neu leihau unrhyw ffactorau sy’n cynyddu’r risg o drais yn erbyn merched a genethod, neu sy’n gwaethygu effaith trais o’r fath ar ddioddefwyr.

Mae’r Ddeddf yn rhoi dyletswydd ar Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd Lleol i baratoi, cyhoeddi a gweithredu strategaethau lleol ar y cyd ar gyfer mynd i’r afael â VAWDASV (caniateir rhanbarthol) ac wedyn cymryd camau rhesymol i gyflawni’r amcanion a nodir yn y strategaeth leol. Mae hefyd dyletswydd i ymgynghori cyn cyhoeddi’r strategaeth, ac i’r strategaeth ddangos sut mae gweithio mewn partneriaeth a chydweithio yn gwella gwasanaethau i ddioddefwyr a goroeswyr. Mae angen cynnal asesiad o anghenion er mwyn nodi anghenion lleol a darpariaeth, gan gynnwys asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar gyfer gwasanaethau. 

dewch o hyd i arweiniad yma

Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn rhoi dyletswydd o ran darparu llety priodol pan na fydd unigolyn yn gallu dychwelyd i’w llety presennol heb wynebu camdriniaeth gan aelod arall o’r aelwyd honno.

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn rhoi dyletswydd o ran adrodd ar gyfer diogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl. Mae thema diogelu yn amlwg trwy’r Ddeddf ond mae’r wybodaeth benodol yn Rhan 7. Mae gan Gofal Cymdeithasol Cymru ganllawiau statudol ar eu gwefan 

Mae’r Ddeddf yn rhoi cyfrifoldeb ar bawb i adrodd. Ar gyfer mudiadau a gomisiynir gan y Sector Cyhoeddus, mae’r ddyletswydd yn mynd gyda’r ddarpariaeth gwasanaeth.

Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru ar gael ar-lein yn:  ac mae modd lawrlwytho’r Ap o:

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn amlinellu rôl gyfun y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus. Gellir cyflawni dyletswyddau statudol trwy Gynllun Lles, a all gynnwys VAWDASV. Gall Strategaeth VAWDASV gyflawni’r Ddyletswydd Statudol a chyfrannu at ddatblygiad y Cynllun Lles lleol.

Mae Fframwaith Hyfforddiant Cenedlaethol ar VAWDASV sy’n cynnwys chwe grŵp o weithwyr proffesiynol yn y Gwasanaeth Cyhoeddus:

  • Grŵp 1 – Ymwybyddiaeth cyffredinol (E-ddysgu)
  • Grŵp 2 – Gofyn a Gweithredu
  • Grŵp 3 – Cefnogwyr Gofyn a Gweithredu
  • Grŵp 4 – Sector arbenigol
  • Grŵp 5 – Rheolwyr y sector arbenigol
  • Grŵp 6 – Arweinwyr gwasanaeth cyhoeddus

Dysgu mwy

Mae gan Gofal Cymdeithasol Cymru ddeunydd hyfforddiant ar gyfer plant ac oedolion sydd mewn perygl ar gyfer Diogelu.

ewch i’r wefan

Dylai’r Sector Cyhoeddus cyfan fod yn darparu hyfforddiant i’w staff fel rhan o’r Ddyletswydd, os nad ydych chi’n siŵr, siaradwch â’r adran hyfforddiant.

Dolenni Defnyddiol

Cymorth i Ferched Cymru

Cysylltu Cymorth i Ferched Cymru

Llinell Gymorth Byw Heb Ofn:

0808 10800

Welsh Women’s Aid

Contact Welsh Women’s Aid

Live Fear Free Helpline

0808 80 10800

info@livefearfreehelpline.wales

Mae adnodd sgwrsio byw ar gael 24 awr y dydd.

Gallant eich cynorthwyo trwy gyfrwng y Gymraeg, y Saesneg ac unrhyw iaith arall gan ddefnyddio LanguageLine.

Gall rhai sy’n defnyddio ffôn testun gysylltu â ni trwy Type Talk ar 18001 0808 80 10 800.

Gallwch gysylltu â Llinell Gymorth Byw Heb Ofn trwy neges destun 24/7 ar 078600 77 333.

Cymru Ddiogelach

Ewch i’r Wefan

Ap WalkSafe

WalkSafe

Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgyrch, Iawn, i annog dynion 18-34 oed yng Nghymru i ddysgu am drais ar sail rhywedd. Nod y prosiect yn y pen draw yw creu cymdeithas iawn y gallwn ni i gyd ffynnu ynddi.

Iawn