Neidio i'r prif gynnwys

Trosedd ac Atal Troseddu

Archwilio is-bynciau

Beth yw Trosedd ac Atal Troseddu?

Mae Geiriadur Rhydychen yn disgrifio trosedd yn syml fel “gweithred neu anwaith sy’n dramgwydd a gosbir gan y gyfraith”. Fodd bynnag, er mwyn deall pam fod pobl yn troseddu a cheisio ei rwystro, mae’n rhaid edrych tu hwnt i’r gyfraith, gan gynnwys dylanwad ffactorau cymdeithasol, moesegol a gwleidyddol.

 “Trosedd yw gweithred fwriadol sy’n achosi niwed corfforol neu seicolegol, difrod i neu golli eiddo, ac mae’n erbyn y gyfraith. Mae nifer o wahanol fathau o drosedd a bydd bron pawb yn profi trosedd ar ryw bwynt yn eu bywydau. Cafodd un mewn pump eu heffeithio gan drosedd y llynedd; cyfwerth â deg miliwn o bobl. Mae’n effeithio pobl o holl gefndiroedd, lleoliadau ac oedran; mae mwy nac un mewn deg o blant wedi bod yn ddioddefwyr trosedd yn y flwyddyn ddiwethaf.” Cymorth i Ddioddefwyr

Mae Rhwydwaith Atal Troseddu’r Undeb Ewropeaidd yn diffinio Atal Troseddu fel “gweithgareddau sy’n dderbyniol yn foesegol ac yn seiliedig ar dystiolaeth wedi’u targedu i leihau’r risg o droseddu a’r canlyniadau niweidiol gyda’r nod o weithio tuag at wella ansawdd bywyd a diogelwch unigolion, grwpiau a chymunedau”.

Beth yw Trosedd ac Atal Troseddu?

Mae Arolwg Trosedd Cymru a Lloegr yn cael ei ystyried fel ffynhonnell allweddol o wybodaeth ar dueddiadau mewn trosedd. Mae’n cynnwys troseddau nad ydynt wedi cael eu hadrodd i, neu wedi eu cofnodi gan yr heddlu. Gall wybodaeth o’r fath helpu i adnabod y rhai sydd fwyaf mewn risg o drosedd, sy’n ddefnyddio wrth ddylunio rhaglenni atal troseddu. Mae’r cyhoeddiad diweddaraf yma.

Mae’r Cynllun Curo Trosedd 2021  yn nodi dull strategol Llywodraeth y DU i leihau trosedd: lleihau dynleiddiad, trais difrifol a throsedd cymdogaeth; datguddio a dod a niwed cudd i ben; a chapasiti a galluogrwydd adeilad i ddelio â thwyll a throsedd ar-lein. Mae’r cynllun yn dilyn ffocws ar ‘Strydoedd Mwy Diogel’, cyfres o brosiectau diogelwch cymunedol wedi’u dylunio i fynd i’r afael â throseddau cymunedol megis bwrgleriaeth, dwyn cerbydau a lladrad. Fe wnaeth y ddau rownd dechreuol o’r Gronfa Strydoedd Mwy Diogel fuddsoddi mewn darpariaeth o gynlluniau atal troseddu yn seiliedig ar leoedd, i leihau troseddau meddiangar trwy atal troseddu sefyllfaoedd. Mae’r Coleg Plismona wedi datblygu Pecyn Strydoedd Mwy Diogel, sy’n dod ag ystod eang o wybodaeth ac adnoddau ynghyd.

Mae trydedd rownd o brosiectau yn galluogi arloesi yn ogystal ag ymyraethau traddodiadol i wella diogelwch llefydd cyhoeddus. Gyda ffocws penodol ar leihau trais yn erbyn merched a chynyddu teimlad o ddiogelwch i ferched mewn llefydd cyhoeddus (gweler Cronfa Diogelwch Merched yn y Nos). Maes polisi arall sy’n tyfu yw mynd i’r afael â niwed ar-lein, gyda chyfreithiau rhyngrwyd newydd yn cael eu cynnig gan Lywodraeth y DU yn y Bil Niwed Ar-lein. Yn ystod 2020, cynyddodd y bygythiad o seibrdroseddu gyda mwy o ymosodiadau difrifol yn y DU, a waethygodd yn sgil mwy o weithio o gartref.

Cliciwch ar yr is-destunau i ddysgu mwy. Mae ystod eang o fathau eraill o drosedd wedi’u cynnwys ar draws y prif adran Testunau

  • Trosedd Meddiangar
  • Teledu Cylch Caeedig a Digidol 
  • Troseddau Seibr
  • Masnachu a Delio Cyffuriau
  • Trosedd Gwledig ac Amgylcheddol 

Gellir dod o hyd i ddeddfwriaeth mewn perthynas â mathau gwahanol o drosedd o dan bob testun.

Dolenni Defnyddiol

Cyngor ac Atal Troseddu | Police.uk

Ewch Police.uk

Ask the Police UK

Ewch i’r Wefan

Pecyn Lleihau Trosedd Coleg Plismona

Gweld y Pecyn Lleihau

Canllawiau Ymarferwyr i Ddatrys Problemau y Coleg Plismona

Darllenwch y Canllaw

Pecyn Strydoedd Mwy Diogel y Coleg Plismona

Darllenwch yr Pecyn

Atal Troseddu – diffiniad Ewropeaidd | EUCPN

Darllenwch yr Diffiniad

Cyngor Atal Troseddu (Gwarchod Cymdogaeth)

Ewch i’r Wefan

Diffiniadau o fathau o droseddau | Heddlu Metropolitan

Ewch i’r Wefan

A i Y o Fathau o Droseddau

Darllenwch yr A i Y

Strategaeth Atal Trosedd Modern y Swyddfa Gartref 2016

Darllenwch yr Strategaeth

Immobilise The National Property Register

Ewch i’r Wefan

Canllawiau Diogelwch Atal Troseddu’r Heddlu:

Secured By Design

Ewch i’r Wefan

Beth yw trosedd? – Cymorth i Ddioddefwyr

Ewch i’r Wefan

Canolfan Seibergadernid yng Nghymru

Ewch i’r Wefan


Cymorth a Chefnogaeth

Ar gyfer dioddefwyr, teuluoedd a phobl bryderus

Os ydych chi wedi bod yn dyst neu wedi bod yn ddioddefwr trosedd, adroddwch hyn i’r Heddlu. Ffoniwch 101, neu gallwch adrodd ar-lein yn dibynnu ar eich rhanbarth o fewn Cymru – Heddlu De Cymru, Heddlu Dyfed Powys, Heddlu Gwent neu Heddlu Gogledd Cymru. Mewn argyfwng, ffoniwch 999.

Os ydych yn fyddar neu’n drwm eich clyw, defnyddiwch wasanaeth ffôn testun yr Heddlu 18000 neu anfonwch neges destun ar 999 os ydych wedi cofrestru gyda gwasanaeth argyfwng SMS.

Os oes gennych wybodaeth am drosedd ac yn dymuno aros yn ddienw, cysylltwch â’r elusen annibynnol Crimestoppers ar 0800 555 111 neu ar-lein.

Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan drosedd, gallwch gael mynediad at gymorth gan Gymorth i Ddioddefwyr, gan gynnwys eu llinell gymorth cenedlaethol 24/7 am ddim 08 08 16 89 111, neu gallwch dderbyn cymorth ar-lein.

Gallwch ystyried ymuno â Chynllun Gwarchod Cymdogaeth, neu fentrau eraill a gefnogir gan yr Heddlu megis OWL – Online Watch Link.

I gael rhagor o wybodaeth ar sut i gadw eich hun yn ddiogel rhag trosedd, ewch i’n tudalen Diogelwch Personol ac i gael cymorth a chymorth arbenigol, ewch i’r adran Testunau unigol ar ein gwefan.