Neidio i'r prif gynnwys

Podlediad Cymunedau Mwy Diogel

 

Cyfres 2

Pennod 10: Does dim terfyn oedran i gamdriniaeth

Listen to “Pennod 10: Does dim terfyn oedran i gamdriniaeth” on Spreaker.

Croeso i Gyfres 2 o’r Podlediad Cymunedau Mwy Diogel. Ein gwestai yr wythnos hon yw Ann Williams, Rheolwr Llinell Gymorth Byw Heb Ofn. Yn y bennod yma, byddwn ni’n archwilio sut mae’r Llinell Gymorth yn cefnogi pobl hyn, y prif heriau mae’r boblogaeth yn gwyebu wrth iddynt heneiddio, a sut does dim terfyn oedran i gamdriniaeth.

Cyngor, cefnogaeth a gwybodaeth ychwanegol

Os gwnaethoch chi fwynhau’r bennod hon…

Hoffwch, tanysgrifiwch, ac ymunwch yn y drafodaeth ar Drydar trwy ein tagio @CymMwyDiogel. Efallai yr hoffech chi wrando ar y bennod Saesneg cyfatebol gyda Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru.

Pennod 9: Mynd i’r afael ag ymddygiad niweidiol gyda phlant a phobl ifanc

Listen to “Pennod 9: Mynd i’r afael ag ymddygiad niweidiol gyda phlant a phobl ifanc” on Spreaker.

Croeso i Gyfres 2 o’r Podlediad Cymunedau Mwy Diogel. Ein gwestai yr wythnos hon yw Bethan James, Rheolwr Rhaglen Ysgolion Heddlu Dyfed-Powys. Yn y bennod yma, byddwn ni’n edrych ar y ffyrdd fwyaf effeithiol o fynd i’r afael ag ymddygiad niweidiol gyda phlant a phobl ifanc.

Cyngor, cefnogaeth a gwybodaeth ychwanegol

Os gwnaethoch chi fwynhau’r bennod hon…

Hoffwch, tanysgrifiwch, ac ymunwch yn y drafodaeth ar Drydar trwy ein tagio @CymMwyDiogel. Efallai yr hoffech chi wrando ar y bennod Saesneg cyfatebol.

Pennod 8: Cefnogi dioddefwyr a chymunedau yng ngogledd Cymru

Listen to “Pennod 8: Cefnogi dioddefwyr a chymunedau yng ngogledd Cymru” on Spreaker.

Croeso i Gyfres 2 o’r Podlediad Cymunedau Mwy Diogel. Ein gwestai yr wythnos hon yw Rhian Rees Roberts, Swyddog Craffu a Pholisi, a Stephen Hughes, y Prif Swyddog Gweithredol, Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru. Yn y bennod hon, rydyn ni’n edrych ar yr hyn sy’n cael ei wneud yng ngogledd Cymru i gefnogi diogelwch menywod a merched.

Cyngor, cefnogaeth a gwybodaeth ychwanegol

Os gwnaethoch chi fwynhau’r bennod hon…

Hoffwch, tanysgrifiwch, ac ymunwch yn y drafodaeth ar Drydar trwy ein tagio @CymMwyDiogel. Efallai yr hoffech chi wrando ar y bennod Saesneg cyfatebol gyda Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.

Pennod 7: Atal – Sut y gallai gwylwyr helpu i atal aflonyddu rhywiol

Listen to “Pennod 7: Atal – Sut y gallai gwylwyr helpu i atal aflonyddu rhywiol yn erbyn menywod a merched” on Spreaker.

Croeso i Gyfres 2 o’r Podlediad Cymunedau Mwy Diogel. Ein gwestai yr wythnos hon yw Ann Williams, Rheolwr Llinell Gymorth Byw Heb Ofn. Yn y bennod hon, byddwn yn trafod sut y gallai gwylwyr helpu i atal aflonyddu rhywiol yn erbyn menywod a merched.

Cyngor, cefnogaeth a gwybodaeth ychwanegol

Os gwnaethoch chi fwynhau’r bennod hon…

Hoffwch, tanysgrifiwch, ac ymunwch yn y drafodaeth ar Drydar trwy ein tagio @CymMwyDiogel. Efallai yr hoffech chi wrando ar y bennod Saesneg cyfatebol gyda Sophie Weeks, Pennaeth Materion Cyhoeddus a Chyfathrebu, Cymorth i Ferched Cymru.

Pennod 6: GWEITHREDU nawr! Peryglon misogyny treisgar a radicaleiddio

Listen to “Pennod 6: GWEITHREDU nawr! Peryglon misogyny treisgar a radicaleiddio” on Spreaker.

Croeso i Gyfres 2 o’r Podlediad Cymunedau Mwy Diogel. Ein gwestai yr wythnos hon yw Alun Thomas, Cynghorydd Rhanbarthol Prevent ar gyfer De Ddwyrain Cymru y Swyddfa Gartref. Yn y bennod hon, byddwn yn trafod sut mae eithafiaeth a radicaleiddio yn effeithio ar ddiogelwch menywod a merched yng Nghymru.

Cyngor, cefnogaeth a gwybodaeth ychwanegol

Os gwnaethoch chi fwynhau’r bennod hon…

Hoffwch, tanysgrifiwch, ac ymunwch yn y drafodaeth ar Drydar trwy ein tagio @CymMwyDiogel. Efallai yr hoffech chi wrando ar y bennod Saesneg cyfatebol gyda Andrew Jones, Swyddog Ymgysylltu Cymunedol Prevent, Cyngor Caerdydd.

Pennod 5: Menywod a Chyfiawnder – Darparu dull cyfannol o ymdrin â menywod sy’n ymuno â’r system cyfiawnder troseddol yng Nghymru

Listen to “Pennod 5: Menywod a Chyfiawnder – Darparu dull cyfannol o ymdrin â menywod sy’n ymuno â’r system cyfiawnder troseddol yng Nghymru” on Spreaker.

Croeso i bennod gyntaf Cyfres 2 o’r Podlediad Cymunedau Mwy Diogel. Yn y gyfres hon, rydym yn archwilio diogelwch menywod a merched yng Nghymru. Mae’r bennod gyntaf yn trafod cyfiawnder menywod a sut rydym yn bwriadu darparu dull cyfannol o ymdrin â menywod sy’n dod i mewn i’r system cyfiawnder troseddol yng Nghymru. Yn ymuno â ni mae’r Gwir Anrhydeddus Alun Michael, Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru.

Cyngor, cefnogaeth a gwybodaeth ychwanegol

  • Glasbrint Cyfiawnder Menywod Llywodraeth Cymru
  • Mae Ymddiriedolaeth St Giles yn rhedeg amryw o wasanaethau wedi’u dylunio i helpu cyn-droseddwyr gyda chyflogaeth, cymorth, hyfforddiant yn y gymuned, a thai/llety argyfwng. Ffoniwch 020 7708 8000.
  • Mae gan Nacro Linell Gymorth ar gyfer Adsefydlu a Mwy sy’n cynnig gwybodaeth a chyngor i gyn-droseddwyr, caracharorion, eu teuluoedd a’u ffrindiau, ac i sefydliadau sy’n gweithio gyda nhw. Ffoniwch 0300 123 1999.
  • Mae gwefan Llinell Gymorth Genedlaethol i Deuluoedd Carcharorion ar gyfer Cymru a Lloegr yn cynnig cymorth i deuluoedd sydd ag anwyliaid yn y system cyfiawnder troseddol. Ffoniwch 0808 808 2003.
  • Mae Fy Nghofnod Cymorth gan Gymorth i Ddioddefwyr yn adnodd ar-lein am ddim sy’n cynnwys canllawiau rhyngweithiol (yn cynnwys y daith i gyfiawnder) i’ch helpu i symud ymlaen ar ôl trosedd.
  • Mae Unlock yn elusen annibynnol ar gyfer pobl gydag euogfarnau sy’n delio gyda’r effeithiau o gael cofnod troseddol. Ffoniwch 01634 247350.
  • Mae gwybodaeth ychwanegol a dolenni defnyddiol ar gael ar wefan Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru yma.

Os gwnaethoch chi fwynhau’r bennod hon…

Hoffwch, tanysgrifiwch, ac ymunwch yn y drafodaeth ar Drydar trwy ein tagio @CymMwyDiogel. Efallai yr hoffech chi wrando ar y bennod Saesneg cyfatebol gyda Danielle John, sydd efo profiad byw o’r system gyfiawnder, ac Emma Wools, Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd De Cymru.

Cyfres 1

Pennod 4: Mynd i’r afael â hiliaeth a throsedd casineb – Gwaith Cymorth i Ddioddefwyr i wneud Cymru yn lle mwy caredig a chynhwysol i fyw

Listen to “Pennod 4: Mynd i’r afael â hiliaeth a throsedd casineb – Gwaith Cymorth i Ddioddefwyr i wneud Cymru yn lle mwy caredig a chynhwysol i fyw” on Spreaker.

Croeso i’n cyfres podlediad newydd sbon sy’n archwilio diogelwch cymunedol yng Nghymru. Ein gwestai yr wythnos hon yw Tom Edwards, Rheolwr Ardal, Cymorth Dioddefwyr Cymru. Yn y bennod hon rydym ni’n trafod mynd i’r afael â throseddau casineb a hiliaeth, archwilio gwaith Cymorth i Ddioddefwyr a sut gallwn weithio gyda’n gilydd i wneud Cymru yn lle mwy caredig a chynhwysol i fyw.

Cyngor, cefnogaeth a gwybodaeth ychwanegol

Os gwnaethoch chi fwynhau’r bennod hon…

Hoffwch, gadewch sylwad ac adolygiad, tanysgrifiwch, ac ymunwch yn y drafodaeth ar Drydar trwy ein tagio @CymMwyDiogel. Efallai yr hoffech chi wrando ar y bennod Saesneg cyfatebol gyda Becca Rosenthal o’r Tîm Troseddau Casineb Cymorth i Ddioddefwyr.

Pennod 3: Edrych tu hwnt i’r amlwg – Diogelu a diogelwch cymunedol gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig

Listen to “Pennod 3: Edrych tu hwnt i’r amlwg – Diogelu a diogelwch cymunedol gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig” on Spreaker.

Croeso i’n cyfres podlediad newydd sbon sy’n archwilio diogelwch cymunedol yng Nghymru. Ein gwestai yr wythnos hon yw Sarsiant Simon Livsey o Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig. Yn y bennod hon rydym ni’n trafod diogelu a diogelwch cymunedol, a diogelu pobl ddiamddiffyn trwy gydweithio ac edrych tu hwnt i’r amlwg.

Cyngor, cefnogaeth a gwybodaeth ychwanegol

Os gwnaethoch chi fwynhau’r bennod hon…

Hoffwch, gadewch sylwad ac adolygiad, tanysgrifiwch, ac ymunwch yn y drafodaeth ar Drydar trwy ein tagio @CymMwyDiogel. Efallai yr hoffech chi wrando ar y bennod Saesneg cyfatebol gyda’r Arolygydd Richard Powell.

Pennod 2: Codi llais! Archwilio rôl y cyhoedd wrth ddatrys troseddau a gwaith Crimestoppers efo Mr Mansel Jones

Listen to “Pennod 2: Codi llais! Archwilio rôl y cyhoedd wrth ddatrys troseddau a gwaith Crimestoppers efo Mr Mansel Jones” on Spreaker.

Croeso i’n cyfres podlediad newydd sbon sy’n archwilio diogelwch cymunedol yng Nghymru. Ein gwestai yr wythnos hon yw Mr Mansel Jones, gwirfoddolwr i’r elusen Crimestoppers a cyn siaradwr a threfnydd digwyddiadau gwirfoddol ar gyfer yr elusen Missing People. Yn y bennod hon rydym ni’n trafod rôl y cyhoedd wrth adrodd a datrys troseddau, beth sy’n digwydd pan mae person yn mynd ar goll, gwaith Crimestoppers, a sut mae trosedd ac anrhefn yn cael ei adrodd yn y cyfryngau.

Cyngor, cefnogaeth a gwybodaeth ychwanegol

  • Gwefan Crimestoppers
  • Astudiaeth achos o Adroddiad Effaith Blynyddol 2019/20 Crimestoppers (t15)
  • Gwefan Fearless
  • Gwefan Missing People
  • Argymhelliad podlediad Mansel – The Missing Podcast
  • Os ydych chi wedi bod yn dyst i drosedd neu wedi dioddef trosedd, adroddwch i’r Heddlu. Ffoniwch 101 neu adroddwch ar-lein yn dibynnu ar eich rhanbarth yng Nghymru. Mewn argyfwng, ffoniwch 999.
  • Os hoffech roi gwybodaeth am droseddu yn ddienw ymwelwch â, Crimestoppers-uk.org neu ffoniwch 0800 555 111.
  • Os ydych wedi cael eich effeithio gan drosedd, gallwch gael cymorth gan Gymorth i Ddioddefwyr, trwy eu llinell gymorth genedlaethol am ddim 08 08 16 89 111, neu ar-lein.

Os gwnaethoch chi fwynhau’r bennod hon…

Hoffwch, gadewch sylwad ac adolygiad, tanysgrifiwch, ac ymunwch yn y drafodaeth ar Drydar trwy ein tagio @CymMwyDiogel. Efallai yr hoffech chi wrando ar y bennod Saesneg cyfatebol gyda Ella Rabaiotti.

Pennod 1: Natur esblygol diogelwch cymunedol efo Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu

Listen to “Pennod 1: Natur esblygol diogelwch cymunedol efo Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu” on Spreaker.

Croeso i bennod gyntaf ein podlediad newydd sbon sy’n archwilio diogelwch cymunedol yng Nghymru. Ein gwestai yr wythnos hon yw Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys. Yn y bennod hon rydym ni’n trafod natur esblygol a dyfodol diogelwch cymunedol, a gweledigaeth Dafydd ar gyfer cyflawni hynny o fewn ei sefydliad ei hun ac yn ehangach – yn arbennig drwy arloesi a dadansoddi data.

Cyngor, cefnogaeth a gwybodaeth ychwanegol

  • Gwefan Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys
  • Adroddiad Blynyddol 2020-2021 Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys
  • Argymhelliad podlediad Dafydd – Elis James Feast Of Football

Os gwnaethoch chi fwynhau’r bennod hon…

Hoffwch, gadewch sylwad ac adolygiad, tanysgrifiwch, ac ymunwch yn y drafodaeth ar Drydar trwy ein tagio @CymMwyDiogel. Efallai yr hoffech chi wrando ar y bennod Saesneg cyfatebol gyda Chris Davies, Prif Swyddog Tân, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Trêl y Podlediad Cymunedau Mwy Diogel

“Trêl y Podlediad Cymunedau Mwy Diogel” on Spreaker.