Neidio i'r prif gynnwys

Cyflwyniad i'r Bwrdd Cymunedau Mwy Diogel Cymru

Beth yw y Bwrdd Cymunedau Mwy Diogel Cymru?

Diben Bwrdd Cymunedau Mwy Diogel Cymru yw darparu arweinyddiaeth, trosolwg a chyfeiriad i raglen waith ar y cyd, gyda’r nod o sicrhau y darperir arweinyddiaeth effeithiol ar y cyd i helpu gwaith partneriaeth lleol fynd i’r afael â diogelwch cymunedol a fydd, yn ei dro, yn cefnogi cymunedau diogel, cadarn a mwy hyderus. Mae’r Bwrdd hefyd yn darparu trefn lywodraethu i Rwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru.

Ar hyn o bryd mae aelodau’r Bwrdd yn cynnwys cynrychiolwyr o’r canlynol:

Comisiynwyr Heddlu a Throsedd Cymru

  • Prif Gwnstabliaid Cymru
  • CLlLC
  • Awdurdodau Lleol
  • SOLACE Cymru
  • Pennaeth y Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel
  • Isadran Diogelwch Cymunedol Llywodraeth Cymru
  • Y Gwasanaeth Tân ac Achub
  • HMPPS (y gwasanaeth prawf yn benodol)
  • Y Trydydd Sector (Cadeirydd Cyfiawnder Cymunedol Cymru)
  • Swyddogion Diogelwch Cymunedol (Cadeirydd WACSO)
  • Yr Uned Atal Trais
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru

Cylch Gorchwyl y Bwrdd Cymunedau Mwy Diogel Cymru

Blaenoriaethau Bwrdd Cymunedau Mwy Diogel Cymru

Mae gan y Bwrdd bum blaenoriaeth ar hyn o bryd:

  1. Caiff diogelwch cymunedol ei integreiddio ar draws yr holl feysydd polisi / partneriaethau perthnasol: Deall a gwella safle diogelwch cymunedol o fewn y rhaglen o bartneriaethau strategol. Mae hyn yn cysylltu â rolau’r gwahanol aelodau, ond hefyd â rôl Tîm Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru, gan gynnwys casglu gwybodaeth drwy arolygon a gweithdai, a chynhyrchu’r canllawiau cyntaf cyn bo hir.
  2. Y Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel yw’r fforwm cenedlaethol cydnabyddedig ar gyfer yr holl sectorau sy’n ymwneud â gwaith partneriaeth diogelwch cymunedol: Sefydlu Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel ar gyfer Cymru. Mae tîm Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru wedi cael ei sefydlu ac yn codi proffil diogelwch cymunedol yn lleol, ledled Cymru a ledled y DU. Mae rhan o’r flaenoriaeth hon yn ymwneud â model aelodaeth y Rhwydwaith ar gyfer y dyfodol a chynaliadwyedd hirdymor.
  3. Mae’r egwyddor ‘Seiliedig ar dystiolaeth a gwybodaeth’ a’i weithrediad o fewn gwaith partneriaeth lleol/rhanbarthol yn cael ei gefnogi gan adnoddau cynaliadwy: Datblygu ymagwedd Canolbwynt/Tîm Data a Dadansoddi Amlasiantaeth Cymru-gyfan. Mae rhannau o’r flaenoriaeth hon yn cael eu cyflawni drwy weithio mewn partneriaeth drwy Rwydwaith Arloesi a Gwella Dadansoddi Data Cymru (WDAIIN).
  4. Mae diogelwch cymunedol yn canolbwyntio ar atal ac yn croesawu ymagwedd iechyd cyhoeddus: Datblygu ymagweddau effeithiol ar y cyd sy’n ystyriol o drawma tuag at Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ac Atal Troseddu. Gan ganolbwyntio ar Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (ASB) ac Atal Troseddu, mae’r flaenoriaeth hon yn cael ei datblygu mewn partneriaeth â Iechyd Cyhoeddus Cymru, Uned Atal Trais Cymru a Rhwydwaith Ymarferwyr ASB.
  5. Dysgu oddi wrth raglenni cysylltiedig a chyd-ddibynnol eraill: Darparu systemau i gyflwyno materion allweddol a’r hyn a ddysgwyd i waith partneriaeth diogelwch cymunedol, gan rannu ymwybyddiaeth ac arferion trawsbynciol.