Neidio i'r prif gynnwys

Byrddau, Paneli a Grwpiau Strategol Allanol Allweddol

Mae Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru yn gweithio gydag amrywiaeth o Fyrddau Partneriaeth Cenedlaethol, Paneli a Grwpiau Strategaeth ledled Cymru a Lloegr ac yn mynychu eu cyfarfodydd. Isod gweler crynodeb o nifer o’r rhain. Rydym yn gysylltiedig â chyfarfodydd eraill mewn modd llai ffurfiol hefyd, gan gynnwys cyflwyniadau i Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol, Lleihau Risgiau Cymunedol Prif Swyddogion Tân a Thrais Difrifol Rhanbarthol / Lleol a Throseddu Cyfundrefnol, yn ogystal â chymryd rhan mewn meysydd gwaith ar themâu penodol eraill megis datblygu Strategaeth Trais yn erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) newydd i Gymru.

Mae Byrddau, Paneli a Grwpiau Strategol Allanol Allweddol

Mae’r Ganolfan hon yn dod ag academyddion ynghyd o wyth o brifysgolion Cymru i annog cydweithio rhwng sefydliadau i gynhyrchu ymchwil o safon uchel wedi’i seilio ar ddamcaniaethau ac sy’n berthnasol i bolisïau trosedd a chyfiawnder cymdeithasol yng Nghymru a thu hwnt.  Mae hefyd yn ceisio ychwanegu gwerth at arferion gwneud ac ymarfer polisïau trwy annog cyfathrebu a dadlau rheolaidd rhwng academyddion ac aelodau o sefydliadau’r llywodraeth, sefydliadau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector. Mae’r WCCSJ yn bartner ymchwil allweddol i ddiogelwch cymunedol. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan WCCSJ.

Mae Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a Plismona yng Nghymru yn cydweithio â phartneriaid cyfiawnder i ddatblygu Glasbrintiau ar gyfer darparu Cyfiawnder Menywod. Mae’r Glasbrint Cyfiawnder Menywod yn amlinellu’r uchelgais i drawsnewid gwasanaethau er mwyn creu cymdeithas decach, fwy cyfartal gyda gwell canlyniadau a chyfiawnder i bawb. Bydd yn llunio atebion cynaliadwy cymunedol i gadw menywod a chymunedau yn ddiogel ac osgoi ymddygiad troseddol. Sefydlwyd Bwrdd Cymru Gyfan ar gyfer Menywod mewn Cyfiawnder er mwyn ymgymryd â chamau gweithredu perthnasol, gan gynnwys ymgysylltu â menywod sydd â phrofiad byw.

Mae’r Bwrdd Strategol Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn nodi ei bwrpas yn ei gylch gorchwyl fel a ganlyn:

 “Pwrpas y Bwrdd Strategol Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yw cael amryw o bartneriaid a chynrychiolwyr o asiantaethau perthnasol ac Adrannau’r Llywodraeth i gydweithio er mwyn nodi ac asesu materion strategol sy’n ymwneud ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, a rhannu gwybodaeth ar arfer dda er mwyn cefnogi ymateb amlasiantaethol effeithiol i ymddygiad gwrthgymdeithasol. Bydd safbwyntiau ac anghenion dioddefwyr bob amser yn ystyriaeth allweddol i’r Bwrdd.” Mae hwn yn fwrdd i Gymru a Lloegr.

Mae Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru yn dod â phartneriaid cyfiawnder troseddol ynghyd, gan gynnwys Plismona, Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru, cyrff y sector gwirfoddol a’r Comisiynydd Dioddefwyr, yn ogystal ag asiantaethau cyflenwi cyfiawnder allweddol yng Nghymru (Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi, Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi, Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol a Gwasanaeth Erlyn y Goron). Y nod yw i gyflawni gwell canlyniadau a phrofiadau i’r rheiny sy’n dod i gysylltiad â’r System Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru, boed hynny fel dioddefwyr, tystion neu droseddwyr. Caiff y Bwrdd ei gadeirio gan Amy Rees, Cyfarwyddwr Cyffredinol Gwasanaeth Prawf Cymru.

Caiff Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru ei hysbysu gan Fyrddau Cyfiawnder Troseddol Lleol ac mae’n gyfrifol am gyflenwi swyddogaeth Rheoli Integredig Troseddwyr (IOM) Cymru.

Mae Rachel Allen yn darparu’r ysgrifenyddiaeth i’r Bwrdd a hi yw Cydlynydd Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru.

I ddarllen y rhaglen waith a negeseuon allweddol gan Fwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru Gyfan, cliciwch yma.

Sefydlwyd Contest Cymru yn 2008 ac mae’n cael ei gadeirio ar y cyd rhwng y Cyfarwyddwr Llywodraeth Leol yn Llywodraeth Cymru a Phrif Gwnstabl Heddlu De Cymru.

Mae’n debyg mai’r elfen Atal yn CONTEST sy’n cael yr effaith fwyaf ar Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol. Mae gan y Strategaeth Atal a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2011 3 brif amcan sef:

  • ymateb i her ideolegol terfysgaeth a’r bygythiad gan y rheiny sy’n ei hyrwyddo;
  • atal pobl rhag cael eu tynnu i mewn i derfysgaeth a sicrhau eu bod yn cael cefnogaeth briodol; a
  • gweithio gydag ystod eang o sectorau a sefydliadau (gan gynnwys addysg, ffydd, iechyd a chyfiawnder troseddol) lle mae perygl o achosion o radicaleiddio y dylid mynd i’r afael â nhw.

Mae IOM Cymru yn cynorthwyo partneriaid i ddefnyddio dull cydgysylltiedig i reoli troseddwyr. Yn draddodiadol y nod oedd mynd i’r afael â throseddwyr parhaus sy’n cyflawni llawer o droseddau, ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae wedi cael ei ymestyn yng Nghymru i grwpiau blaenoriaeth eraill sydd wedi’u cydnabod ar y cyd gan asiantaethau partner. Yn fwy diweddar, mae Strategaeth Trosedd Cymdogaeth IOM, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2020, yn darparu ffocws ar droseddau cymdogaeth, yn benodol lladrad, byrgleriaeth, lladrad oddi wrth yr unigolyn, a dwyn cerbydau, gan barhau i alluogi cynlluniau IOM i fynd i’r afael ag anghenion lleol. Mae’r IOM yn cydnabod bod anghenion cymhleth yr unigolion hyn yn fwy tebygol o gael eu diwallu gan asiantaethau sy’n cydweithio ac yn gwneud y defnydd gorau o adnoddau lleol.  Am fwy o wybodaeth, gan gynnwys yr wyth egwyddor yn eu dull gweithredu a dolen i’r Strategaeth IOM newydd, ewch i wefan IOM Cymru.

Mae Paul Morris yn gweithio’n uniongyrchol i’r wyth unig Gorfforaeth (sef y pedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu a’r pedwar Prif Gwnstabl) yng Nghymru, ac ef yw Pennaeth yr Uned ar hyn o bryd gyda thîm bach ymroddedig a deinamig o swyddogion heddlu a staff.

Mae gan yr uned swyddfa yn Llywodraeth Cymru ond mae’n uniongyrchol atebol i Blismona yng Nghymru. Mae Uned Cyswllt yr Heddlu yn gyfrifol am sicrhau ymgysylltiad â’r weinyddiaeth ddatganoledig yng Nghymru, adrannau o Lywodraeth y DU, budd-ddeiliaid allweddol eraill yn y maes cyfiawnder troseddol a chymdeithasol, gan gynrychioli’r Prif Gwnstabliaid a’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yn y trafodaethau hynny.

Mae’r Uned yn darparu llais proffesiynol i Blismona yng Nghymru, gan fynychu, cynnal a chynnig ysgrifenyddiaeth i nifer o gyfarfodydd gan gynnwys Bwrdd Partneriaeth Plismona Cymru a Grŵp Prif Swyddogion Cymru. Mae’r Uned yn bont rhwng Plismona, fel gwasanaeth sydd heb ei ddatganoli, a Llywodraeth Cymru, yn enwedig ym meysydd deddfwriaeth a gwneud polisïau sydd wedi’u datganoli i Lywodraeth Cymru.

Cysylltwch â: PLU@gov.wales

Mae Bwrdd Partneriaeth Plismona Cymru yn fforwm a arweinir gan yr Heddlu ac a gadeirir gan Brif Weinidog Cymru neu’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol.

Mae Uned Cyswllt yr Heddlu yn darparu ysgrifenyddiaeth i’r cyfarfod pwysig hwn a gynhelir bob chwarter ac mae’r aelodaeth yn cynnwys Llywodraeth Cymru, Plismona yng Nghymru, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Swyddfa Gartref, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi, Cyfiawnder Troseddol Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Uned Atal Trais, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru.

Er nad yw plismona wedi’i ddatganoli yng Nghymru, mae’r Bwrdd hwn yn rhoi cyfle i drafod a chynghori am faterion plismona sy’n cael effaith ar wasanaethau cyhoeddus ehangach yng Nghymru.

Ysgrifenyddiaeth: PLU@gov.wales

Cyhoeddir cofnodion y cyfarfod a gellir cael gafael arnynt ar wefan Llywodraeth Cymru – Bwrdd Partneriaeth Plismona Cymru.

Mae’r prosiect SUSR yn fenter gan Lywodraeth Cymru a fydd yn cefnogi asiantaethau yng Nghymru i gynnal un broses adolygu ar draws gwahanol sectorau. Mae’r broses yn creu dull adolygu syml ond canolbwyntiedig, sy’n lleihau trawma i deuluoedd a dyblygu ymdrechion, ac sy’n arbed amser gwerthfawr a chyflawni gwerth gorau. Y canlyniad terfynol yw adroddiad sy’n canolbwyntio ar ddysgu a gwella darpariaeth gwasanaeth sy’n cael ei goladu a’i guradu yn Ystorfa Ddiogelu Cymru. Mae’r ystorfa wedyn yn ein galluogi i ddefnyddio’r adolygiadau i amlygu themâu, argymhellion a gwersi a ddysgwyd er mwyn diogelu cenedlaethau’r dyfodol.

Nod Staywise Cymru yw darparu adnoddau diogelwch, pecynnau gweithgareddau a chynlluniau gwersi trwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg gan ystod amrywiol o wasanaethau ar gyfer plant oedran cynradd ac uwchradd. Mae gwybodaeth ar gael hefyd i rieni.

Sefydlwyd Uned Atal Trais Cymru trwy gyllid gan y Swyddfa Gartref yn 2019. Mae’r tîm craidd yn cynnwys aelodau o’r heddluoedd, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi, Mewnfudo Y Swyddfa Gartref a’r sector gwirfoddol.

Cyfarwyddwr yr Uned yw Jon Drake ac mae’n gweithio gydag aelodau craidd ac aelodau cyswllt er mwyn defnyddio dull iechyd y cyhoedd i atal trais.

Trwy ddefnyddio tystiolaeth i ddatblygu ymyraethau sy’n canolbwyntio ar achosion sylfaenol trais, gall yr Uned Atal Trais werthuso’n briodol yr ymyraethau hyn cyn eu cynyddu i helpu mwy o bobl a chymunedau ledled Cymru. Trwy ddefnyddio’r dull hwn mae’r Uned yn anelu at ddatblygu ymateb system gyfan i atal trais.

Cysylltwch â: phw.violencepreventionunit@wales.nhs.uk

I gael rhagor o wybodaeth: Uned Atal Trais

Mae’r Panel Ymgynghorol Cyfiawnder Ieuenctid Cymru yn cael ei gadeirio ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid. Mae’n gyfrifol am oruchwylio’r system yn strategol yng Nghymru ac mae’n gweithredu fel grŵp cyfeirio ar gyfer rhaglenni newid yng Nghymru sy’n darparu swyddogaeth gwirio a herio i sicrhau bod yr egwyddor “plentyn yn gyntaf” yn ganolog i ddatblygiad a bod sylw dyledus yn cael ei roi bob amser i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Mae hyn yn cynnwys y Glasbrint Cyfiawnder Ieuenctid.