Neidio i'r prif gynnwys

Gwobrau Cyntaf Cymunedau Mwy Diogel 2023

Gwobrau Cymunedau Mwy Diogel Agoriad 2023

y Gwobrau Cymunedau Mwy Diogel cyntaf yng Ngwesty’r Village, Abertawe ddydd Iau, 30 Tachwedd 2023, gyda Lynn Bowles yn cyflwyno.

Agorwyd y broses ymgeisio ddiwedd mis Medi, gyda dyddiad cau yng nghanol mis Hydref, a’r panel yn cwrdd ddechrau mis Tachwedd i gytuno ar yr enillwyr a’r rheiny sy’n cael canmoliaeth uchel.

Roedd y panel yn cynnwys pedwar o bobl o Lywodraeth Cymru, Uned Cyswllt yr Heddlu, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru. Roedd yn rhaid iddynt roi ugain o wobrau penodol i gategori (canmoliaeth uchel a’r enillwyr) yn ogystal â dewis un enillydd cyffredinol o blith yr holl enillwyr.

Isod mae crynodeb o’r rhai a gafodd eu cydnabod ar draws y gwobrau deuddeg categori gwahanol.

Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y Seremoni Wobrwyo nesaf!

Enillwyr y Categori Cydraddoldeb, Cynhwysiant a Chydlyniant

Mae hyrwyddo cydraddoldeb yn hollbwysig i greu cydlyniant cymunedol. Weithiau caiff cydlyniant lleol ei danseilio os caiff grwpiau gwahanol brofiadau neu ganlyniadau gwahanol i eraill. Mae’n bwysig mynd i’r afael ag anghydraddoldebau a materion cysylltiedig, fel maethu perthynas dda ar draws a rhwng cymunedau a chefnogi ymdrechion i atal eithafiaeth a mynd i’r afael â throseddau casineb, yn cynnwys rhai yn erbyn unigolion gyda nodweddion gwarchodedig.

Enillydd: Tîm Cydlynu Ardal Leol Cyngor Abertawe, dan arweiniad Jon Franklin

Gweledigaeth Cydlyniant Ardal Leol yw bod pawb yn byw mewn cymunedau croesawgar sy’n darparu cyfeillgarwch, cyd-gefnogaeth, cyfiawnder a chyfleoedd i bawb. Mae’n ddull cymunedol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn cydnabod gwerth a photensial pawb. Gan gynnig cefnogaeth bersonol, yn hytrach na dull un ateb sy’n addas i bawb, a chanolbwyntio ar yr hyn sydd fwyaf pwysig i’r unigolyn neu’r teulu. Mae hyrwyddo’r syniad o gymunedau cryf, cynhwysol a gwydn yn sylfeini ar gyfer lles unigol a chydlyniant cymdeithasol, gan gadw pobl yn ddiogel a hyderus. Fe weithion nhw gyda 1,800 o bobl yn 2022, gan gynnwys unigolion wedi’u hecsbloetio i’r diwydiant rhyw a’r rheiny sy’n mynd trwy gyfnodau anodd, ac roedden nhw’n rhan bwysig o’r gwaith gyda chynghorwyr, arweinwyr ffydd a grwpiau cymunedol i sefydlu ‘Canolfannau Clyd’ lle’r oedd pobl yn gallu cwrdd mewn lle diogel a chlyd.

Cymeradwyaeth Uchel: Flip the Streets – Cydlyniant Cymunedol Cyngor Abertawe a Dr. Lella Nouri, Prifysgol Abertawe.

Mae prosiect Flip The Streets yn gweithio gyda phobl ifanc i ysbrydoli trigolion a chymunedau i gymryd rhan, drwy gelf, a gweddnewid gofodau yn eu cymuned i hyrwyddo a chryfhau cydlyniant cymunedol. Mae’n cysylltu â negeseuon cadarnhaol eraill a Chelf yn y Ddinas. Mae’r prosiect wedi’i hyrwyddo a’i gefnogi gan y tîm Integreiddio Cymunedol a Phartneriaethau ac fe gafodd y prosiect cyntaf ei ariannu drwy Gyngor Hil Cymru, a Chyngor Celfyddydau Cymru a’i arwain gan Brifysgol Abertawe.

 

Enillwyr y Categori Caethwasiaeth Fodern a Chamfanteisio

Caethwasiaeth fodern yw camfanteisio ar bobl yn anghyfreithlon er budd personol neu fasnachol. Mae’n ymdrin ag ystod eang o gamdriniaeth a chamfanteisio gan gynnwys camfanteisio’n rhywiol, caethwasanaeth domestig, llafur dan orfod, camfanteisio troseddol a chynaeafu organau. Mae’r Swyddfa Gartref wedi disgrifio caethwasiaeth fodern fel “trosedd ddifrifol a chreulon lle bydd pobl yn cael eu trin fel nwyddau a chamfanteisir arnynt er mwyn elwa’n droseddol”.

Enillydd a’r Enillydd Cyffredinol: Tîm Troseddau Blaenoriaethol Ardal Ganol Heddlu Gogledd Cymru ar gyfer Ymgyrch Blue Tylluan

Ar gyfer eu rolau wrth orfodi’r gyfraith ac ymchwilio, yn enwedig o ran achos o gamfanteisio ar unigolyn ifanc drwy linellau cyffuriau. Lansiwyd ymchwiliad cymhleth yn seiliedig ar dystiolaeth, gan gydweithio gydag ystod o bartneriaid, yn cynnwys awdurdodau lleol a’r gwasanaeth prawf. Ym mis Hydref 2022 cafodd deg troseddwr eu canfod yn euog, gan dderbyn dedfrydau o hyd at ddeng mlynedd yn y carchar. Cafodd saith euogfarn am fasnachu mewn pobl a chwech am gynllwynio i gyflenwi heroin a chocên, er gwaethaf y ffaith nad oedd y dioddefwr wedi bod yn rhan o’r ymchwiliad. Yn ogystal, cyhoeddwyd tri Gorchymyn Atal Caethwasiaeth a Masnachu Mewn Pobl, un Gorchymyn Caethwasiaeth a Pherygl Masnachu Mewn Pobl a dau orchymyn atal, gan sicrhau diogelwch y plentyn a dioddefwyr posibl yn y dyfodol.

Wrth wobrwyo’r enillydd cyffredinol nododd y Panel fod Ymgyrch Blue Tylluan wedi arddangos arfer gorau, diogelu plant a phobl ddiamddiffyn, adnabod a diogelu unigolion sy’n cael eu camfanteisio a defnyddio pecynnau, pwerau a chyfreithiau i gadw pobl gogledd Cymru a thros y ffin yn Lloegr yn ddiogel.

Enillwyr y Categori Diogelu

Mae diogelu yn ymwneud ag amddiffyn pobl o bob ffurf o niwed a chamdriniaeth.

Enillydd: Tîm Troseddau Economaidd Dyfed Powys o Heddlu Dyfed Powys, sy’n rheoli pob agwedd ar droseddau economaidd, yn cynnwys twyll, seiberdroseddau, gwyngalchu arian a ffugio arian.

Gan reoli bob digwyddiad o dwyll a seiberdroseddu a roddir gwybod amdano i’r heddlu, mae’r Tîm Troseddau Economaidd wedi lleihau’r straen ar swyddogion rheng flaen yn ogystal â chael adborth cadarnhaol gan ddioddefwyr yn y gymuned, gyda llawer yn canmol ansawdd y gwasanaeth a’r tawelwch meddwl maent wedi’i dderbyn. Dydyn nhw ddim yn cyfeirio dioddefwyr at Action Fraud ond, yn hytrach, yn cofnodi pob trosedd ac yna’n adrodd ar bob un yn unigol i Action Fraud ar ran y dioddefwr. Mae’r dull yma wedi cael cydnabyddiaeth a chanmoliaeth genedlaethol, gan ei fod yn sicrhau bod dioddefwyr troseddau economaidd yn cael eu cefnogi a’u diogelu yn unigol. Mae hyn wedyn yn caniatáu pecyn wedi’i deilwra o gefnogaeth i sicrhau gwasanaeth effeithiol a dibynadwy.

Cymeradwyaeth Uchel: Panel Diogelu Cyd-destunol, Plant sydd ar Goll ac Achosion o Gamfanteisio ar Blant a Masnachu Plant Abertawe, sy’n cynnwys Gwasanaethau Plant a Theuluoedd Abertawe, Addysg, Tai, Heddlu De Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Barod/Choices, Media Academy Cymru a’r YMCA.

Maent yn defnyddio dull sy’n canolbwyntio ar ddatrysiadau a chryfderau i ddiogelu plant a phobl ifanc u tu allan i gartref y teulu drwy wneud y llefydd maent yn treulio amser ynddynt yn fwy diogel.

Enillwyr y categori Trais yn Erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

Mae’n cynnwys trais yn erbyn merched a genethod, cam-drin domestig, trais a thrais rhywiol, aflonyddu rhywiol, anffurfio organau cenhedlu benywod, trais ar sail anrhydedd, priodas dan orfod, stelcian, masnachu mewn pobl a mathau eraill o drais. Mae’n bwysig nodi y gall y pob rhyw fod yn ddioddefwyr a/neu’n gyflawnwyr cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Enillydd: Arolygydd Claire McGrady o Heddlu Gogledd Cymru, sef arweinydd yr Heddlu ar Drais yn erbyn Merched a Genethod.

Roedd canol dinas Wrecsam yn fan problemus yng ngogledd Cymru o ran troseddau penodol o drais yn erbyn merched a genethod, yn pontio ar draws yr economi gyda’r nos o amgylch canol y ddinas lle’r oedd y cyhoedd yn teimlo’n anniogel. Arolygydd McGrady oedd cynrychiolydd arweiniol yr Heddlu a ddechreuodd ymgyrch o gydweithio, meithrin perthynas ac, yn y pen draw, ceisiadau llwyddiannus am arian. Gan arwain ar ddarparu hyfforddiant gwyliedyddion i holl eiddo trwyddedig yng nghanol y ddinas, lansio canolfan les Hafan y Dref sydd ar agor bob nos Wener a nos Sadwrn, Marsialiaid Strydoedd a phlismona ataliol, yn cynnwys rhaglenni ysgol, mae hyn oll wedi arwain at bresenoldeb gweladwy gwell a chynaliadwy o swyddogion. Mae hefyd yn ffordd i ymgysylltu â’r cyhoedd a delio gyda digwyddiadau wrth iddynt ddigwydd, fel achosion domestig a threfn gyhoeddus yng nghanol y ddinas, er mwyn atal a chanfod troseddau a chyfeirio pobl ddiamddiffyn at y lleoliadau cywir.

 

Cymeradwyaeth Uchel: Rhaglen Hyrwyddwyr Cymunedol Gorllewin Cymru, partneriaeth dan arweiniad Gwasanaethau Cam-drin Domestig Gorllewin Cymru, ochr yn ochr â Gwasanaeth Trais Domestig Calan, Threshold, Canolfan Argyfwng Teuluoedd Trefaldwyn a Gwasanaeth Cam-drin Domestig Sir Gâr.

Mae rhaglen addysgol Hyrwyddwyr Cymunedol yn codi ymwybyddiaeth o stelcian, aflonyddwch a throseddau casineb, gan weithio tuag at greu cymunedau mwy diogel, annog cyfranogwyr i ddod yn ‘Upstanders’ a rhoi gwybod am droseddau fel y bo’n briodol. Mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar gymunedau canolbarth a gorllewin Cymru, gyda mwy o ymwybyddiaeth a hyder i fynd i’r afael ag ymddygiad amhriodol, yn cynnwys yn ystod economi’r nos.

 

Enillwyr y categori Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Yn y gyfraith diffinnir ymddygiad gwrthgymdeithasol fel “ymddygiad gan berson sy’n achosi, neu’n debygol o achosi, aflonyddwch, braw neu drallod i bobl nad ydynt o’r un aelwyd â’r person hwnnw.” Gall digwyddiadau ymddangos yn rhai bach, amhwysig, dibwys a gwneud i bobl amau eu hunain. Dydi pob achos o ymddygiad gwrthgymdeithasol ddim yn drosedd, gall fynd yn raddol waeth, gall barhau am gyfnod hir a gall fod yn ddifrifol iawn. Gall effaith ymddygiad gwrthgymdeithasol gynnwys cynnydd mewn gorbryder ac ofn, a gwneud i unigolion, teuluoedd a phobl mewn cymunedau deimlo’n anniogel ac yn methu â gadael eu cartrefi neu’n methu â chael mynediad at gyfleusterau neu rannau penodol o’u cymuned.

Enillydd: Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr sy’n cefnogi cymunedau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i fod yn ddiogel a chydlynol.

Cafodd y bartneriaeth ei henwebu am ddarn penodol o waith partneriaeth. Ers blynyddoedd lawer roedd maes parcio yn destun llawer o gwynion ynglŷn ag ymddygiad gwrthgymdeithasol – ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ymwneud â cherbydau yn bennaf a phobl ifanc yn bod yn niwsans mewn ardal dan gysgod. Gwnaethpwyd amrywiaeth o welliannau gweledol yn y lleoliad a chynnal prosiect celf stryd mawr i wneud yr ardal yn fwy lliwgar, deniadol ac i hyrwyddo teimlad o ddiogelwch. Mae’r cyfuniad yma o ymdrechion wedi arwain at newid yn nefnydd y gofod, sydd bellach yn cynnal gweithgareddau i bobl ifanc a gweithdai ffitrwydd i deuluoedd, gan helpu iechyd corfforol a meddyliol pobl a gwneud y mwyaf o’r gofod lliwgar a gwell yma. Yn bwysicach fyth, mae nifer yr adroddiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi lleihau’n sylweddol.

 

Cymeradwyaeth Uchel: Heddlu De Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a Landlord Cymdeithasol Cofrestredig Cartrefi Cymoedd Merthyr.

Pwrpas ymyrraeth y bartneriaeth oedd cau eiddo a nodwyd yn gyflym, a oedd yn cael ei ddefnyddio i gyflawni niwsans / anhrefn a throseddau. Y nod oedd diogelu’r gymuned rhag niwed pellach a diogelu tenantiaid yr eiddo. Drwy gael Gorchymyn Cau Rhannol am dri mis i atal ymwelwyr rhag mynd i’r cyfeiriad hwn, nid oes adroddiadau wedi dod i law am niwsans, anhrefn, nac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr eiddo, nac ymwelwyr yn ymweld. Cyflawnwyd hyn heb wneud unrhyw un yn ddigartref.

 

Enillwyr y categori Atal Troseddu

Mae Rhwydwaith Atal Troseddu’r Undeb Ewropeaidd yn diffinio Atal Troseddu fel “gweithgareddau sy’n dderbyniol yn foesegol ac yn seiliedig ar dystiolaeth wedi’u targedu i leihau’r risg o droseddu a’r canlyniadau niweidiol gyda’r nod o weithio tuag at wella ansawdd bywyd a diogelwch unigolion, grwpiau a chymunedau”.

Enillydd: Dangos y Drws i Drosedd, Heddlu Gogledd Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd a phartneriaid eraill.

Gan atal troseddu drwy leihau’r buddion i gyflawnwyr troseddau meddiannu, maent yn gweithio gyda darparwr marcio fforensig ‘Smart Water’ sy’n galluogi olrhain eiddo yn ôl i ddioddefwyr ac olrhain troseddwyr yn ôl at y drosedd. Mae’r dacteg hon yn hysbys iawn o fewn y frawdoliaeth droseddol, sydd yn ei chydnabod fel bygythiad go iawn iddynt; mae’n arf ataliol effeithiol iawn mewn cymunedau. Mae gan bob swyddog dortsh uwch-fioled i wirio unigolion a ddrwgdybir ac eiddo am farciau fforensig, sy’n sicrhau bod pob troseddwr ac eiddo y mae swyddogion yn dod ar eu traws yn cael eu gwirio ar gyfer Smart Water.

 

Cymeradwyaeth Uchel: Tîm Canolfan Seibergadernid Cymru, am gynyddu seibergadernid ar draws Cymru, gan ganolbwyntio’n benodol ar fusnesau micro a busnesau bach a chanolig a sefydliadau trydydd sector.

Yn ystod y deuddeg mis diwethaf mae’r tîm wedi ymweld â thros hanner cant o leoliadau gwahanol yng Nghymru a darparu dros gant o weithdai, diwrnodau ymgysylltu a chyflwyniadau mewn digwyddiadau. Mae hyn wedi cyfrannu at wneud busnesau Cymru yn fwy gwydn i ymosodiad gan droseddwyr seiber.

 

Enillwyr y categori Diogelwch y Cyhoedd

Mae diogelwch y cyhoedd yn cynnwys diogelwch tân, llosgi bwriadol, diogelwch ar y ffordd, diogelwch yn y cartref a’r awyr agored (yn cynnwys diogelwch dŵr).

Enillydd: Grŵp Diogelwch y Cyhoedd Llanfair-ym-Muallt dan arweiniad Cyngor Sir Powys.

Mae’r grŵp yn canolbwyntio ar chwe phrif faes – iechyd a lles, cludiant ac isadeiledd, eiddo trwyddedig, mannau agored, gorchymyn a rheoli, a chyfathrebiadau (Cael Hwyl, Cymryd Gofal, Cadw’n Ddiogel). Mae’r cydweithio yma wedi helpu i sicrhau diogelwch y rheiny sy’n mynd i’r digwyddiad yn ogystal ag arwain at leihad yn nifer y galwadau 999, nifer y bobl sy’n gorfod mynd i’r ysbyty neu’n cael eu harestio, gan atal costau ychwanegol a phwysau ychwanegol ar wasanaethau cyhoeddus. Ers sefydlu’r grŵp nid oes achos o anafiadau difrifol na marwolaethau wedi bod yn ystod y digwyddiad. Mae cryfder y gwaith partneriaeth, y cyfuno adnoddau a gweithgareddau’r grŵp wedi helpu i ddiogelu adnoddau cyhoeddus prin a darparu digwyddiadau mwy diogel.

Enillwyr y categori Ymyrraeth Gynnar

Mae ymyrraeth gynnar yn ceisio mynd i’r afael â’r materion a godwyd pan leisiwyd pryder, er mwyn ymdrin â’r sefyllfa y mae unigolyn yn ei hwynebu drwy edrych ar wraidd y broblem.

Enillydd: Media Academy Cymru, sy’n cefnogi plant a phobl ifanc i wneud dewisiadau gwell a mwy diogel.

Mae Media Academy Cymru yn cynnal 17 o wasanaethau cefnogaeth gymunedol penodol sy’n ceisio meithrin empathi tuag at ddioddefwyr a newid ymddygiad negyddol ymhlith plant a phobl ifanc ar y cam cynharaf posibl. Gan weithio gyda bron i 60,000 o blant a phobl ifanc yn ystod y 15 mlynedd ddiwethaf, maent wedi datblygu ymateb penodol i Gymru ar gyfer materion diogelwch cymunedol, yn cynnwys trais pobl ifanc yn erbyn rhieni, arfau ac atal trais, casineb a thrais at ferched a genethod, gweithgareddau dargyfeiriol i atal ail-droseddu a gweithwyr iechyd i ymateb i blant sy’n dioddef trais.

Enillwyr y categori Troseddu Cyfundrefnol

Mae troseddu cyfundrefnol yn fygythiad diogelwch cenedlaethol sylweddol a sefydledig, ac mae’n cynnwys: smyglo a dosbarthu cyffuriau a gynnau; cam-drin plant yn rhywiol drwy fasnachu mewn plant; smyglo a masnachu mewn pobl ar draws ffiniau; camfanteisio ar unigolion; twyll ar sail ddiwydiannol; ymosodiadau meddalwedd wystlo; a gwyngalchu arian brwnt, sydd oll yn achosi niwed i ddioddefwyr, unigolion a chymunedau.

Enillydd: Ymgyrch Bridport ac Ymgyrch Goutweed – Canol Tref Castell-nedd, Tîm Plismona yn y Gymdogaeth Castell-nedd a Phartneriaeth Castell-nedd Port Talbot Mwy Diogel.

Mae’r prosiect wedi’i ddewis oherwydd ei effaith ar ddatgymalu llinell gyffuriau, canfod achosion o gamfanteisio ar blant bach (Ymgyrch Bridport) a chreu systemau cadarn i’w hatal nhw rhag cael eu hail-sefydlu drwy weithio mewn partneriaeth yn well ac yn amlach (Ymgyrch Goutweed). Nodwyd ymddygiad gwrthgymdeithasol pobl ifanc a gweithgareddau troseddol, gyda pherygl ychwanegol bod yr Heddlu wedi derbyn gwybodaeth am bobl ifanc yn cario cyllyll a chymdeithion yn rhan o weithgareddau grŵp troseddu cyfundrefnol. Datgymalwyd y llinell gyffuriau yn gyfan gwbl a roddwyd systemau ar waith i atal pethau rhag ailgychwyn. Gwelwyd gostyngiad yng nghyfraddau troseddu canol y dref, gyda chanran y troseddau a roddwyd gwybod amdanynt yn 15.9% yn llai. Gwelwyd y gostyngiad mwyaf yng nghanran y troseddau difrod troseddol – gostyngiad o 47.2%. Cafwyd gostyngiad o 20.6% mewn byrgleriaethau masnachol a gostyngiad o 11.8% mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol. Un peth cadarnhaol yn sgil hyn yw’r ffaith bod ganddynt broses gydgysylltiedig a chadarn yn ei lle yn barod i ddelio gyda materion tebyg, a systemau diwygiedig a gweithdrefnau newydd sy’n sicrhau eu bod yn cael eu hystyried mewn ffordd holistaidd os yw troseddu cyfundrefnol yn dod yn broblem eto.

 

Enillwyr y categori Troseddu a Chyfiawnder

Troseddu a chyfiawnder sy’n cynnwys y system Cyfiawnder Troseddol ochr yn ochr â rheoli troseddwyr yn gyffredinol.

Cyd-enillwyr: Tîm Ymateb Cyntaf ac Ymchwilio Gorfodi’r Gyfraith Heddlu Gogledd Cymru a Phrosiect Tai Rheoli Troseddwyr Integredig Dyfed Powys.

Cyd-enillwyr: Tîm Ymateb Cyntaf ac Ymchwilio Gorfodi’r Gyfraith Heddlu Gogledd Cymru ar gyfer Ymgyrch Blue Spinel.

Ymchwiliad i gyfres o fyrgleriaethau preswyl a ddigwyddodd ar brynhawn a nos 6 Chwefror 2023 mewn nifer o gymunedau yng Nghonwy a Sir Ddinbych. Roedd yr ymchwiliad yn cynnwys nifer o ymchwiliadau eraill i fyrgleriaethau ar draws y gogledd, a oedd wedi’u cyflawni gan grwp cyfundrefnol. Arweiniwyd y tîm ymchwilio gan Dditectif Gwnstabliaid Sean Harrison a Stuart Goldsack. Drwy waith dadansoddol Anne-Marie Fisher llwyddodd y tîm i ymchwilio i’r troseddau cysylltiedig yn effeithiol. Nodweddion allweddol yr ymchwilid oedd y gwaith tîm ardderchog a’r gwaith partneriaeth dilynol gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron, a arweiniodd at ganlyniad cadarnhaol iawn i lawer o ddioddefwyr.

 

Cyd-enillwyr: Prosiect Tai Rheoli Troseddwyr Integredig Dyfed Powys

Mae tîm Rheoli Troseddwyr Integredig Ceredigion wedi nodi llety fel yr angen mwyaf allweddol ymhlith y garfan i geisio torri’r cylch troseddu.

Mae tîm yr Heddlu yn nodi ac yn rheoli’r atgyfeiriadau ar gyfer eiddo. Mae HMPPS yn cefnogi unigolion tra maent yn yr eiddo. Mae Barcud, y gymdeithas dai, yn darparu’r eiddo ar gytundeb trwydded. Mae’r Gymdeithas Ofal yn darparu gwasanaeth rheoli tai a chefnogaeth i’r unigolion. Mae’r Awdurdod Lleol yn cefnogi’r fenter ac yn trin yr unigolion sy’n defnyddio’r eiddo fel unigolion digartref ac mewn llety dros dro, gan eu galluogi i gael mynediad at opsiynau symud ymlaen. Darperir gofal estynedig hefyd. Sefydlwyd y prosiect yn 2021 a, hyd yma, nid oes yr un unigolyn wedi ail-droseddu.

 

 

Enillwyr y categori Trais Difrifol

Mae trais difrifol yn cynnwys llofruddiaethau, troseddau cyllyll a gynnau a meysydd o drosedd lle ceir bygythiad o drais difrifol neu’r bygythiad yn un parhaol.

Enillydd: Partneriaeth INTACT Dyfed Powys

Nod y bartneriaeth yw lleihau niwed a achosir i unigolion a chymunedau gan drais difrifol a throseddu cyfundrefnol drwy baratoi, diogelu, atal ac erlyn. Elfen allweddol yr ymyraethau yw cefnogaeth oedolyn y gellir ymddiried ynddo a darparu mewnbynnau, codi ymwybyddiaeth a meithrin gwydnwch i’r bygythiadau. Mae dros 600 o blant, pobl ifanc ac oedolion diamddiffyn wedi cael cynnig amrywiaeth o ymyraethau wedi’u targedu. Mae wedi’i werthuso’n annibynnol gan Brifysgol Aberystwyth, sydd wedi nodi bod INTACT wedi arddangos effaith fesuradwy.

Enillwyr y categori Partneriaethau

Pan geir partneriaeth dda fe geir tîm, enaid a rennir. Os ydych chi mewn partneriaeth yna rydych chi mewn cytundeb, felly pan nad ydynt gyda chi rydych chi’n dal yn gysylltiedig ac yn gweithio tuag at nod cyffredin.

Cyd-enillwyr: On-Track’ yng Nghaerdydd a Rhaglen Gymunedol Môn Actif ar Ynys Môn

Cyd-enillwyr: ‘On-Track’ yng Nghaerdydd

Mae On-Track yn rhoi’r sgiliau sydd ar droseddwyr eu hangen i ddechrau gweithio am dâl yn y diwydiant rheilffordd, ac i gadw eu bywyd a’u dyfodol ar y trywydd cywir. Cynhelir cwrs tri mis i unigolion a nodir drwy’r tîm Rheoli Troseddwyr yn Heddlu De Cymru, ac mae’r Gwasanaeth Prawf hefyd yn enwebu unigolion os credir y gellir osgoi troseddu pellach drwy’r dull yma. Mae’r partneriaid yn cynnwys Heddlu De Cymru, Cyngor Caerdydd, y Gwasanaeth Prawf, Adran Gwaith a Phensiynau, Network Rail, Vital Rail, Ganymeade Solutions, Absolute Training and Assessing a Dyfodol.

 

Cyd-enillwyr: Rhaglen Gymunedol Môn Actif

Mae’r partneriaid yn cynnwys Cyngor Sir Ynys Môn, Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaethau Ieuenctid, Gemau Stryd, Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc a’r RNLI (Diogelwch Dŵr).

Mae Môn Actif yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd i blant, pobl ifanc ac oedolion o bob oed a gallu mewn amrywiaeth o leoliadau, yn cynnwys ysgolion, colegau, clybiau, canolfannau cymunedol a chanolfannau hamdden, a’r prif nod yw creu Ynys Môn iachach, hapusach a mwy actif. Drwy gydweithio a gweithio gyda phartneriaid allweddol mae’r effaith ar gydlyniant cymunedol, diogelwch y gymuned ac o ran creu mwy o gyfleoedd sy’n helpu i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gwbl amlwg ar hyd a lled yr ynys. Mae’r gweithgareddau wedi cynnwys beicio mynydd, syrffio a phadlfyrddio, sesiynau hunanamddiffyniad i ferched a genethod, pêl-droed a phêl fasged i enwi ond rhai, yn ogystal â sesiynau diogelwch dŵr mewn sefydliadau addysg. Mae’r bobl ifanc yn dal i ddod, wythnos ar ôl wythnos.

 

Cymeradwyaeth Uchel: Caban Nadolig Abertawe Mwy Diogel

Drwy gydol mis Rhagfyr bu Paul Evans, Cydlynydd Diogelwch Cymunedol Cyngor Abertawe yn gweithredu ac yn rheoli caban arbennig Partneriaeth Abertawe Mwy Diogel. Roedd y caban ar gael i holl bartneriaid Abertawe Mwy Diogel ei ddefnyddio er mwyn cynnal arolygon, rhannu negeseuon cymunedol/personol pwysig gyda’r cyhoedd ac i ymgysylltu â grwpiau diamddiffyn a chyflawnwyr. Mae allfeydd gweithredol yn yr ardal gyfagos a cheidwaid canol y ddinas wedi adrodd am ostyngiad sylweddol yn nifer yr achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol, difrod troseddol a dwyn o siopau.

 

Trosolwg Gwobrau Cymunedau Mwy Diogel Agoriad 2023

Ledled Cymru, mae Partneriaethau Diogelwch Cymunedol a phartneriaid eraill yn gweithio’n unigol a gyda’i gilydd fel bod pawb yng Nghymru yn teimlo’n ddiogel ac yn rhydd rhag ofn camfanteisio, trosedd ac anhrefn. Mae’r gwaith hwn yn aml yn cael ei wneud yn dawel a chan nifer fach o bobl sy’n frwd dros wneud gwahaniaeth i unigolion, teuluoedd a chymunedau.

Mae Gwobrau Cymunedau Mwy Diogel yn cael ei chynnal i gydnabod cyfraniadau eithriadol i ddiogelwch cymunedol mewn cyd-destun aml-asiantaeth. Bydd digwyddiad y prynhawn yn un i ddathlu, ac yn cydnabod y rhai sydd wedi cael effaith wirioneddol ar fywydau pobl dros y flwyddyn.

Yn ogystal â chydnabod ymdrechion unigolion a phrosiectau a phartneriaethau cydweithredol, bydd hefyd yn rhoi sylw i ddyfarnwyr, cydweithwyr a gweithwyr proffesiynol diogelwch cymunedol ehangach, yn yr ystyr bod eu gwaith caled yn cael ei werthfawrogi ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i unigolion a chymunedau ledled Cymru.

Cofrestrwch i fynychu’r Gwobrau yma.

Mae’r broses enwebu ar gyfer Gwobrau bellach wedi cau.

Mae’r ffurflen enwebu’n cynnwys cyfle i egluro pam eich bod yn credu y dylai’r unigolyn, prosiect neu’r bartneriaeth hon dderbyn Gwobr. Bydd yn helpu’r panel pe baech cystal â darparu rhywfaint o fanylion am yr effaith ar unigolion neu gymunedau, gan gadw at y cyfyngiad geiriau.  Mae cyfyngiad o 500 gair ar gyfer yr adran hon o’r ffurflen enwebu, ni fyddwn yn ystyried unrhyw eiriau ychwanegol.

Croesawir enwebiadau gan unrhyw barti ac ar gyfer unrhyw unigolyn, sefydliad neu brosiect perthnasol yng Nghymru p’un a ydynt yn cael eu talu neu ddim (gwirfoddolwr) o’r sector cyhoeddus, y sector preifat neu’r trydydd sector (elusennau, grwpiau gwirfoddol neu grwpiau cymunedol).

Mae pedwar categori ar ddeg o wobrau, ac enillwyr categorïau yn cael eu dewis gan banel gwobrau o ran y pynciau canlynol.

  • Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
  • Atal Troseddu
  • Cydraddoldeb, Cynhwysiant a Chydlyniant
  • Caethwasiaeth Fodern a Cham-fanteisio
  • Troseddu a Chyfiawnder
  • Diogelwch y Cyhoedd
  • Diogelu
  • Ymyrraeth Gynnar
  • Trais Difrifol
  • Trosedd Gyfundrefnol
  • Terfysgaeth ac Eithafiaeth
  • Trais yn Erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
  • Llywodraethu
  • Partneriaethau

Dyddiad cau ar gyfer derbyn enwebiadau:  18 Hydref 2023

Gwneir pob ymdrech i osgoi unrhyw achosion o wrthdaro buddiannau wrth ddewis aelodau’r panel, a bydd gan yr aelodau wybodaeth arbenigol am ddiogelwch cymunedol o’r llywodraeth, y sector cyhoeddus neu’r trydydd sector.

Mae’r panel yn cynnwys cynrychiolydd o Lywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Plismona yng Nghymru a Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru.

Os bydd angen gofyn cwestiynau neu geisio eglurhad gan y panel er mwyn gwneud penderfyniad ar sail gwybodaeth, bydd tîm Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru yn cysylltu â’r enwebydd, a lle bo angen, yr enwebai.

Bydd y panel yn adolygu’r enwebiadau a bydd eu penderfyniad nhw’n derfynol.

Beth: Gwobrau Cyntaf Cymunedau Mwy Diogel 2023

Pryd: Dydd Iau 30 Tachwedd 2023, 14:00-17:00

Ble: Village Hotel Abertawe, SA1 8QY

Sut i archebu lle: Rheolir presenoldeb drwy Eventbrite. Cofrestrwch yma i fynychu’r digwyddiad mewn person yn Abertawe.

Bydd unigolyn enwog ac adnabyddus o Gymru sy’n gysylltiedig â diogelwch cymunedol yn arwain y gwobrwyo. Byddwn yn cyhoeddi rhagor o fanylion yn fuan.

Y gwobrau cyntaf yw’r rhain ac felly ni fydd yn ddigwyddiad tei du, cynhelir y digwyddiad yn y prynhawn a gofynnir i fynychwyr wisgo dillad smart-hamddenol. Bydd te, coffi a diodydd heb alcohol ar gael drwy gydol y digwyddiad. Ni ddarperir alcohol fel rhan o’r digwyddiad, fodd bynnag, mae bar trwyddedig ar gael yn y gwesty pe bai gwesteion yn dymuno mynd yno ar ôl y seremoni ar eu traul eu hunain.

Bydd y rhaglen yn cael ei rhannu gyda phawb sydd wedi archebu i fynychu’r digwyddiad a’i hychwanegu at y dudalen hon unwaith y bydd wedi’i chwblhau. Mae darparu cymunedau mwy diogel yn cynnwys ystod o bartneriaid a gobeithiwn y bydd y rhai sydd ynghlwm â’r seremoni’n adlewyrchu hynny, gan gynnwys Heddlu yng Nghymru, Llywodraeth Leol, y Gwasanaeth Tân ac Achub a Llywodraeth Cymru.

Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael ar gyfer mynychwyr sy’n dymuno gwrando ar y digwyddiad drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg.