Neidio i'r prif gynnwys

Cysylltu

Cwestiynau cyffredin

Os ydych mewn argyfwng ffoniwch 999

Os ydych chi wedi bod yn dyst neu wedi bod yn ddioddefwr trosedd, adroddwch hyn i’r Heddlu. Phonics 101, neu gallwch adrodd ar-lein yn dibynnu ar eich rhanbarth o fewn Cymru – Heddlu De CymruHeddlu Dyfed PowysHeddlu Gwent neu Heddlu Gogledd Cymru. Mewn argyfwng, ffoniwch 999.

Os ydych yn fyddar neu’n drwm eich clyw, defnyddiwch wasanaeth ffôn testun yr Heddlu 18000 neu anfonwch neges destun ar 999 os ydych wedi cofrestru gyda gwasanaeth argyfwng SMS.

Os oes gennych wybodaeth am drosedd ac yn dymuno aros yn ddienw, cysylltwch â’r elusen annibynnol Crimestoppers ar 0800 555 111 neu ar-lein.

Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan drosedd, gallwch gael mynediad at gymorth gan Gymorth i Ddioddefwyr, gan gynnwys eu llinell gymorth cenedlaethol 24/7 am ddim 08 08 16 89 111, neu gallwch dderbyn cymorth ar-lein.

O dan bob pwnc, mae eu hisbynciau, ac rydym wedi cynnwys gwybodaeth ar gymorth a chefnogaeth sy’n addas ar gyfer pob pwnc penodol.

Os ydych chi, neu rywun arall mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch yr heddlu ar 999.

Mae nifer o bethau’n gyffredin rhwng diogelwch cymunedol a diogelu, fel y dangosir, gyda diogelu’n un o’r pynciau y mae’r wefan yn canolbwyntio arno. Ond mae gwahanol elfennau; deddfwriaeth er enghraifft. Tra bo pawb yn cyfranogi mewn diogelwch cymunedol neu’n ddioddefwr os yw pethau’n mynd o’i le, mae diogelu’n cynnwys amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl o wahanol fathau o gamdriniaeth. Mae’n rhaid ystyried diogelu o hyd, ac mae’r ddyletswydd i adrodd yn gymwys ar draws diogelwch cymunedol, fel mewn gwasanaethau eraill.

Efallai nid yw oedolyn sydd wedi goroesi cam-drin domestig yn oedolyn mewn perygl, mewn perthynas â diogelu, serch hynny, os ydyn nhw’n datgelu rhywbeth am eu plentyn sy’n awgrymu bod y plentyn hwnnw mewn perygl, yna dylid llunio adroddiad mewn perthynas â’r plentyn.

Mae sawl digwyddiad lle mae sefyllfa’n disgyn dan ddiogelu a diogelwch cymunedol. Er enghraifft, meddiannu cartrefi pobl ddiamddiffyn i werthu cyffuriau (camfanteisio troseddol) sy’n aml yn cynnwys oedolyn mewn perygl, wedi’i gyplysu â gweithgareddau troseddol.

Mae’r berthynas gweithio agos rhwng y ddau yn cael ei arddangos yn y cyfeiriadur drwy’r dolenni i dudalennau diogelwch cymunedol ar wefannau awdurdodau lleol, yn ogystal â’r tudalennau gwe diogelu.

Mae Cymru’n canolbwyntio’n gryf ar atal, mae’n cael ei gynnwys yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae beth sy’n gwneud i bobl deimlo’n ddiogel mewn cymunedau’n cwmpasu nifer o elfennau gwahanol; mae’n cynnwys teithio a gweithgareddau (Diogelwch y Cyhoedd); atal tân a diogelwch yn y cartref; a gall, ac fe ddylai, gynnwys pawb. Mae rhai elfennau penodol sy’n ymdrin â throsedd ac atal troseddu, ond i eraill, mae’n cynnwys gwella’r amgylchedd rydym yn byw ynddo, ac yn galluogi pobl i fynd i’r afael â gweithgareddau dyddiol yn ddiogel, heb gael niwed.

Os ydych chi’n dymuno cwyno am Rwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru, anfonwch e-bost at cymunedaumwydiogel@wlga.gov.uk at sylw Pennaeth y Rhwydwaith. Os yw’r gŵyn yn ymwneud â Phennaeth y Rhwydwaith, cyfeiriwch y neges at sylw y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai.

Os oes gennych gŵyn am bartner megis yr Heddlu neu’r Awdurdod Lleol, ewch i’w
gwefan a dilynwch eu gweithdrefn gwynion.

Rydyn ni yma i helpu

Os hoffech chi gysylltu â ni, cwblhewch ein ffurflen gyda manylion eich ymholiad a bydd aelod perthnasol o’r tîm mewn cysylltiad.

Contact Form CY

"*" indicates required fields