- Mae Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015 yn amlinellu troseddau caethwasiaeth, caethwasanaeth a llafur gorfodol dan orfod yn adran 1, a masnachu mewn pobl yn adran 2. Mae Adran 45 yn datgan yr amgylchiadau lle nad yw person yn euog o drosedd, sy’n cynnwys “mae’r person yn gwneud y weithred honno o ganlyniad uniongyrchol i fod, neu wedi bod, yn ddioddefwr caethwasiaeth neu’n ddioddefwr camfanteisio perthnasol…”. Mae’r Ddeddf yn rhoi’r fframwaith deddfwriaethol sy’n ei gwneud yn bosibl i ddwyn achos effeithiol yn erbyn cyflawnwyr caethwasiaeth fodern (gan gynnwys camfanteisio troseddol) a’u canfod yn euog o’r drosedd.
- Mae Deddf Troseddau Difrifol 2015 yn cynnwys y drosedd gyfreithiol o gymryd rhan yng ngweithgareddau grŵp troseddau cyfundrefnol a’r Gorchmynion Atal Troseddu Difrifol ataliol, yn ogystal â chryfhau ar seibrdroseddu, gwaharddebau gangiau a mesurau eraill i amharu ar droseddau a rhoi diwedd arnynt. Mae’r Ddeddf hefyd yn diwygio’r diffiniad statudol o’r hyn a ystyrir yn gang – mae’n cynnwys tri pherson o leiaf a gall pobl eraill ei adnabod fel grŵp.
- Mae Deddf Cyllid Troseddol 2017 yn rhoi pwerau i fynd i’r afael â gwyngalchu arian, llygredd ac adennill yr hyn a enillwyd o droseddau.
- Mae Deddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971 yn ymwneud ag amryw o droseddau yn cynnwys bod ym meddiant, cyflenwi a chynhyrchu.
- Gall Deddf Atal Troseddu 1953 a Deddf Cyfiawnder Troseddol 1998 fod yn addas ar gyfer Llinellau Sirol a gangiau eraill gan eu bod yn cynnwys troseddau’n ymwneud ag arfau ymosodol.
- Mae Deddf Arfau Tanio 1968 yn cynnwys y drosedd yn ymwneud ag arfau tanio, drylliau ac arfau eraill, eu cydrannau a bwledi a chetris.
- Mae Deddf Troseddau yn erbyn y Person 1861 yn ymwneud â throseddau megis ymosodiad cyffredin ac ymgais i lofruddio.
- Mae Deddf Plismona a Throsedd 2009 yn darparu ar gyfer gwaharddebau i atal trais yn ymwneud â gangiau a gweithgareddau delio cyffuriau yn erbyn unigolyn.
- Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 Mae gan gyrff statudol gyfrifoldeb statudol i wneud popeth rhesymol o fewn eu gallu i atal trosedd ac anrhefn yn eu hardal a rhannu gwybodaeth i ddiogelu cymunedau rhag troseddau difrifol a throseddau cyfundrefnol.
- Mae Rheoliadau Masnachu mewn Pobl at ddibenion Camfanteisio 2013 yn amddiffyn pobl sy’n cael eu masnachu rhag camfanteisio troseddol ac maent yn gosod mesurau i amddiffyn dioddefwyr.
- Mae Deddf Troseddau Rhyw 2003 yn ymwneud â throseddau rhyw a all fod yn rhan o gamfanteisio troseddol, yn cynnwys defnyddio merched yn erbyn eu hewyllys fel rhan o ddefod i dderbyn dynion i gangiau drwy weithgaredd rhywiol.
- Mae Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 yn darparu amryw o fesurau a allai fod yn gysylltiedig ag ymddygiad gangiau a Gorchmynion Ymddygiad Troseddol.
- Cyflwynodd Deddf yr Economi Ddigidol 2017 reoliadau Gorchmynion Cyfyngu ar Delegyfathrebu’n ymwneud â Delio Cyffuriau, sy’n gorfodi cwmnïau rhwydweithiau ffonau symudol i gau llinellau ffonau symudol a/neu ddarnau llaw a ddefnyddir i ddelio cyffuriau.
- Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn amlinellu’r ddyletswydd statudol i ddiogelu oedolion mewn perygl. Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn rhoi gwybodaeth ychwanegol am hyn.
- Cyfeiriadur
- Pwnc
- Pob Pwnc
- Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ac Anrhefn
- Trosedd ac Atal Troseddu
- Cydraddoldeb, Cynhwysiant a Chydlyniant
- Caethwasiaeth Fodern a Chamfanteisio
- Troseddau a Chyfiawnder
- Diogelwch y Cyhoedd
- Diogelu ac Ymyrraeth Gynnar
- Trais Difrifol a Throseddau Trefnedig
- Terfysgaeth ac Eithafiaeth
- Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig & Thrais Rhywiol
- Diweddariadau
- Hyfforddiant
- Cyfryngau
- Ymchwil
- Amdanom ni