Neidio i'r prif gynnwys

Masnachu mewn Pobl

Archwilio is-bynciau

Beth yw Masnachu mewn Pobl?

Masnachu yw’r weithred o brynu neu werthu nwyddau sydd fel arfer yn anghyfreithlon, megis masnachu mewn cyffuriau. Masnachu mewn Pobl yw symud pobl drwy ddefnyddio grym, twyll, gorfodaeth, neu ddichell gyda’r nod o gamfanteisio arnynt. Mae’n drosedd ac nid yw bob amser yn cynnwys teithio rhyngwladol. Mae’n cynnwys llafur masnachol a rhywiol a llafur bond. Mae’n ffurf ar Gaethwasiaeth Fodern.

Mae pobl sy’n cael eu masnachu yn aml yn teimlo nad oes ganddynt lawer o ddewis yn yr hyn sy’n digwydd iddynt ac maent yn aml yn cael eu cam-drin oherwydd trais a bygythiadau a wneir yn eu herbyn nhw neu yn erbyn eu teuluoedd. Maent yn troi’n nwyddau sy’n eiddo i’r masnachwyr pobl, ac yn cael eu defnyddio i wneud elw. 

Gall hyn olygu bod perthynas amhriodol yn cael ei meithrin gyda merched a’u bod yn cael eu gorfodi i wneud gwaith rhyw neu eu bod mewn sefyllfa lle bydd rhywun yn camfanteisio arnynt yn rhywiol; dynion yn cael eu twyllo i dderbyn cynigion gwaith a’u dal mewn gwaith dan orfodaeth ar safleoedd adeiladu neu ffermydd, neu mewn ffatrïoedd; merched yn cael eu recriwtio i weithio mewn cartrefi preifat ac yna’n cael eu dal, eu hecsbloetio a’u cam-drin y tu ôl i ddrysau caeedig heb unrhyw ffordd i ddianc. Nid yw bob amser yn ymwneud â chludo pobl o un wlad i’r llall, gall ddigwydd mewn un wlad neu o fewn un gymuned.

Roedd amcangyfrifon yn 2020 yn awgrymu bod tua 13,000 o ddioddefwyr masnachu mewn pobl yn y DU, er bod y Cenhedloedd Unedig yn credu bod tua 136,000 o bobl yn y DU sy’n cael eu gorfodi i weithio neu sydd wedi cael eu masnachu.

Masnachu mewn plant yw’r weithred o gludo plant er mwyn camfanteisio arnynt. Mae masnachu mewn plant a chaethwasiaeth fodern yn fathau o gam-drin plant (gweler Diogelu). Mae masnachu mewn plant yn cael ei ddiffinio fel recriwtio, symud, derbyn a llochesu plant at ddibenion camfanteisio. Mae plant yn cael eu masnachu er mwyn camfanteisio’n rhywiol arnynt neu ar gyfer gweithgaredd troseddol (yn cynnwys llinellau sirol), priodas dan orfod, caethwasanaeth domestig, llafur dan orfod, mabwysiadu’n anghyfreithlon a threfniant maethu preifat heb ei gofrestru (at unrhyw ddibenion camfanteisio).

Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi diffinio masnachu mewn pobl fel “recriwtio, cludo, trosglwyddo, llochesu neu dderbyn pobl drwy ddulliau bygwth, neu drwy ddefnyddio grym, gorfodaeth neu dwyll…er mwyn i berson gael caniatâd i reoli person arall, at ddibenion camfanteisio.” (Protocol Palermo)

  • Mae Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015, adran 2 yn rhoi’r ddeddfwriaeth ynghylch trefnu neu hwyluso i berson arall deithio gyda’r bwriad i gamfanteisio arnynt. Mae Adran 3 y Ddeddf yn diffinio ystyr camfanteisio.
  • Mae Deddf Lloches a Mewnfudo (Triniaeth Hawlwyr ayb) 2004 yn rhoi’r ddeddfwriaeth ar gyfer pob math o gamfanteisio nad yw’n rhywiol cyn 2015.
  • Mae Deddf Ffiniau, Dinasyddiaeth a Mewnfudo 2009 yn amlinellu’r ddyletswydd i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a ddaw i’r DU.
  • Mae Rheoliadau Masnachu mewn Pobl at ddibenion Camfanteisio 2013 yn amddiffyn pobl sy’n cael eu masnachu rhag camfanteisio troseddol ac maent yn gosod mesurau i amddiffyn dioddefwyr.
  • Mae Deddf Diogelu Rhyddid 2012 yn ei gwneud yn bosibl i ddwyn achos yn erbyn gwladolyn y DU am gyflawni’r drosedd o fasnachu pobl mewn unrhyw wlad yn y byd, ac mae’n ei gwneud yn drosedd i fasnachu pobl o fewn y DU at ddibenion camfanteisio nad yw’n rhywiol.
  • Ymdrinnir â chamfanteisio’n rhywiol yn Neddf Amddiffyn Plant 1978 a Deddf Troseddau Rhyw 2003.Mae’r Swyddfa Gartref wedi cyhoeddi canllawiau statudol ar sut i adnabod a chefnogi dioddefwyr caethwasiaeth fodern.
  • Mae Arfer Cymru Gyfan: Diogelu plant a allai gael eu masnachu yn ganllawiau statudol ar gyfer ymarferwyr mewn asiantaethau sy’n diogelu plant yn effeithiol.
  • Gellir cyflwyno Gorchymyn Atal Caethwasiaeth a Masnachu mewn Pobl dim ond os bydd y diffynnydd wedi ei ganfod yn euog o drosedd masnachu mewn pobl neu gaethwasiaeth a bod y llys yn credu bod perygl y bydd yn cyflawni troseddau pellach a bod angen diogelu pobl eraill rhag niwed, gellir cael cosb o hyd at bum mlynedd yn y carchar os torrir y gorchymyn. 
  • Gellir gwneud Gorchmynion Risg Caethwasiaeth a Masnachu mewn Pobl heb gollfarn os credir bod y person mewn perygl o achosi niwed a bod angen diogelu pobl eraill. Gellir cael cosb o hyd at bum mlynedd yn y carchar os torrir y gorchymyn hwn hefyd. 

Llywodraeth Cymru : Cwrs Cyflwyniad i Ymwybyddiaeth Atal Caethwasiaeth; Cwrs Ymatebwr Cyntaf Atal Caethwasiaeth; ac i’r rhai sy’n gweithio i’r Heddlu neu i Wasanaeth Erlyn y Goron Caethwasiaeth Fodern a Throseddau Cyfundrefnol https://gov.wales/modern-slavery-guidance-professionals#section-24303

Gofal Cymdeithasol Cymru : Ymwybyddiaeth am Ddiogelu https://gofalcymdeithasol.cymru/dysgu-a-datblygu/diogelu 

Unseen: Amryw o gyrsiau achrededig ar gyfer gweithwyr proffesiynol yn y gwasanaethau statudol https://www.unseenuk.org/modern-slavery-training 

Tystysgrif Broffesiynol ynghylch Mynd i’r Afael â Masnachu mewn Pobl https://humantrafficking.parlicentre.org/ 

Heddlu Caint: Caethwasiaeth fodern a masnachu mewn pobl – mae’n agosach na’r disgwyl (YouTube) https://www.youtube.com/watch?v=vkSU5r9rdUY 

Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol: Ymgyrch Caethwasiaeth Fodern a Masnachu mewn Pobl: Elena (YouTube) https://www.youtube.com/watch?v=Cej6avHPIbg 

Byddin yr Iachawdwriaeth yn y DU: ‘Slave sale’ yn Chelsea: Atal Masnachu mewn Pobl a Chaethwasiaeth Fodern (YouTube) https://www.youtube.com/watch?v=7fpDDHgPYsQ


Cymorth a chefnogaeth

Ar gyfer dioddefwyr, teuluoedd a phobl bryderus

Mae’r Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol (NRM) yn fframwaith sengl sy’n canolbwyntio ar ddull amlasiantaethol i adnabod dioddefwyr a’u cyfeirio at y gefnogaeth briodol. Gall yr Heddlu, Yr Awdurdodau Mewnfudo, Awdurdodau Lleol a rhai sefydliadau anllywodraethol gyfeirio dioddefwyr dan amheuaeth at yr Awdurdod Cymwys Sengl i wneud penderfyniad. Mae’r Awdurdod Cymwys Sengl yn rhan o’r Swyddfa Gartref. Mae angen caniatâd er mwyn atgyfeirio oedolion at y Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol ond nid oes angen caniatâd ar gyfer rhai o dan 18 oed.

Llinell Gymorth Caethwasiaeth Fodern 08000 121 700.

Llinell Gymorth NSPCC 0808 800 5000 os ydych chi’n meddwl bod plentyn mewn perygl o gael ei fasnachu.

Llinell Gymorth Byw Heb Ofn 0808 80 10 80 neu e-bost info@livefearfreehelpline.wales 

Mae Prosiect Diogel BAWSO yn cefnogi merched a merched sydd wedi cael eu masnachu i mewn i’r DU. Darperir llety diogel ac allgymorth mewn partner Seth â Byddin yr Iachawdwriaeth. Llinell Gymorth 24 awr 0800 731 8147 neu e-bost info@bawso.org.uk 

Mae Barnardo’s yn cynnal Gwasanaeth Gwarcheidiaeth Masnachu mewn Plant Annibynnol arbenigol yng Nghymru.