Mae Emma yn ymuno â’r tîm o Heddlu Gogledd Cymru gyda bron i 30 mlynedd o wasanaeth ble roedd yn Bennaeth Dadansoddi Trosedd a Chudd-wybodaeth. Mae cefndir Emma gyda’r heddlu yn cynnwys achosion mawr a difrifol o droseddau cyfundrefnol, arwain gwaith dadansoddi a phrosiectau partneriaeth, ac mae hefyd wedi arwain rhaglen ar gyfer pecyn rheoli risg cenedlaethol (MoRiLE). Mae Emma yn ymuno â Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru yn syth ar ôl cwblhau secondiad gydag Uned Atal Trais Cymru a hi yw is-gadeirydd Rhwydwaith Arloesi a Gwella Data a Dadansoddi Cymru (WDAIN). Mae gan Emma gyfoeth o brofiad ac arbenigedd ac mae’n angerddol iawn dros waith wedi’i arwain gan dystiolaeth, gweithio ar y cyd, atal a gweledigaeth cymunedau mwy diogel Cymru.