Neidio i'r prif gynnwys

Ffilm gyda Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru

Ffilm Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru gyda Y Gwir Anrh Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru

Ar ddydd Llun 18 Medi 2023, diwrnod cyntaf Wythnos Ymwybyddiaeth Cymunedau Mwy Diogel 2023, lansiwyd ein ffilm gyntaf Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru gyda’r Gwir Anrh Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru, yn cael ei gyfweld gan Holly Roberts, Rheolwr Cyfathrebu a Digwyddiadau’r Rhwydwaith.

Mae’r ffilm yn tynnu sylw at bwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth i hyrwyddo cymunedau diogel, cryf a hyderus, a sut mae’r Rhwydwaith yn amhrisiadwy i gyflawni hyn.