Neidio i'r prif gynnwys

Ymchwil & Ymarfer

Ymchwil ac Ymarfer Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru

Mae Ymchwil ac Ymarfer yn elfen bwysig o Rwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru er mwyn rhannu arfer orau ar draws Cymru a thu hwnt. Mae ymchwil yn darparu’r sail dystiolaeth sy’n bwysig ar gyfer dangos beth sy’n gweithio mewn diogelwch cymunedol er mwyn galluogi arloesedd a gwelliannau ar draws Cymru.

Rydym yn ymgymryd â rhai gweithgareddau ein hunain, ond mae ein partneriaid ac eraill yr ydym yn gweithio â hwy yn gwneud rhagor o waith, gan gynnwys phrifysgolion a Chanolfan Trosedd a Chyfiawnder Cymdeithasol Cymru.

 

Ein Canfyddiadau Ni

Mae Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru wedi ymgymryd â sawl arolwg ers ei sefydlu ym mis Ionawr 2021. Mae’r adroddiadau a’r ffeithluniau a gynhyrchwyd o ganlyniad i’r arolygon i’w gweld isod.

  • Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru: Asesiad Anghenion Hyfforddi (Tachwedd 2022)

Comisiynodd Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru ar Brifysgol Abertawe i gynnal Asesiad Anghenion Hyfforddi (TNA) ar gyfer gweithwyr proffesiynol diogelwch cymunedol ledled Cymru. Darllenwch yr adroddiad isod i gael gwybod am ganfyddiadau thematig y TNA i’w hystyried gan y Rhwydwaith a Bwrdd Cymunedau Mwy Diogel Cymru, sy’n cynnwys argymhellion ar gyfer datblygu hyfforddiant neu hyfforddiant y dylid ei gomisiynu i ddiwallu’r anghenion.

I ddarllen yr adroddiad llawn cliciwch yma

I ddarllen y crynodeb gweithredol cliciwch yma

 

  • Arolwg Cychwynnol Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru: Adroddiad sy’n cyfleu canlyniadau arolwg sylfaenol cyntaf y Rhwydwaith (Hydref 2021)

Ffurfiwyd Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru ym mis Ionawr 2021. Yn ystod y trafodaethau cynnar nodwyd y byddai angen gwneud arolwg cychwynnol. Mae’r arolwg cychwynnol hwn yn dilyn gwaith ar y gweithlu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Roedd yr arolwg ei hun yn cynnwys cwestiynau penodol ar gyfer Rhwydwaith Dadansoddi Data, Arloesi a Gwella Cymru (WDAIIN), yn ogystal ag edrych ar gefndir y bartneriaeth a’r cymhlethdodau yn sgil cyrff cyhoeddus datganoledig a heb eu datganoli yn rhan o’r cyd-destun diogelwch cymunedol.

I ddarllen yr adroddiad cliciwch yma

 

  • Deall Proffil Diogelwch Cymunedol yng Nghymru 2021: Arolwg gweithlu o Awdurdodau Lleol a Phlismona yng Nghymru (Ebrill & Gorffennaf 2021)

Arolwg Gweithlu Diogelwch Cymunedol Awdurdod Lleol Ebrill 2021. Canfyddiadau o 15 o ymatebion mewn perthynas ag 17 Ardal Awdurdod Lleol.

I ddarllen yr adroddiad cliciwch yma

Plismona mewn Diogelwch Cymunedol Gorffennaf 2021. Adroddiad yn dilyn gweithdy a mewnbwn ychwanegol gan Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu Cymru.

I ddarllen yr adroddiad cliciwch yma

 

Adroddiad cryno ar adolygiad y gweithlu o lywodraeth leol a phlismona yng Nghymru.

I ddarllen yr adroddiad cryno cliciwch yma

 

  • Arolwg Ymarferwyr Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2021: Adolygiad o effaith COVID-19 a’r hyn a ddisgwylir (Mehefin 2021)

Adolygiad o effaith y pandemig COVID-19 a’r hyn y mae Ymarferwyr ASB yng Nghymru yn ei ddisgwyl.

I weld y ffeithlun llawn cliciwch yma

 

 


 

Ymchwil Allanol

Bydd ymchwil yn cael ei restru o dan y pynciau gan brifysgolion Cymru a chyrff eraill sy’n ymgymryd â gwaith ymchwil.

 

  • A yw’n gweithio mewn partneriaeth? Cymhlethdodau a rhwystrau wrth ddatblygu arferion diogelwch cymunedol yng Nghymru, Prifysgol Abertawe (Awst 2023) [Saesneg yn unig]

Darllenwch y papur yma

  • Effaith Cam-drin Ar-lein: Clywed Llais y Dioddefwyr, Comisiynydd Dioddefwyr (Mehefin 2022) [Saesneg yn unig]

Darllenwch yr adroddiad yma

  • Beth sy’n Gweithio o ran Atal Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod (ACEs) ar Lefel Gymunedol? Adolygiad o Dystiolaeth ac Ymarfer Mapio, Hwb Cymorth Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) Cymru (Mawrth 2022)

Darllenwch yr adroddiad yma

  • ‘Wedi’i Lywio gan Drawma’: Adnabod Iaith a Therminoleg Allweddol trwy Adolygiad o’r Llenyddiaeth, Hwb Cymorth Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) Cymru & Prifysgol Glyndwr Wrecsam (Chwefror 2022)

Darllenwch yr adroddiad yma

I gael rhagor o wybodaeth am Diogelu ac Ymyrraeth Gynnar cliciwch yma.

  • Gwasanaeth Ymyrraeth Gynnar Troseddau Cyfundrefnol Difrifol, Action for Children (Mai 2022) [Saesneg yn unig]

Darllenwch yr adroddiad yma

I gael rhagor o wybodaeth am Drais Difrifol a Throseddau Trefnedig cliciwch yma.

  • ‘Clytwaith o Ddarpariaeth’: Sut i ddiwallu anghenion dioddefwyr a goroeswyr ledled Cymru a Lloegr, Comisiynydd Cam-drin Domestig (Tachwedd 2022)

    Darganfyddwch fwy yma

  • Mudo gorfodol a thrais rhywiol a ar sail rhywedd: canfyddiadau prosiect SEREDA yng Nghymru, Prifysgol Birmingham (Mai 2022) [Saesneg yn unig]

Darllenwch yr adroddiad yma

  • Canfyddiadau o ddiogelwch personol a phrofiadau o aflonyddu, Prydain Fawr: 16 Chwefror i 13 Mawrth 2022, Swyddfa Ystadegau Gwladol (Mai 2022) [Saesneg yn unig]

Darllenwch yr adroddiad yma

  • Beth sy’n Gweithio i Atal Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV)? Asesiad Systematig o’r Dystiolaeth, Uned Atal Trais Cymru (Medi 2021)

Darllenwch yr adroddiad yma

I gael rhagor o wybodaeth am Drais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) cliciwch yma.