Neidio i'r prif gynnwys

Telerau & Amodau

Darllenwch y Telerau a’r Amodau’n ofalus cyn defnyddio’r wefan hon.

Beth sydd yn y telerau hyn?

Mae’r telerau hyn yn dweud beth yw’r rheolau o ran defnyddio ein gwefannau (safleoedd):

cymunedaumwydiogel.cymru

Cedwir pob hawl nas rhoddir yn benodol yn y telerau hyn.

Hawlfraint

Oni nodir yn benodol, mae hawlfraint y deunyddiau ar cymunedaumwydiogel.cymru yn perthyn i Rwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) Cedwir pob hawl.

Ni chaniateir copïo na defnyddio unrhyw rannau na chynnwys gwefan cymunedaumwydiogel.cymru heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan Rwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru neu CLlLC, heblaw

  1. lle defnyddir rhannau neu gynnwys y wefan gan awdurdod sy’n aelod o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, neu
  2. lle defnyddir y cynnwys at ddibenion addysgiadol neu ymchwil a (i) bod y ffynhonnell yn cael ei chydnabod a (ii) lle defnyddir y cynnwys mewn unrhyw gyhoeddiad, na chodir tâl am gyflenwi’r cyhoeddiad hwnnw heblaw am gostau danfon rhesymol.

Preifatrwydd

Am wybodaeth fwy cynhwysfawr am faterion preifatrwydd, ewch i’n tudalen Polisi Preifatrwydd.

Ymwadiad

Mae Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru a CLlLC wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod yr wybodaeth ar eu gwefan(nau) yn gywir, ond ni allwn dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw anghywirdebau. Er ein bod yn ymdrechu’n rhesymol i ddiweddaru’r wybodaeth ar ein safleoedd, nid ydym yn gwneud unrhyw sylwadau na gwarantiadau, a ddatgenir neu sy’n awgrymedig, fod cynnwys ein safleoedd yn gywir, yn gyflawn neu’n gyfoes. Ni all Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru a CLlLC dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am golled neu ddifrod o ganlyniad i ddefnyddio’r deunydd sydd ar eu gwefan.

Nid yw Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru a CLlLC yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys unrhyw wefan arall y ceir dolenni iddynt ar eu gwefan drwy hyperdestun. Lle mae ein safleoedd yn cynnwys dolenni i safleoedd eraill ac adnoddau a ddarperir gan drydydd partïon, darperir y dolenni hyn er gwybodaeth yn unig. Ni ddylid dehongli’r dolenni hyn fel cymeradwyaeth gennym ni i’r gwefannau hynny na’r wybodaeth a geir arnynt. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros gynnwys nac adnoddau’r safleoedd hynny. Nid ydym yn gyfrifol am y gwefannau y darparwn ddolenni iddynt.

Pwy ydym ni a sut i gysylltu â ni

Mae’r gwefannau’n cael eu gweithredu gan Rwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru, a gynhelir gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Cyfeiriad ein swyddfa yw:

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru,
Un Parêd y Gamlas,
Ffordd Dumballs,
Caerdydd, CF10 5BF

Drwy ddefnyddio ein safleoedd rydych yn derbyn y telerau hyn

Drwy ddefnyddio ein gwefannau, rydych yn cadarnhau eich bod yn derbyn y telerau defnyddio a’ch bod yn cytuno i gydymffurfio â nhw. Os nad ydych yn cytuno â’r telerau hyn, mae’n rhaid ichi beidio â defnyddio ein safleoedd.

Efallai y byddwn yn gwneud newidiadau i’r telerau hyn

Efallai y byddwn yn diwygio’r telerau hyn o dro i dro. Bob tro y byddwch yn dymuno defnyddio ein safleoedd, gwiriwch y telerau hyn er mwyn sicrhau eich bod yn deall y telerau sy’n berthnasol ar y pryd. Efallai y byddwn yn gwneud newidiadau i’n safleoedd.

Mae aelodaeth o Rwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru yn rhoi’r hawl i aelodau gael mynediad at elfennau cyfyngedig o’r safle nad ydynt ar gael i rai nad ydynt yn aelodau. Rydym yn ceisio sicrhau bod elfennau’r safleoedd sydd ar gael i aelodau ar gael 24 awr y dydd, ond nid ydym yn gwarantu y bydd yr elfennau o’r safleoedd sydd ar gael i aelodau yn unig bob amser ar gael yn ddi-dor.

Y Gymraeg

Rydym yn sefydliad Cymru-gyfan ac rydym yn hyrwyddo ac yn annog y defnydd o’r iaith Gymraeg. Pryd bynnag y mae hynny’n bosibl, caiff yr wybodaeth ei huwchlwytho yn Gymraeg ac yn Saesneg yn unol â Safonau Iaith Gymraeg CLlLC.