Pam fod Wythnos Ymwybyddiaeth Cymunedau Mwy Diogel yn cael ei chynnal?
Eleni, mae Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru yn cynnal ei Wythnos Ymwybyddiaeth Cymunedau Mwy Diogel gyntaf erioed i Gymru. Y Rhwydwaith yw’r llais strategol sy’n hyrwyddo ac yn cysylltu pawb sy’n ymwneud â diogelwch cymunedol yng Nghymru fel y gallant greu cymunedau mwy diogel – yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.
Mae’r Wythnos Ymwybyddiaeth yn gyfle i godi proffil gwaith diogelwch cymunedol ac amlygu y gwaith arloesol sy’n digwydd ledled Cymru.
Os hoffech gyflwyno unrhyw astudiaethau achos neu enghreifftiau o arfer da i’w rhannu drwy gydol yr wythnos, anfonwch e-bost atom at cymunedaumwydiogel@wlga.gov.uk gyda’r llinell pwnc ‘Wythnos Ymwybyddiaeth Cymunedau Mwy Diogel – Astudiaethau Achos’.
Edrychwn ymlaen at ddathlu’r gwaith sy’n cael ei wneud i wneud ein cymunedau’n fwy diogel ledled Cymru gyda chi!
Amserlen o ddigwyddiadau
Dydd Llun 18 Medi
Ar ddechrau’r Wythnos, lansiwyd ein ffilm Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru gyntaf gyda’r Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru, i dynnu sylw at bwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth i hyrwyddo cymunedau diogel, cryf a hyderus, a sut mae’r Rhwydwaith yn amhrisiadwy i gyflawni hyn. Dilynwch y ddolen isod i weld y ffilm.
Ffilm gyda’r Prif Weinidog
Dydd Mawrth 19 Medi
Sgwrs Coffi – Newid Sy’n Para gyda Chymorth i Ferched Cymru
Cynhaliom sesiwn Sgwrs Coffi bore gyda Chymorth i Ferched Cymru i dynnu sylw at y model Newid Sy’n Para. Roedd hon yn sesiwn ryngweithiol lle gwnaethom annog y cynrychiolwyr i ofyn cwestiynau a rhannu gwybodaeth leol ac enghreifftiau o arfer da. Cliciwch ar y ddolen isod i weld recordiad o’r sesiwn.
Recordiad Sgwrs Coffi
Cinio & Dysgu – Ymgyrchoedd ‘Iawn’ ac ‘She Is Not Your Rehab’
Cynhaliom sesiwn Cinio & Dysgu gyda Llywodraeth Cymru i edrych ar yr ymgyrch Iawn a Plan International UK/ Cydweithredfa Hawliau Merched Cymru i gyflwyno’r ymweliad ‘She Is Not Your Rehab’ â Chymru o Seland Newydd ar ddiwedd y flwyddyn. Edrychwch ar y recordiad o’r sesiwn isod i ddarganfod mwy am yr ymgyrchoedd a sut y gallwch chi a’ch sefydliad gymryd rhan a buddio.
Recordiad Cinio & Dysgu
Dydd Mercher 20 Medi
Cinio & Dysgu – Adolygiad Diogelu Unedig Sengl
Ar ddydd Mercher, cynhaliom sesiwn Cinio & Dysgu gyda’r tîm Adolygiad Diogelu Unedig Sengl (SUSR), i rannu’r cynnydd hyd yma a darparu diweddariad yn dilyn ein seminar ym mis Rhagfyr 2022. Edrychwch ar y recordiad o’r sesiwn isod i ddarganfod mwy am yr hyn sydd i ddod gyda’r prosiect arloesol hwn.
Recordiad Cinio & Dysgu
Dydd Iau 21 Medi
Cinio & Dysgu – Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yng Nghymru
Roedd y sesiwn Cinio & Dysgu yma yn cynnwys cyflwyniadau gan Gadeirydd Rhwydwaith Ymarferwyr Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (YG) Cymru Gyfan a Arweinydd Heddlu De Cymru ar gyfer y Peilot Mannau Poeth YG. Edrychwch ar y recordiad i ddarganfod mwy am y Rhwydwaith Ymarferwyr, themâu a chanlyniadau allweddol y Gynhadledd ym mis Gorffennaf, blaengynllunio, a meysydd “man problemus” ymddygiad gwrthgymdeithasol ledled Cymru a sut mae hyn yn berthnasol i Drais Difrifol.
Recordiad Cinio & Dysgu
Dydd Gwener 22 Medi
Lansiad Meddal Porth Aelodau
Ar ddiwrnod olaf yr wythnos, cynhelir Lansiad Meddal o Borth Aelodau Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru, lle gallai partneriaid ddarganfod mwy am y Porth a sut i ddod yn aelod o’r Rhwydwaith. Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn aelod, cysylltwch â ni.
Sut gallaf gymryd rhan?
Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Cymunedau Mwy Diogel gyntaf Cymru yn cael ei chynnal ar 18 – 22 Medi 2023.
Rhannwch negeseuon yr wythnos yn eang o fewn eich sefydliadau, yn ogystal â gyda’ch partneriaid, rhwydweithiau a grwpiau lleol. Gallwch lawrlwytho templedi negeseuon cyfryngau cymdeithasol a’r poster dwyieithog isod.
Negeseuon cyfryngau cymdeithasol
Poster
Os ydych yn postio am yr wythnos ar gyfryngau cymdeithasol, defnyddiwch yr hashnodau a thagiwch ni!
Hashnodau: #WythnosYmwybyddiaethCymunedauMwyDiogel #CymunedauMwyDiogel2023 #WYCMD23
Tagiwch ni: @CymMwyDiogel (Trydar) & @RhwydwaithCymunedauMwyDiogelCymru (LinkedIn)