Neidio i'r prif gynnwys

Camfanteisio’n Rhywiol

Archwilio is-bynciau

Beth yw Camfanteisio’n Rhywiol?

Mae camfanteisio’n rhywiol yn ymwneud â sefyllfaoedd, cyd-destunau a pherthnasoedd o gamfanteisio lle bydd dioddefwr (neu drydydd person neu bersonau) yn derbyn ‘rhywbeth’ (megis bwyd, llety, cyffuriau, alcohol, sigaréts, hoffter, anrhegion, arian) o ganlyniad i berfformio gweithgareddau rhywiol, a/neu berson arall neu bersonau eraill yn perfformio rhai arnynt hwy.

Un o brif nodweddion perthynas o gamfanteisio yw’r anghydbwysedd pŵer a rheolaeth i’r cyflawnwr/cyflawnwyr dros y dioddefwr/dioddefwyr.

Mae camfanteisio’n rhywiol yn cynnwys trais rhywiol, puteindra, ffotograffiaeth rywiol, gorfod gwylio neu fod yn destun pornograffi neu’n dyst i weithredoedd rhywiol ac ymosodiadau neu weithredoedd rhywiol nad yw’r oedolyn wedi cydsynio iddynt, neu rhoddwyd pwysau arno, neu cafodd ei fygwth neu ei dwyllo i roi cydsyniad (o ran Plant, darllenwch yr adran am Gamfanteisio’n Rhywiol ar Blant).

Gellir camfanteisio’n rhywiol ar oedolion mewn sawl ffordd. Dyma rai enghreifftiau:

  • Trais rhywiol, sy’n gallu cynnwys trais gan bartner (gweler Cam-drin domestig), os na ddymunir cael rhyw
  • Ymosodiad rhywiol
  • Cael eich twyllo neu rhywun yn dylanwadu arnoch i gael rhyw neu i berfformio gweithred rywiol
  • Cael eich masnachu i mewn, allan o, neu o amgylch y DU at ddibenion camfanteisio’n rhywiol (er enghraifft, puteindra)
  • Cael eich gorfodi i wylio neu gymryd rhan mewn pornograffi.

Dengys gwaith ymchwil pa ffactorau a all gynyddu’r perygl o ddioddef camfanteisio’n rhywiol mewn oedolaeth. Mae’r rhain yn cynnwys: digartrefedd; defnyddio cyffuriau neu alcohol; diffyg galluedd meddyliol i gydsynio; masnachu mewn pobl; cam-drin rhywiol yn ystod plentyndod. Er hyn, dywed yr awduron nad yw hon yn rhestr gyflawn, a’i bod yn bwysig bod yn wrthrychol.

Efallai nad oes gan y dioddefwyr y galluedd i gydsynio neu efallai y byddant yn cael eu bygwth neu eu gorfodi i gael rhyw. Efallai y bydd y broses o feithrin perthynas amhriodol wedi gwneud i’r dioddefwr ddod mor ddibynnol ar y cyflawnwr/cyflawnwyr honedig fel eu bod yn ystyried rhyw fel rhywbeth y mae’n rhaid iddynt ei wneud i oroesi.

Gall unrhyw oedolyn, o unrhyw oedran, ddioddef camfanteisio’n rhywiol, trais rhywiol neu ymosodiad rhywiol.  Mae’r mwyafrif yn ferched, ond gall dynion hefyd fod yn ddioddefwyr.

Mae’r Ddeddf Galluedd Meddyliol (2005) yn berthnasol i unrhyw un dros 16 oed ac mewn rhai achosion gall ymwneud â chamfanteisio’n rhywiol:

  • Nam neu amhariad sy’n effeithio ar y ffordd mae’r meddwl neu’r ymennydd yn gweithio
  • Mae gallu person yn benodol i’r penderfyniad a’r amser dan sylw
  • Dylai gallu person gael ei asesu gan y “person sydd yn y sefyllfa orau” o ran penderfyniadau penodol
  • Os oes gan berson ddiffyg gallu, yna dylid dod i benderfyniad er lles y person
  • Mae angen i asiantaethau weithio gyda’i gilydd i asesu gallu.

Pan fydd hyn yn digwydd, daw camfanteisio’n rhywiol o dan y ddeddfwriaeth ar gyfer Diogelu drwy Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Mae Deddf Troseddau Rhyw 2003 yn diogelu oedolion sydd mewn perygl lle bydd gweithgarwch rhywiol yn seiliedig ar gamfanteisio a cham-drin. Mae hyn yn cynnwys pobl â galluedd meddyliol cyfyngedig sy’n amharu ar eu gallu i ddewis, sy’n cynnwys y rhai sydd â chymaint o nam ar eu gallu meddyliol ar adeg y gweithgaredd rhywiol fel nad ydynt yn gallu gwrthod; y rhai sydd â’r gallu i gydsynio ond sydd ag anhwylder meddyliol sy’n eu gwneud yn agored i ysgogiad, bygythiad neu ddichell; a throseddau a gyflawnir gan weithwyr gofal ar y rhai nad oes ganddynt y gallu i gydsynio. 

Mae Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015, adran 2 yn rhoi’r ddeddfwriaeth ynghylch trefnu neu hwyluso i berson arall deithio gyda’r bwriad i gamfanteisio arnynt. Mae Adran 3 y Ddeddf yn diffinio ystyr camfanteisio.

Mae Rheoliadau Masnachu mewn Pobl at ddibenion Camfanteisio 2013 yn amddiffyn pobl sydd wedi cael eu masnachu rhag camfanteisio troseddol ac maent yn gosod mesurau i amddiffyn dioddefwyr.

Ymdrinnir â chamfanteisio’n rhywiol yn Neddf Amddiffyn Plant 1978 a Deddf Troseddau Rhyw 2003.

Mae’r Swyddfa Gartref wedi cyhoeddi canllawiau statudol ar sut i adnabod a chefnogi dioddefwyr caethwasiaeth fodern.


Cymorth a Chefnogaeth

Ar gyfer dioddefwyr, teuluoedd a phobl bryderus

Mae’r Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol yn fframwaith sengl sy’n canolbwyntio ar ddull amlasiantaethol i adnabod dioddefwyr a’u cyfeirio at y gefnogaeth briodol. Gall yr Heddlu, Yr Awdurdodau Mewnfudo, Awdurdodau Lleol a rhai sefydliadau anllywodraethol gyfeirio dioddefwyr dan amheuaeth at yr Awdurdod Cymwys Sengl i wneud penderfyniad. Mae’r Awdurdod Cymwys Sengl yn rhan o’r Swyddfa Gartref. Mae angen caniatâd i atgyfeirio oedolion at y Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol.

Llinell Gymorth Caethwasiaeth Fodern 08000 121 700.

Llinell Gymorth Byw Heb Ofn ar 0808 80 10 80 neu e-bost info@livefearfreehelpline.wales 

Rhoddir cefnogaeth hefyd drwy’r trefniadau Diogelu Oedolion sydd ym mhob Awdurdod Lleol ar draws Cymru a rhoddir eu manylion yn ein Cyfeirlyfr.