Neidio i'r prif gynnwys

Trosedd Gwledig ac Amgylcheddol

Archwilio is-bynciau

Beth yw Trosedd Gwledig?

Mae Trosedd Gwledig yn cynnwys pedwar categori yn ôl Heddlu Gogledd Cymru – Amaeth, Ceffylau, Bywyd Gwyllt a Threftadaeth. Hefyd, mae Trosedd Amgylcheddol yn cynnwys dympio gwastraff anghyfreithlon, tipio anghyfreithlon, llygru cyrsiau dŵr a thir, tanau bwriadol, megid tanau glaswellt bwriadol (gweler hefyd Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Amgylcheddol).

 “Fe wnaeth dwyn gwledig gostio oddeutu £43.3m i’r DU yn 2020, lleihad o 20% ar y flwyddyn flaenorol. Croesawir y newyddion am leihad yng nghost dwyn gwledig, ond nid oedd y flwyddyn ddiwethaf yn flwyddyn gyffredin. Helpodd y cyfnod clo i gloi troseddwyr allan o gefn gwlad, ac fe wnaeth cynyddu diogelwch ar ffermydd a phlismona gwledig chwarae rôl yn y lleihad.” Adroddiad Trosedd Gwledig NFU 2021

Mae Llywodraeth Cymru wedi penodi Cydgysylltydd Troseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt Cymru Gyfan yn 2021. Y nod yw sicrhau dull cydlynol gyda heddlu Cymru ac asiantaethau partner allweddol i leihau trosedd a’i effeithiau ar gymunedau gwledig, da byw a bywyd gwyllt ar draws Cymru.

Un Gang - Llawer o Droseddau Gwledig

Mae trosedd amaethyddol yn cynnwys ffermydd gweithio a tyddynnod, eu hadeiladau a’u peiriannau. Mae’r troseddau yn cynnwys dwyn offer neu danwydd, difrod i eiddo a phoenydio a dwyn da byw. 

Mae trosedd ceffylau yn cynnwys stablau gweithio a chanolfannau ceffylau ac yn cynnwys troseddau megis dwyn taciau a phoenydio da byw.

Mae trosedd bywyd gwyllt yn cynnwys hela ysgyfarnog, potsio, maglu moch daear ac ymyrryd gyda rhywogaeth a warchodir, megis ystlumod. Darganfyddwch fwy drwy Heddlu Dyfed Powys.

Diffinnir trosedd treftadaeth fel “unrhyw drosedd sy’n niweidio gwerth asedau treftadaeth Cymru a Lloegr a’u lleoliadau i’r genhedlaeth hyn a chenedlaethau’r dyfodol ac yn cynnwys holl droseddau sy’n ymwneud â thlodi diwylliannol”. Mae hyn yn cynnwys dwyn plwm o eglwysi, difrod i gofebau hynafol a datgelu metel yn anghyfreithlon.

Mae taro anifail gwyllt yn fwriadol yn drosedd o dan y Ddeddf (Diogelu) Mamaliaid Gwyllt. Os ydych chi’n taro ac yn lladd anifail gwyllt, rhaid i chi ei adael yn ddiogel ar ochr y ffordd a hysbysu’r cyngor lleol fel y gallent symud y gweddillion. Mae rhai anifeiliaid gwyllt wedi eu diogelu, ac mae’n drosedd meddu ar un, yn farw neu’n fyw.

I gael rhagor o wybodaeth gyfreithiol, darllenwch ganllawiau Gwasanaeth Erlyn y Goron ar Drosedd Bywyd Gwyllt, Gwledig a Threftadaeth .

  • Historic England 

Modiwl e-ddysgu ar drosedd treftadaeth. Er ei fod wedi cael ei dargedu tuag at swyddogion yr heddlu, mae’n darparu llawer o wybodaeth ar drosedd treftadaeth mewn lleoliad dinesig sy’n berthnasol ar gyfer partneriaid diogelwch cymunedol. 

  • Crimestoppers

Ymgyrch troseddau gwledig

Dolenni Defnyddiol 

Heddlu Gogledd Cymru – Atal Troseddau Gwledig ar gyfer cyngor diogelu rhag, ac atal troseddau gwledig

Ewch i’r Wefan

Heddlu Gogledd Cymru – Atal peiriannau trwm rhag cael eu dwyn ar gyfer cyngor penodol mewn perthynas â pheiriannau trwm.

Ewch i’r Wefan

Arferion Gorau – Rhwydwaith Troseddau Gwledig Cenedlaethol

Ewch i’r Wefan

Cyfraith Adar | Adar Gwyllt a’r Gyfraith – Yr RSPB

Ewch i’r Wefan

Cynllun CESAR – cynllun offer a chofrestru swyddogol ar gyfer y maes adeiladu ac amaeth

Ewch i’r Wefan

Datatag – system farcio fforensig wedi’i gefnogi gan yr heddlu

Ewch i’r Wefan

Troseddau Treftadaeth | Historic England a Chyngor ac Arweiniad | Cadw

Ewch i’r Wefan

Darllenwch yr Canllawiau 

Immobilise The National Property Register

Ewch i’r Wefan

Troseddau Gwledig

Ewch i’r Wefan

Troseddau Gwledig | Rhwydwaith Gwarchod Cymdogaeth

Ewch i’r Wefan

Secured By Design (SBD) – am wybodaeth ar ddylunio diogelwch eiddo.

Ewch i’r Wefan


Cymorth a Chefnogaeth

Ar gyfer dioddefwyr, teuluoedd a phobl bryderus

Os ydych chi’n credu bod trosedd gwledig wedi neu ar fin cael ei gyflawni, cysylltwch â’r Heddlu ar 101 neu ar-lein yn dibynnu ar eich rhanbarth o fewn Cymru – Heddlu De Cymru, Heddlu Dyfed Powys, Heddlu Gwent neu Heddlu Gogledd Cymru neu drwy Crimestoppers os hoffech adrodd yn ddienw. Mewn argyfwng, ffoniwch 999.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn darparu trosolwg defnyddiol o beth i’w wneud os ydych chi’n meddwl fod trosedd bywyd gwyllt wedi digwydd.

Er mwyn adrodd am greulondeb, esgeulustod neu gamdrin anifeiliaid, gallwch fynd i wefan RSPCA neu ffoniwch nhw ar 0300 1234 999 (mae llinellau ar agor 24 awr y diwrnod).

Er mwyn adrodd am Drosedd Amgylcheddol – gan gynnwys materion gwastraff neu amgylcheddol, megis tipio anghyfreithlon – cysylltwch â’ch cynghorydd lleol neu asiantaethau eraill (gweler y Cyfeiriadur). Gallwch hefyd adrodd gwybodaeth am Drosedd Amgylcheddol i Gyfoeth Naturiol Cymru.

Gellir adrodd gwybodaeth am ddympio ar raddfa fawr neu wastraff peryglus i’r Heddlu ar 101, ar-lein yn dibynnu ar eich rhanbarth o fewn Cymru – Heddlu De Cymru, Heddlu Dyfed Powys, Heddlu Gwent neu Heddlu Gogledd Cymru, neu drwy Crimestoppers os hoffech adrodd yn ddienw.

Gallwch ystyried ymuno â Chynllun Gwarchod Fferm, neu fentrau eraill a gefnogir gan yr Heddlu megis OWL – Online Watch Link.