Neidio i'r prif gynnwys

Niwed Ar-lein

Archwilio is-bynciau

Beth yw Niwed Ar-lein ?

 Unrhyw weithred droseddol sy’n ymwneud â chyfrifiaduron a rhwydweithiau yw seiberdrosedd”

 “Unrhyw weithred droseddol yn delio gyda chyfrifiaduron a rhwydweithiau (a elwir yn hacio) yw seiberdrosedd”.  Yn ogystal, mae seiberdroseddau hefyd yn cynnwys troseddau traddodiadol a gyflawnir drwy’r Rhyngrwyd.” Action fraud

 

Mae seiberdroseddau yn digwydd ar-lein, sydd yn golygu eu bod yn defnyddio cyfrifiaduron (gan gynnwys gliniaduron), tabledi a ffonau symudol. Gallant fod yn droseddau sydd yn defnyddio dyfeisiau ar-lein i’w cyflawni ac i dargedu’r drosedd, a’r rheiny sydd yn droseddau mwy traddodiadol sy’n cael eu cyflawni ar raddfa fwy drwy ddefnyddio dyfeisiau ar-lein.

Dyma restr o rai o’r seiberdroseddau mwyaf cyffredin:

  • Hacio – defnydd diawdurdod neu fynediad diawdurdod at gyfrifiaduron neu rwydweithiau, i ddwyn arian, gwybodaeth neu i amharu ar unigolion a busnesau.
  • Meddalwedd maleisus (Maleiswedd) – yn cael ei rannu rhwng dyfeisiau digidol gyda’r bwriad o ddinistrio, gan chwalu systemau, dileu ffeiliau neu ddwyn data. Mae ffurfiau cyffredin yn cynnwys feirysau, mwydod, ysbïwedd, meddalwedd wystlo ac ymwelwyr diwahoddiad.
  • Ymosodiadau Atal Gwasanaeth – pan fydd nifer fawr (miloedd, yn aml) o gyfeiriadau IP unigryw yn cael eu defnyddio i foddi gweinydd rhyngrwyd fel ei fod yn gorlwytho ac yn rhewi neu’n chwalu.
  • Y we dywyll – gwefannau ar-lein na ellir eu olrhain sydd yn cael eu defnyddio gan droseddwyr i fasnachu eitemau anghyfreithlon gan gynnwys data personol, cyffuriau ac arfau tanio.
  • Gwe-rwydo – cael gafael ar wybodaeth bersonol sensitif drwy esgus bod yn gwmni, yn un o asiantaethau’r llywodraeth neu’n sefydliad, drwy dwyllo pobl i ddefnyddio gwefan faleisus neu osod maleiswedd ar eu dyfais.
  • Dwyn Hunaniaeth – mae troseddwyr yn casglu digon o wybodaeth am ddioddefwr i ddwyn eu hunaniaeth a chyflawni twyll. Gellir defnyddio’r manylion personol i gael gafael ar ddogfennau fel trwyddedau gyrru neu basbortau, agor cyfrifon banc neu gardiau credyd neu gymryd cyfrifon cyfredol drosodd.
  • Twyll Eiddo Deallusol – creu nwyddau ffug i’w gwerthu ar-lein, sefydlu a rhedeg gwefannau sy’n hawlio eu bod yn ddilys. Mae’n cynnwys ffrydio cynnwys y mae rhywun arall yn berchen arno, fel ffilmiau sinema newydd.
  • Trolio – y weithred o anfon sylwadau camdriniol a sarhaus ar lwyfannau’r cyfryngau cymdeithasol
  • Bygythiadau ar-lein – gwneud bygythiadau drwy’r cyfryngau cymdeithasol allai gynnwys bygythiadau i ladd, niweidio neu droseddu yn erbyn unigolyn, grŵp o bobl neu sefydliad.
  • Pornograffi dial – datgelu lluniau rhywiol preifat heb ganiatâd, drwy uwchlwytho delweddau rhywiol personol o unigolyn arall ar y rhyngrwyd er mwyn achosi cywilydd ac embaras. Mae anfon delwedd neu ffilm rhywiol personol ymlaen heb ganiatâd yn drosedd. Os yw’n cynnwys plentyn, yna gweler cam-drin plant neu gamfanteisio’n rhywiol ar blant.
  • Aflonyddu ar-lein –cysylltu a chyfathrebu gyda rhywun ar-lein drosodd a throsodd, gan achosi ofn neu bryder (gweler stelcio ac aflonyddu)
  • Meithrin perthynas amhriodol – meithrin cysylltiad emosiynol gyda phlentyn neu oedolyn mewn perygl er mwyn ennill eu hymddiriedaeth at ddibenion camfanteisio troseddol neu gamfanteisio rhywiol.
  • Stelcio ar-lein – ffurf o aflonyddu all fod yn gyson ac sy’n cynnwys ymyrraeth cyson, neu gysylltu neu ddilyn unigolyn (gweler stelcio ac aflonyddu)
  • Sarhau torfol ar-lein – lle mae nifer o bobl neu droid cyfrifiadurol yn defnyddio’r cyfyngau cymdeithasol, negeseuon (gan gynnwys negeseuon e-bost) neu ffurf cyfathrebu digidol o fath arall i ddweud sylwadau wrth neu am unigolyn arall gan eu bod yn gwrthwynebu barn neu un o nodweddion personol yr unigolyn hwnnw (gweler trosedd casineb), gallai faint o negeseuon a dderbynnir olygu ei fod yn ymgyrch o aflonyddwch (gweler stelcian ac aflonyddu)

Yn ôl yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol “Mae seiberdroseddu yn parhau i gynyddu o ran graddfa ac o ran cymhlethdod, gan effeithio gwasanaethau hanfodol, busnesau ac unigolion fel ei gilydd. Mae seiberdrosedd yn costio biliynau o bunnoedd i’r DU, yn achosi difrod difesur, ac yn bygwth diogelwch cenedlaethol.”

Cymorth a Chefnogaeth

Ar gyfer dioddefwyr, teuluoedd a phobl bryderus

Os ydych wedi bod yn dyst i drosedd, neu’n ddioddefwr, gadewch i’r Heddlu wybod. Ffoniwch 101 neu adroddwch amdano ar-lein, yn ddibynnol ar eich rhanbarth yng Nghymru – Heddlu De Cymru, Heddlu Dyfed Powys, Heddlu Gwent neu Heddlu Gogledd Cymru Mewn argyfwng, ffoniwch 999.

Os ydych yn fyddar neu yn drwm eich clyw, defnyddiwch wasanaeth ffôn testun yr Heddlu 18000 neu anfonwch neges destun 999 os ydych wedi rhag-gofrestru gyda’r gwasanaeth argyfwng SMS.

Os oes gennych wybodaeth am drosedd a’ch bod am aros yn ddienw, cysylltwch â’r elusen annibynnol Crimestoppers ar 0800 555 111 neu ar-lein.

Os ydych wedi eich effeithio gan drosedd, gallwch gael cymorth gan Hafan – Cymorth i Ddioddefwyr (victimsupport.org.uk) gan gynnwys eu llinell gymorth genedlaethol 24 / 7 sef 08 08 16 89 111 neu gallwch gael cymorth ar-lein.

Gwefan yr heddlu ar dwyll.

Action Fraud Wefan

Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol: gwybodaeth a chyngor

Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol

Canolfan Seiberddiogelwch Cenedlaethol

Ewch i’r Wefan

Canolfan Seibergadernid yng Nghymru

Ewch i’r Wefan

Cymorth i ddioddefwyr

Ewch Gwybodaeth a Chyngor

Y Gymdeithas Llywodraeth Leol.

Ewch i’r Wefan

Llywodraeth Cymru

Cymru yn dechrau ar ei thaith tuag at ddod yn wlad seibergadarn

Crimestoppers gwybodaeth seiberdrosedd

Gwybodaeth a chymorth gan gynnwys adrodd adrodd am droseddau yn addienw