- Mae Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 yn gosod dyletswydd gofal ar gyflogwyr i sicrhau iechyd, diogelwch a lles eu gweithwyr.
- Mae Deddf Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999 yn amlinellu’r angen i asesu’r risgiau ar gyfer gweithwyr. Cyflwynwyd hefyd asesiadau risg ar gyfer unrhyw berson y mae gweithgareddau yn y gwaith yn effeithio arnynt, er enghraifft gwirfoddolwyr.
- Mae Deddf Dynladdiad Corfforaethol a Lladdiad Corfforaethol 2007 yn amlinellu’r atebolrwydd troseddol lle bydd torri rheolau iechyd a diogelwch wedi arwain at farwolaeth.
- Mae Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus 2013 yn datgan bod yn rhaid i gyflogwyr hysbysu awdurdodau gorfodi os ceir digwyddiad yn y gwaith sy’n arwain at farwolaeth, anaf difrifol neu analluogrwydd, ac mae hyn yn cynnwys unrhyw drais a gafwyd neu sy’n codi oherwydd y gwaith, neu mewn cysylltiad ag ef.
- Yn Neddf Amddiffyn rhag Aflonyddwch 1997 fe’i gwnaethpwyd yn drosedd i gyflawni gweithredoedd sy’n gwneud i berson arall gael ei ddychryn neu ei gynhyrfu neu fod arno ofn y bydd rhywun yn dreisgar yn ei erbyn. Ychwanegwyd stelcio fel trosedd yn 2012.
- Mae Deddf Diogelu Data 2018 yn datgan y dylai diogelwch staff gymryd blaenoriaeth dros gyfrinachedd.
- Mae Deddf Dwyn 1968 yn amlinellu’r ddeddfwriaeth ar gyfer troseddau lladrata, byrgleriaeth, trin a bod ym meddiant yr offer i gyflawni gweithgaredd o’r fath.
- Mae Deddf Dwyn 1978 yn ychwanegu at Ddeddf 1968 ac mae’n cynnwys dianc heb dalu.
- Mae Deddf Twyll 2006 yn cyfeirio at atebolrwydd troseddol ar gyfer twyll a manteisio ar wasanaethau mewn modd anonest, ac mae’n disodli’r troseddau twyll yn Neddfau Dwyn 1968 a 1978.
- Cyfeiriadur
- Pwnc
- Pob Pwnc
- Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ac Anrhefn
- Trosedd ac Atal Troseddu
- Cydraddoldeb, Cynhwysiant a Chydlyniant
- Caethwasiaeth Fodern a Chamfanteisio
- Troseddau a Chyfiawnder
- Diogelwch y Cyhoedd
- Diogelu ac Ymyrraeth Gynnar
- Trais Difrifol a Throseddau Trefnedig
- Terfysgaeth ac Eithafiaeth
- Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig & Thrais Rhywiol
- Diweddariadau
- Hyfforddiant
- Cyfryngau
- Ymchwil
- Amdanom ni