Neidio i'r prif gynnwys

Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Personol

Archwilio is-bynciau

Beth yw Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Personol?

Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Personol yw “pan fydd person yn targedu unigolyn neu grŵp penodol.” (Heddlu Metropolitanaidd) 

Gall hwn fod â chysylltiad agos ag anghydfod rhwng cymdogion a Throsedd Casineb.

Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Personol yw Ymddygiad Gwrthgymdeithasol sy’n targedu unigolyn neu grŵp yn fwriadol, neu sy’n cael effaith ar unigolyn neu grŵp yn hytrach na’r gymuned yn gyffredinol.

Mae’n cynnwys achosion sy’n peri pryder, straen, anesmwythyd a/neu gythrudd yn ogystal â digwyddiadau sy’n cael effaith anffafriol ddifrifol ar ansawdd bywyd pobl. Gall hyn gynnwys pethau bach sy’n cythruddo neu bethau sy’n arwain at berygl o niwed. Gall gynnwys ffurfiau eraill ar ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ogystal â thrais a difrod i eiddo personol. Mewn rhai achosion gall hyn gynnwys gwneud adroddiad ffug am dân ayb fel bod y gwasanaethau brys yn cyrraedd y cyfeiriad – sy’n golygu nad fyddai’r adnodd hwnnw ar gael pe byddai tân go iawn a byddai’n achosi straen ychwanegol i’r rhai sy’n byw neu’n gweithio yn yr eiddo.

Gall effaith Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Personol ar y dioddefwr fod yn ddirywiad yn eu hiechyd ac aflonyddu ar eu lles meddyliol ac emosiynol, gan arwain at anallu i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd oherwydd ofn a bygythion. Gall arwain at fwy o unigrwydd a theimlo’n ynysig a gall wneud pobl yn ofnus i adael eu cartrefi.

Gweler Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ac Anrhefn am restr lawn o’r deddfwriaethau perthnasol. Yn benodol:

Mae’r Ddeddf hon yn amlinellu’r chwe ffordd sydd ar gael ar hyn o bryd i reoli ymddygiad gwrthgymdeithasol sef: gwaharddebau sifil, gorchmynion ymddygiad troseddol; hysbysiadau amddiffyn cymunedol; gorchmynion gwarchod mannau agored cyhoeddus; gorchmynion cau; pwerau gwasgaru. Cyflwynwyd hefyd y sbardun cymunedol a dulliau unioni cymunedol.

  • Gwaharddebau sifil 

Mae llysoedd yn dyfarnu gwaharddebau i rwystro pobl rhag cymryd rhan mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol. Gellir eu dyfarnu heb rybudd ond maent ar gael dim ond os oes trais wedi cael ei fygwth neu wedi cael ei ddefnyddio.

  • Gorchmynion ymddygiad troseddol

Fe’u rhoddir gan lys troseddol yn erbyn person sydd wedi ei gael yn euog o drosedd ac sy’n achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol.

  • Pwerau gwasgaru

Mae’r rhain yn galluogi’r heddlu i roi gorchymyn i berson sy’n achosi aflonyddwch, braw neu drallod i adael ardal benodol am hyd at 48 awr.

Yn ogystal, efallai y ceir deddfwriaeth berthnasol ynghylch Trosedd Casineb.

  • Resolve

Gwefan Resolve – mae’n cynnwys gwybodaeth am eu rhaglenni BTEC ac amryw o adnoddau eraill

  • ASB Help

Podcast Sbardun Cymunedol

  • Gwasanaeth yr Heddlu Gogledd Iwerddon

Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (YouTube)

Dolenni Defnyddiol

ASB Help – gwybodaeth ar gyfer dioddefwyr ac ymarferwyr 

Ewch i’r Wefan

Cefnogaeth i Ddioddefwyr – gwybodaeth a chefnogaeth ar gyfer dioddefwyr 

Ewch i’r Wefan

Crimestoppers – gwybodaeth am beth yw ymddygiad gwrthgymdeithasol a sut i adrodd amdano 

Ewch i’r Wefan

Resolve – gwybodaeth a chyngor ar gyfer ymarferwyr

Ewch i’r Wefan


Cymorth a Chefnogaeth

Ar gyfer dioddefwyr, teuluoedd a phobl bryderus

Mae ASB Help yn rhoi gwybodaeth a chyngor i’r rhai sy’n dioddef ymddygiad gwrthgymdeithasol yng Nghymru a Lloegr. Mae ganddynt hefyd wybodaeth am bwy y dylid dweud wrthynt, megis Awdurdodau Lleol, yr Heddlu a Chymdeithasau Tai.

Mae Sbardun Cymunedol (a elwir hefyd yn adolygiad achos ymddygiad gwrthgymdeithasol) ar gael drwy’r Awdurdodau Lleol (gweler y Cyfeirlyfr), neu drwy bedair gwefan yr heddlu (Dyfed Powys, Gwent, Gogledd Cymru, De Cymru). Os byddwch chi neu unrhyw un arall wedi adrodd am ddigwyddiadau dair neu ragor o weithiau o fewn chwe mis, yna gallwch ddefnyddio’r Sbardun er mwyn cynnal adolygiad fel bod yr asiantaethau’n ymdrin ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol di-baid. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan ASB Help.

Os byddwch yn dioddef ymddygiad gwrthgymdeithasol, efallai y bydd yn rhaid i chi helpu i roi tystiolaeth cyn y gellir cymryd camau gweithredu. Gofynnwch i’r sawl y byddwch yn adrodd wrthynt pa wybodaeth/tystiolaeth y bydd ei hangen arnynt. Mae defnyddio Apiau yn dod yn fwyfwy poblogaidd. Efallai y bydd angen i chi ffonio’r heddlu ar 101 neu hyd yn oed 999 os yw’n argyfwng.