Neidio i'r prif gynnwys

Trefn Gyhoeddus

Archwilio is-bynciau

Beth yw Trefn Gyhoeddus?

Diffinnir Trefn Gyhoeddus fel gweithredoedd unigolyn neu grŵp sy’n ymyrryd â chymdeithas a gallu pobl eraill i weithredu’n effeithiol. Ymddygiad sy’n mynd yn groes i’r norm, a’r gwerthoedd a’r arferion cymdeithasol y cytunwyd arnynt.

Mae trefn gyhoeddus yn golygu na ddylai gweithredoedd grŵp o unigolion wrthdaro â hawliau a hwylustod unrhyw grŵp arall. 

Mae’r Brifysgol Agored wedi diffinio Trefn Gyhoeddus fel “ymddygiad tawel a threfnus pobl mewn mannau cyhoeddus. Mae’n cynnwys pobl yn ymddwyn yn ddoeth ac yn rhesymegol, ac yn parchu eraill”. Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn diffinio trosedd yn erbyn y drefn gyhoeddus fel “gweithred sy’n cynnwys y defnydd o drais a/neu fygythion gan unigolion neu grwpiau”.

Mae Trefn Gyhoeddus yn cynnwys terfysgoedd, affräe, ymddygiad meddw ac afreolus, anrhefn dreisgar. Gall gynnwys arfau tanio, arfau ymosodol, trais, trosedd casineb, aflonyddwch, eithafiaeth ac ymddygiad gangiau. Yn ogystal â hyn, mae ymosodiadau ar y gwasanaethau brys hefyd wedi eu cynnwys o dan y Drefn Gyhoeddus.

Mae rheoli torfeydd yn rhan allweddol o gadw Trefn Gyhoeddus. “Rheoli torfeydd yw canolbwynt plismona mewn digwyddiadau cenedlaethol a rhanbarthol ar raddfa fawr, a digwyddiadau arferol yn y gymuned leol. Mae’n cynnwys plismona digwyddiadau cyhoeddus wedi eu cynllunio a rhai digymell (fel protest a phêl-droed) a phlismona unrhyw ddigwyddiadau neu achosion sbardun sy’n arwain at, neu a allai arwain at, anrhefn gyhoeddus.” (Y Coleg Plismona)

Maent yn cael eu hystyried yn rhagflaenwyr i droseddau eraill, neu’n rhan ohonynt.

Deddf Llysoedd Ynadon 1980: gall rwymo i gadw’r heddwch neu i ymddwyn yn dda tuag at berson sydd wedi cyflwyno cwyn am yr unigolyn.

  • Darperir y rhan fwyaf o hyfforddiant ym maes Y Drefn Gyhoeddus o fewn y system Gyfiawnder. 
  • Heddlu Cumbria 

Hyfforddiant am y Drefn Gyhoeddus a Hyfforddiant Tân mewn maes newydd (YouTube)

  • Heddlu Sussex

Y drefn gyhoeddus i ddangos tactegau gyda briciau (YouTube)

Dolenni Defnyddiol

Coleg Plismona – Y Drefn Gyhoeddus

Ewch i’r Wefan


Cymorth a Chefnogaeth

Ar gyfer dioddefwyr, teuluoedd a phobl bryderus

Yn wahanol i feysydd eraill sy’n gysylltiedig ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, rhoddir gwybod i’r Heddlu am y drefn gyhoeddus ar 101, neu 999 os yw’n argyfwng. Gellir hefyd rhoi gwybod i’r Heddlu lleol amdano ar-lein, Heddlu De Cymru, Heddlu Dyfed Powys, Heddlu Gwent neu Heddlu Gogledd Cymru. Efallai y bydd yr angen i ddarparu tystiolaeth cyn y gellir cymryd camau gweithredu yn parhau i fod yn berthnasol, gofynnwch i’r sawl y byddwch yn adrodd wrthynt pa wybodaeth/tystiolaeth y bydd ei hangen arnynt. Mae defnyddio Apiau yn dod yn fwyfwy poblogaidd.

Mae ASB Help yn rhoi gwybodaeth a chyngor i’r rhai sy’n dioddef ymddygiad gwrthgymdeithasol yng Nghymru a Lloegr. Mae ganddynt hefyd wybodaeth am bwy y dylid dweud wrthynt, megis Awdurdodau Lleol, yr Heddlu a Chymdeithasau Tai.

Mae Cymorth i Ddioddefwyr yn cynnig cefnogaeth i ddioddefwyr pob trosedd. Gellir defnyddio Crimestoppers i adrodd yn ddienw.

Gall llysoedd gyflwyno Gorchymyn Rhwymo er mwyn ymateb i anrhefn lefel isel. Byddant yn gohirio dedfryd o dan set o amodau.