Neidio i'r prif gynnwys

System Gyfiawnder Oedolion

Archwilio is-bynciau

Beth yw’r gwahanol gamau o’r system cyfiawnder troseddol?

Cyn mynd i’r Llys

Fel oedolyn y cam cyntaf o’r broses cyfiawnder troseddol yw bod yr heddlu yn arestio’r unigolyn ac yn cynnal sesiwn gwestiynu cychwynnol gyda rhywun sydd dan amheuaeth o drosedd. Mae’r heddlu yn dilyn cyfres o reolau ynglŷn â’r ffordd y maen nhw’n gallu holi unigolyn sydd dan amheuaeth o gyflawni trosedd. Wrth gyrraedd gorsaf yr heddlu dylai’r unigolyn sydd wedi’i arestio glywed eu hawliau wrth gyrraedd gan swyddog y ddalfa. Mae hynny’n cynnwys gwneud galwad ffôn a chael mynediad i gyngor cyfreithiol (gweler Gov.uk – Cael eich arestio: eich hawliau).

Ar ôl cael ei gadw ar gyfer cwestiynu, bydd yr heddlu yn penderfynu rhyddhau’r unigolyn heb gyhuddiad, neu roi rhybudd iddyn nhw neu eu rhoi ar fechniaeth yr heddlu. Efallai na fydd yr heddlu yn dewis rhoi mechnïaeth sy’n golygu bod yn rhaid iddyn nhw aros yn nalfa’r heddlu am gyfnod byr o amser tra bod yr heddlu yn penderfynu cyflwyno cyhuddiad neu beidio. Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) yn awdurdod annibynnol sy’n gyfrifol am gynghori’r heddlu ar achosion ar gyfer erlyniaeth posib.

(Ffynhonnell: Llinell Gymorth Ar ôl Arestio /i Deuluoedd Carcharorion)

Llys

Os bydd cyhuddiadau’n cael eu cyflwyno yn erbyn yr unigolyn mi fyddan nhw’n ddiffynnydd yn y llys. Mae bron iawn pob achos troseddol yn dechrau mewn llys ynadon. Mae’n dibynnu ar ba mor ddifrifol yw’r drosedd os bydd yr achos yn parhau yno neu’n cael ei anfon i Lys y Goron. Os bydd unigolion yn pledio’n euog neu’n cael eu gweld yn euog gan ynadon am, neu ar gyfer troseddau mwy difrifol, gan y rheithgor, yna bydd y troseddwr yn cael ei ddedfrydu gan y llys. Mae pum diben i ddedfrydu, fel sydd wedi’u cynnwys yn adran 57 o’r Cod Dedfrydu (gweler Y Cyngor Dedfrydu – sut y mae dedfrydu’n gweithio). Mae Adroddiad Cyn Dedfrydu sy’n cael ei baratoi gan Swyddog y Gwasanaeth Prawf yn helpu’r llys pan fyddan nhw’n ystyried dedfryd gymunedol neu ddedfryd o garchar.

Mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd ei Mawrhydi yn gyfrifol am weinyddu llysoedd a thribiwnlysoedd troseddol, sifil a theuluoedd yng Nghymru a Lloegr. Mae Cymorth i Ddioddefwyr yn darparu rhestr o sefydliadau allweddol a phwy di pwy o fewn prosesau’r Llys (gweler Dioddefwyr a Thystion).

Mae Cymorth i Ddioddefwyr yn rhoi trosolwg o’r hyn a ddisgwylir gan ddioddefwyr a thystion sy’n mynd i’r Llys. Mae Llinell Gymorth PACT / Teuluoedd Carcharorion yn rhoi trosolwg o fynd i’r llys i rywun wedi’u cyhuddo o drosedd.

Ar ôl Llys

Mae Dedfrydau Cymunedol a ‘gorchmynion cymunedol’ yn cael eu gosod gan y llysoedd, yn unol â chanllawiau dedfrydu, pan fyddan nhw’n cael eu hystyried yn fwy cynhyrchiol na dedfryd o garchar. Maen nhw’n galluogi pobl i ymgymryd â rhaglenni adsefydlu neu waith yn y gymuned wrth gael eu goruchwylio gan y Gwasanaeth Prawf yng Nghymru, sy’n rhan o Wasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi. Os na fydd dedfryd gymunedol yn addas, er enghraifft oherwydd difrifoldeb y trosedd, mae gwahanol fathau o ddedfrydau i garchar yn bodoli, yn cynnwys dedfrydau penodol, dedfrydau estynedig a dedfrydau am oes (darllenwch fwy – Teuluoedd Carcharorion). Mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi hefyd yn aelodau o Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol, sydd â chyfrifoldeb ar gyfer cydweithio i leihau ail-droseddu (gweler Cyflwyniad i Ddiogelwch Cymunedol).

Sut mae troseddwyr yn cael eu dedfrydu yng Nghymru a Lloegr - YouTube

Mae’r Academi dros Gyfiawnder Cymdeithasol yn rhwydwaith i rannu gwybodaeth, sgiliau ac ymarfer da i hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol trwy wasanaethau cyhoeddus a chymdeithas sifil. Mae aelodaeth am ddim ac yn cynnwys seminarau ar-lein a rhanbarthol, gweithdai, cyfresi dysgu a chynadleddau. Digwyddiadau Diweddaraf.

Mae cyrsiau am ddim ar OpenLearn gan y Brifysgol Agored yn cynnwys:

Dolenni defnyddiol

Canllawiau’r Coleg Plismona – Erlyn a rheoli achosion.

Ewch i’r Wefan

Mae Ymddiriedolaeth Gofal a Chyngor i Garchardai (Pact) yn elusen genedlaethol sy’n darparu cefnogaeth i garcharorion, pobl gydag euogfarnau a’u teuluoedd.

Ewch i’r Wefan

Mae gwasanaethau cymorth yn cael eu darparu yng Nghymru hefyd gan

Mae Clinks yn cefnogi llais y sector wirfoddol sy’n gweithio yn y system cyfiawnder troseddol.

Ewch i’r Wefan

Mae sawl briff ymchwil gan Lyfrgell Tŷ’r Cyffredin yn darparu trosolwg defnyddiol o swyddogaethau, cyfrifoldebau ac agweddau o’r system cyfiawnder troseddol:

Mae Cyngor Dedfrydu Cymru a Lloegr yn hyrwyddo mwy o dryloywder a chysondeb mewn dedfrydu a chynnal annibyniaeth y farwniaeth ar yr un pryd. Prif rôl y Cyngor yw cyflwyno canllawiau ar ddedfrydu.

Ewch i’r Wefan

Llywodraeth y DU – Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi.

Ewch i’r Wefan

Llywodraeth y DU: Dull Doethach o Ddedfrydu.

Ewch i’r Wefan

Rhestr o garchardai a sefydliadau troseddwyr ifanc yng Nghymru a Lloegr, yn cynnwys sut i drefnu ymweliadau a sut i gadw mewn cysylltiad â charcharorion.

Gweld y Rhestr

Arolygiaethau:


Cymorth a Chefnogaeth

Ar gyfer dioddefwyr, teuluoedd a phobl bryderus

Mae gan Nacro linell gymorth arbennig i Adsefydlu sy’n cynnig gwybodaeth a chyngor i gyn-droseddwyr, carcharorion, eu teuluoedd a’u ffrindiau, ac i’r sefydliadau sy’n gweithio gyda nhw. Ffoniwch 0300 123 1999.

Mae gwefan Llinell Gymorth Genedlaethol i Deuluoedd Carcharorion ar gyfer Cymru a Lloegr yn cynnig cefnogaeth i deuluoedd gydag anwylyd yn y system cyfiawnder troseddol. Ffoniwch 0808 808 2003 ddydd Llun i ddydd Gwener 9am – 8pm, dydd Sadwrn a dydd Sul 10am – 3pm.

Mae Ymddiriedolaeth St Giles yn cynnal amryw o wasanaethau i helpu cyn- droseddwyr gyda chyflogaeth, hyfforddiant yn y gymuned, a thai / llety argyfwng. Ffoniwch 020 7708 8000.

Mae Unlock yn elusen annibynnol i bobl gydag euogfarnau sy’n delio gyda’r effeithiau o fod â chofnod troseddol. Maen nhw’n rhoi cyngor a chymorth ynglŷn ag agweddau fel sut i ddatgelu i gyflogwyr, gwiriadau cofnodion troseddol, cael yswiriant a theithio dramor trwy eu llinell gymorth gyfrinachol. Ffoniwch 01634 247350.

Mae My Support Space gan Gymorth i Ddioddefwyr yn adnodd ar-lein am ddim sy’n cynnwys canllawiau rhyngweithiol (yn cynnwys y daith i gyfiawnder) i’ch helpu i symud ymlaen ar ôl trosedd. Hefyd gweler Dioddefwyr a Thystion.

Mae YMCA yn gweithio mewn partneriaeth gyda charchardai a gwasanaethau prawf i gefnogi troseddwyr ifanc gyda dinasyddiaeth a chyfleoedd hyfforddiant cyn iddyn nhw gael eu rhyddhau. Ffoniwch 0207 186 9500.

Mae gwasanaethau cymorth yn cael eu darparu yng Nghymru hefyd gan Ymddiriedolaeth Nelson ; Ymddiriedolaeth Cyngor a Gofal i Garchardai (Pact); Cymru Ddiogelach; St Giles Cymru; a Cyswllt Carchar (Pobl).