Beth yw y Bwrdd Cymunedau Mwy Diogel Cymru?
Diben Bwrdd Cymunedau Mwy Diogel Cymru yw darparu arweinyddiaeth, trosolwg a chyfeiriad i raglen waith ar y cyd, gyda’r nod o sicrhau y darperir arweinyddiaeth effeithiol ar y cyd i helpu gwaith partneriaeth lleol fynd i’r afael â diogelwch cymunedol a fydd, yn ei dro, yn cefnogi cymunedau diogel, cadarn a mwy hyderus. Mae’r Bwrdd hefyd yn darparu trefn lywodraethu i Rwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru.
Ar hyn o bryd mae aelodau’r Bwrdd yn cynnwys cynrychiolwyr o’r canlynol:
Comisiynwyr Heddlu a Throsedd Cymru
- Prif Gwnstabliaid Cymru
- CLlLC
- Awdurdodau Lleol
- SOLACE Cymru
- Pennaeth y Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel
- Isadran Diogelwch Cymunedol Llywodraeth Cymru
- Y Gwasanaeth Tân ac Achub
- HMPPS (y gwasanaeth prawf yn benodol)
- Y Trydydd Sector (Cadeirydd Cyfiawnder Cymunedol Cymru)
- Swyddogion Diogelwch Cymunedol (Cadeirydd WACSO)
- Yr Uned Atal Trais
- Iechyd Cyhoeddus Cymru