Hafan » Pawennau ar Batrôl yng Nghastell-nedd Port Talbot
Pawennau ar Batrôl yng Nghastell-nedd Port Talbot
<<Yn ôl i Astudiaethau Achos
Mae Pawennau ar Batrôl yn gynllun atal troseddu y mae’r Tîm Diogelwch Cymunedol yn ei weithredu yng Nghastell-nedd Port Talbot, ac mae yno gynlluniau tebyg ar waith ledled Cymru fel yn Abertawe, er enghraifft. Gofynnir i bobl gyfrifol sy’n mynd â’u cŵn am dro yn ardal Castell-nedd Port Talbot helpu’r gymuned leol drwy gadw golwg am bethau fel graffiti, baw cŵn, golau stryd wedi torri, tipio anghyfreithlon, ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddu a rhoi gwybod i’r awdurdodau ar ran y gymuned. Mae Partneriaeth Castell-nedd Port Talbot Mwy Diogel yn credu bod y mil a mwy o bobl sy’n mynd â’u cŵn am dro yn y Fwrdeistref Sirol yn medru chwarae rhan bwysig wrth gadw cymunedau’n lanach a mwy diogel. Gall hyd yn oed pethau bach fod yn effeithiol. Mae’r cynllun yn ategu cynlluniau cymunedol eraill fel Gwarchod y Gymdogaeth a Swyddogion Cefnogaeth Gymunedol Heddlu De Cymru. Nid oes disgwyl i neb ymyrryd mewn unrhyw sefyllfa. Y cyfan sydd i’w wneud yw rhoi gwybod i’r asiantaethau perthnasol a helpu i gasglu tystiolaeth.
Mae pob aelod newydd yn cael pecyn croeso sy’n cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol. Anfonir newyddlenni rheolaidd drwy e-bost sy’n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau, tueddiadau troseddu a chyngor gan y bartneriaeth diogelwch cymunedol. Gellir anfon newyddlenni drwy’r post at bobl heb gysylltiad â’r rhyngrwyd.
Cyn y pandemig cynhaliwyd digwyddiadau rheolaidd i hyrwyddo’r cynllun, derbyn aelodau newydd a bod yn bresennol yn y gymuned i siarad â’r trigolion am unrhyw bryderon oedd ganddynt. Weithiau trefnwyd digwyddiadau mewn ardaloedd penodol lle’r oedd problemau wedi codi, er mwyn rhoi gwybod i bobl sut i adrodd am broblemau. Byddem yn gwahodd partneriaid eraill i’n digwyddiadau pan oedd hynny’n bosib, gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Cŵn, Heddlu De Cymru ac adrannau eraill o’r Cyngor.
Yn ystod y pandemig ni fu modd inni feithrin cyswllt â’r aelodau na chwrdd â rhai newydd, ac felly roedd hi’n bwysig inni ehangu’r cynllun ac ystyried dulliau digidol o weithredu. O ganlyniad i hynny gall aelodau newydd gofrestru ar-lein.
Mae yno hefyd dudalen newydd sbon ar Facebook ar gyfer Pawennau ar Batrôl, sy’n helpu wrth rannu negeseuon â’r aelodau ac yn hyrwyddo’r cynllun drwy annog pobl i gymryd rhan ar-lein @PawsNPT. Cyhoeddwyd neges yn ddiweddar am atal lladrad cŵn a gyrhaeddodd bron i ddeg mil o bobl ar gyfryngau cymdeithasol.
Mae gan gynllun Castell-nedd Port Talbot fwy na 1100 o aelodau.
Manteision i’r aelodau
- Pecyn croeso am ddim os ydynt yn cofrestru mewn digwyddiad, a fersiwn electronig ohono wrth ymaelodi ar-lein.
- Cael yr holl wybodaeth ddiweddaraf am Ddiogelwch Cymunedol ac Atal Troseddu gan amrywiaeth o bartneriaid.
- Newyddlenni bob deufis yn ogystal â rhifynnau arbennig fel y bo’r angen.
- Cael cynnig pethau ychwanegol i’w helpu i deimlo’n ddiogel, fel y cynllun Teimlo’n Ddiogel a Phecynnau Atal Lladrad Cŵn (gweler y llun sydd ynghlwm).
- Cael yr holl wybodaeth berthnasol am sut i adrodd ynghylch amrywiaeth o faterion diogelwch cymunedol.
- Cael cyfle i siarad â’r tîm a’r asiantaethau sy’n bartneriaid mewn digwyddiadau.
Cyn y pandemig byddai digwyddiadau’n cynnwys
- Archwiliad sylfaenol o iechyd cŵn am ddim gan yr Ymddiriedolaeth Cŵn.
- Gosod a gwirio microsglodion am ddim gan yr Ymddiriedolaeth Cŵn.
- Cymorth a chyngor gan yr Ymddiriedolaeth Cŵn.
- Cynnig archwiliad o ddiogelwch tân yn y cartref gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
- Cyngor ar Ddiogelwch Cymunedol ac Atal Troseddu gan y Tîm Diogelwch Cymunedol.
- Cyngor am ddim ynglŷn ag ailgylchu a chyfle i gasglu cynwysyddion gwastraff newydd gan wasanaeth Ailgylchu Castell-nedd Port Talbot.
- Cyngor am ddim a chyfle i drafod pryderon ynglŷn â throseddau gwastraff a baw cŵn.
- Cyngor ynghylch Atal Troseddu a chynrychiolaeth gan Heddlu De Cymru.
- Cyngor gan gymdeithasau tai lleol.
Gobeithiwn fedru ailddechrau’r digwyddiadau hyn yn y dyfodol agos. Rydym yn medru cynnal rhai digwyddiadau ond dim ond ar raddfa fechan iawn ar hyn o bryd. Rydym yn casglu tystiolaeth anecdotaidd yn rheolaidd ond fel arall mae’n anodd mesur faint o bobl sy’n adrodd ynghylch digwyddiadau gan eu bod yn adrodd yn syth i’r asiantaethau perthnasol.