Neidio i'r prif gynnwys

Adnoddau a diweddariadau Anhwylder Cymunedol

Yn dilyn y digwyddiad trychinebus a ddigwyddodd yn Southport ddiwedd mis Gorffennaf 2024 a’r golygfeydd treisgar sydd wedi’u dilyn mewn dinasoedd amrywiol o gwmpas y DU, rydym wedi bod yn ffodus na welwyd yr un lefel o drais ac anhrefn yma yng Nghymru.  
 
Fodd bynnag, mae tensiynau’n parhau’n uchel. Mae’r rhwydwaith wedi darganfod a threfnu’r adnoddau hyn ar gyfer y rhai sy’n ymwneud â chynnal trefn a diogelwch cymunedol. Mae hyn er mwyn caniatáu ar gyfer paratoi a dysgu ar gyfer y dyfodol. 

Tim Cymorth Ieuenctid Ethnig (EYST)

Mae EYST wedi gweithio’n galed i sicrhau bod cymunedau o gwmpas Cymru wedi cael mynediad i gymorth sydd ei angen arnynt. Mae rhai datblygiadau a dolenni defnyddiol iawn wedi’u cynnwys yn eu cylchlythyr mis Awst.

Llywodraeth Cymru

Mae Swyddog y Cabinet ar gyfer Diwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt MS, wedi ysgrifennu i bartneriaid trydydd sector yn dilyn y trais ac anhrefn hiliol ac Islamoffobaidd yn Lloegr a’r tensiynau a’r ofnau cysylltiedif yng Nghymru.  

Mae’r Prif Weinidog, Eluned Morgan, wedi ysgrifennu datganiad i amlinellu’r hyn sy’n cael ei wneud i gefnogi diogelwch pobl a chymunedau yng Nghymru.

Partneriaeth Ymfudo Strategol Cymru (WSMP)

Mae’r WSMP yn bartneriaeth cymorth hollbwysig ar gyfer Ymfudwyr a Cheiswyr Lloches yng Nghymru neu sydd am geisio lloches. Maent wedi cynhyrchu’r taflenni gwybodaeth hyn ar Droseddau Casineb.

Mae’r daflen hon ar gael yn:

Heddluoedd

Mae gan bob un o’r pedwar heddlu yng Nghymru dudalennau gwe ar gyfer adrodd troseddau casineb.  

Swyddfa’r Cabinet 

Rhannodd Swyddfa’r Cabinet awgrymiadau ar gyfer negeseuon sy’n canolbwyntio ar anhrefn sy’n seiliedig ar lenyddiaeth gwyddoniaeth ymddygiadol.  

Addysg 

Rhannodd y sector addysg y llythr hwn yng nghyd-destun sefyllfa Israel/Gaza gyda cysylltiadau a allai fod yn ddefnyddiol.  

Camau Nesaf 

  • Mae llawer o waith parhaus gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid estynedig i ystyried fframwaith cyfathrebu. 
  • Anogir pob Cyngor i sicrhau bod cynlluniau Dychwelyd i’r Ysgol wedi’u diweddaru fel bod gan staff wybodaeth am wasanaethau cymorth i ddisgyblion/staff sydd wedi cael eu effeithio gan yr anrhefn diweddar, neu sy’n dioddefwyr bwlio/ troseddau casineb.  
  • Gofynnir i gynghorau ystyried eu sefyllfa bresennol mewn o safwbwynt Rhyddid Gwybodaeth a’r risg bosibl os na chymerir camau priodol pe bai cais Rhyddid Gwybodaeth yn cael eu derbyn ynghylch Tai Amlfeddiannaeth (HMO). Gallai diogelu fod yn rheswm cyfreithlon dros beidio â chynnwys darparwyr tai HO ar ymatebion Rhyddid Gwybodaeth a byddai’n helpu i gadw lleoliadau allan o’r maes cyhoeddus. Awgrymwyd y gallai cynghorau ddymuno ystyried defnyddio pwerau o dan adran 38 o’r Deddf Rhyddid Gwybodaeth, sy’n golygu eithriad am resymau iechyd a diogelwch y deiliaid.