Neidio i'r prif gynnwys

Rhybudd Diogelwch – Gleiniau Dŵr

Mae’r Swyddfa dros Ddiogelwch a Safonau Cynnyrch (OPSS) wedi cyhoeddi Rhybudd Diogelwch i rybuddio am y risgiau y gall gleiniau dŵr eu peri i blant ac oedolion agored i niwed. Mae hyn yn dilyn camau a gymerwyd gan OPSS i dynnu cynhyrchion anniogel oddi ar y farchnad.

Mae’r Rhybudd Diogelwch yn cynghori y dylid cadw gleiniau dŵr i ffwrdd oddi wrth blant ifanc, o dan 5 oed, a’u defnyddio gyda phlant hŷn neu oedolion agored i niwed dan oruchwyliaeth agos yn unig.

Mae gleiniau dŵr yn gleiniau a all ehangu hyd at 400 gwaith eu maint gwreiddiol pan fyddant yn agored i hylif. Cânt eu marchnata at wahanol ddibenion, gan gynnwys i’w defnyddio fel teganau, wrth grefftio, fel addurniadau cartref neu mewn blodeuwriaeth. Maent yn cael eu gwerthu o dan amrywiaeth o enwau gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, peli jeli, peli dŵr, gleiniau synhwyraidd neu grisialau dŵr.

Pan gaiff ei lyncu, mae gleiniau dŵr yn ehangu a gallant rwystro’r llwybr gastroberfeddol a all fod angen llawdriniaeth wedyn. Gall y gleiniau hefyd achosi tagu ac maent wedi niweidio plant yn y DU, gydag adroddiadau yn eu cysylltu â marwolaethau dramor. Gall fod yn anodd canfod gleiniau dŵr ac nid ydynt yn ymddangos mewn pelydr-x.

Os amheuir bod glain dŵr wedi’i lyncu, dylid ceisio cymorth meddygol ar unwaith.

Gofynnir i ddefnyddwyr, gofalwyr, addysgwyr, gwasanaethau safonau masnach awdurdodau lleol a busnesau fod yn effro i beryglon posibl gleiniau dŵr a gweithredu, lle bo’n briodol.

Gweithredu dros Ddefnyddwyr, Gofal Plant a Lleoliadau Addysgol:

  • Dylid cadw gleiniau dŵr i ffwrdd oddi wrth blant ifanc o dan 5 oed. Os oes gennych chi gleiniau dŵr, storiwch nhw allan o olwg a chyrraedd plant bob amser.
  • Argymhellir bod gofalwyr plant ifanc, o dan 5 oed, yn osgoi cael gleiniau dŵr yn eu cartref neu ystafell ddosbarth, hyd yn oed os bwriedir eu defnyddio at ddefnydd plentyn hŷn neu oedolyn. Mae hyn oherwydd bod gan blant ifanc y tueddiad uchaf i roi pethau yn eu cegau.
  • Wrth ddefnyddio gleiniau dŵr gyda phlant hŷn, sicrhewch fod gleiniau dŵr yn cael eu defnyddio o dan oruchwyliaeth agos iawn oedolyn. Sicrhewch nad yw gleiniau dŵr yn cael eu llyncu, bod yr ardal yn cael ei gwirio’n drylwyr i sicrhau nad oes unrhyw gleiniau dŵr wedi rholio i ffwrdd, y gallai plentyn ddod o hyd iddynt yn ddiweddarach. Dim ond nifer cyfyngedig o gleiniau dŵr y dylech eu caniatáu i blant dan oruchwyliaeth ar unrhyw un adeg.
  • Bod yn ymwybodol o risgiau i blant hŷn ac oedolion sy’n agored i niwed, gan gynnwys pobl ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau a allai eu gwneud yn fwy tebygol o fod â gwrthrychau yn y geg.
  • Byddwch yn ymwybodol o arwyddion a allai awgrymu llyncu damweiniol, fel chwydu a phoen stumog. Cofiwch! Dim ond ar ôl llyncu glain y gall plentyn ddangos symptomau, oriau neu hyd yn oed diwrnod neu fwy. Os ydych chi’n amau ​​​​bod gleiniau dŵr wedi’u llyncu, ceisiwch sylw meddygol ar unwaith. Os gallwch chi, dewch â sampl o’r cynnyrch.
  • Byddwch yn ymwybodol o arwyddion a allai awgrymu tagu, megis anhawster anadlu, siarad, crio neu beswch neu arwyddion eraill o drallod, megis pwyntio at eu gwddf, gafael yn eu gwddf neu wyneb sy’n troi’n welw ac arlliw glas.