Neidio i'r prif gynnwys

Ymgyrch: Diogelwch Tân Gwyllt

Mae’r Swyddfa Diogelwch a Safonau Cynhyrchion (OPSS) yn arwain ymgyrch newydd i gefnogi diogelwch tân gwyllt, gyda chynnwys i’w ddefnyddio gan awdurdodau lleol, grwpiau cymunedol a’r cyhoedd.

Mae OPSS wedi cynhyrchu canllawiau diogelwch ar sut i ddefnyddio tân gwyllt yn gyfrifol, amddiffyn pobl a chadw anifeiliaid i ffwrdd rhag niwed. Darperir cynnwys i’w ddefnyddio gan awdurdodau lleol, grwpiau cymunedol a’r cyhoedd, gan gynnwys fideo, poster, taflen a deunyddiau cyfryngau cymdeithasol. Mae’r OPSS yn awyddus i rhain gael eu rhannu ar Facebook, X (Twitter yn flaenorol) ac Instagram gyda’r hashnod #fireworksafe.

Gellir lawrlwytho’r asedau a’r negeseuon dwyieithog o dudalen we Fy niogelwch: tân gwyllt.