Neidio i'r prif gynnwys

Lansio’r Ffurflen Atgyfeirio Genedlaethol (NRF) yng Nghymru

Mae Plismona Gwrthderfysgaeth Cymru wedi cyhoeddi bod y Ffurflen Atgyfeirio Genedlaethol (NRF) yn cael ei lansio yng Nghymru i symleiddio’r broses ar gyfer adrodd am bryderon yn ymwneud â radicaleiddio.

Nodweddion Allweddol y Ffurflen Atgyfeirio Genedlaethol:

1. Gwell casglu gwybodaeth: Mae’r ffurflen newydd yn annog cyflwyniadau manwl. Anogir ymarferwyr i ddarparu cymaint o wybodaeth â phosibl i alluogi swyddogion arbenigol i asesu risgiau Prevent yn effeithiol a gwella’r broses o gofnodi data.

2. Terminoleg wedi’i diweddaru: I adlewyrchu’r ddealltwriaeth ddiweddaraf o dueddiad i radicaleiddio, mae’r ffurflen yn cynnwys iaith wedi’i diweddaru a chwestiynau. Mae’r newidiadau hyn yn annog atgyfeirwyr i ystyried amrywiaeth o ymddygiadau ac amgylchiadau wrth nodi pryderon.

3. Hygyrchedd gwell: Mae’r ffurflen wedi’i dylunio gyda mwy o ddarllenadwyedd a rhwyddineb, gan sicrhau bod pob defnyddiwr yn gallu ei llywio’n effeithiol.

4. Opsiwn Cymraeg: Bydd fersiwn Gymraeg o’r ffurflen ar gael trwy fotwm “newid drosodd” syml, wedi’i gynrychioli gan faner Cymru, gan sicrhau cynhwysiant ar draws y wlad.

Pryd a sut i ddefnyddio’r NRF

Os oes pryder ynghylch radicaleiddio posibl neu gred y gallai rhywun fod yn agored i radicaleiddio, rhaid i awdurdodau penodol ddefnyddio’r NRF i wneud atgyfeiriad i Plismona Gwrthderfysgaeth Cymru. Mae’r NRF yn sicrhau dull cyson o ymdrin ag atgyfeiriadau Prevent ledled Cymru, gan alinio â chanllawiau dyletswydd Prevent statudol.

Bydd y newid i’r NRF yn digwydd ddydd Gwener 25 Hydref, gan ddefnyddio’r cyswllt presennol sydd wedi bod mewn ei le ers blynyddoedd  o dan Ffurflen Atgyfeirio Atal Partneriaid Cymru Gyfan. Nid oes angen unrhyw gweithred gan ddefnyddwyr, gan y bydd y switsh yn digwydd yn awtomatig. I gael rhagor o fanylion, cyfeiriwch at y Canllaw Prevent Duty ar gyfer Cymru a Lloegr.