Neidio i'r prif gynnwys

Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2024: Ymunwch â’r mudiad i #GwneudCymunedauYnFwyDiogel

Mae Rhwydwaith Cymunedau Diogelach Cymru yn falch o gefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2024, menter dan arweiniad Resolve ASB. Yn digwydd rhwng 18 – 24 Tachwedd, mae’r ymgyrch genedlaethol hon yn anelu at godi ymwybyddiaeth am ymddygiad gwrthgymdeithasol (YGG) ac arddangos ffyrdd effeithiol o fynd i’r afael â’r ymddygiad yn ein cymunedau.

Mae’r Thema blwyddyn yma, #GwneudCymunedauYnFwyDiogel, yn tynnu sylw at bwysigrwydd cydweithio, ymgysylltiad cymunedol, a chefnogi dioddefwyr wrth greu amgylcheddau mwy diogel i bawb. Mae pob diwrnod o’r wythnos yn canolbwyntio ar agwedd wahanol o atal YGG, gyda themâu dyddiol yn cynnig cyfleoedd i ymgysylltu a myfyrio:

  • Dydd Llun 18: Diwrnod Partneriaeth
  • Dydd Mawrth 19: Diwrnod Dioddefwyr
  • Dydd Mercher 20: Diwrnod “Siaradwn Am YGG”
  • Dydd Iau 21: Diwrnod Arwyr Cymunedol
  • Dydd Gwener 22: Diwrnod Pobl Ifanc
  • Dydd Sadwrn 23: Diwrnod YGG a Iechyd
  • Dydd Sul 24: Diwrnod Gweithredu Cymunedol

Gwebinars am ddim yn ystod Wythnos YGG

Fel rhan o digwyddiad’r wythnos, mae Resolve ASB hefyd yn cynnal cyfres o gwebinars am ddim drwy’r Uwchgynhadledd Resolve (2.0). Bydd y gwebinars hyn yn trafod y themâu dyddiol, gyda siaradwyr arbenigol ac mynychwyr arbennig. Mae’n gyfle gwerthfawr i glywed gan arweinwyr y sector am ddulliau arloesol o fynd i’r afael ag YGG.

Mae’r gofrestru ar agor nawr, ac gallwch gofrestru drwy’r ddolen yma: Uwchgynhadledd Resolve 2024.

Cymerwch ran ar y cyfryngau cymdeithasol

Anogir pawb i ymuno â’r sgwrs drwy ddefnyddio’r hashnodau #GwneudCymunedauYnFwyDiogel ac #WythnosASB. Gallwch rannu’r negeseuon a bostiwyd gan Resolve ar eu cyfrifon Twitter/X, LinkedIn a Facebook, neu greu postiadau eich hun gan ddefnyddio’r tag @resolveasb i sicrhau bod eich postiadau’n cael eu rhannu’n eang.

Mae Resolve ASB hefyd wedi darparu pecyn cyfryngau gyda graffeg, logos, a deunyddiau hyrwyddo eraill i helpu i ledaenu’r neges. Lawrlwythwch y pecyn cyfryngau yma:

Rhannwch eich straeon ac astudiaethau achos

Mae Resolve ASB yn chwilio am astudiaethau achos i arddangos enghreifftiau o arferion gorau a straeon personol mewn meysydd fel partneriaethau, cefnogaeth i ddioddefwyr, ac ymgysylltiad ieuenctid. Os oes gennych stori i’w rhannu, boed yn ymwneud ag arwyr cymunedol neu brosiectau arloesol sy’n mynd i’r afael ag YGG, anfonwch eich enghreifftiau at Tom yn Resolve ASB.

Gyda’n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth drwy adeiladu cymunedau cryfach a mwy diogel. Gadewch i ni weithio gyda’n gilydd yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth YGG i godi ymwybyddiaeth, cefnogi dioddefwyr, a rhannu atebion i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn uniongyrchol.