Mae Tasglu Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Blaenau Gwent, partneriaeth rhwng Cyngor Blaenau Gwent, Tîm Plismona Bro Heddlu Gwent, Tai Cymunedol Tai Calon a Gwasanaethau Ieuenctid Blaenau Gwent.
Mae’r Tasglu Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a sefydlwyd ym mis Chwefror 2024, gan Gyngor Blaenau Gwent yn darparu ymateb cyflym, cydlynol a chymesur i reoli risgiau sy’n gysylltiedig ag achosion ymddygiad gwrthgymdeithasol personol, niwsans ac amgylcheddol sydd wedi cyrraedd trothwy ar gyfer ymyrraeth. Y prif amcan oedd ceisio lleihau nifer y digwyddiadau Ymddygiad Gwrthgymdeithasol gan ddefnyddio pa bynnag offer oedd ar gael i bob partner a gweithio i wneud i’r cymunedau ledled Blaenau Gwent deimlo’n fwy diogel ac yn fwy hyderus wrth adrodd ddigwyddiadau a throseddau. Mae digwyddiadau ymddygiad gwrthgymdeithasol sydd wedi eu cofnofi gan yr heddlu yn Chwarter 1 blwyddyn yma wedi gweld gostyngiad o 34% ym Mlaenau Gwent.