29 Tachwedd 2024
Ddoe cyflwynwyd 28 o wobrau i brosiectau, partneriaethau a phobl sydd wrthi’n gwneud cymunedau yn fwy diogel ar hyd a lled Cymru.
Roedd un enillydd cyffredinol, sef prosiect ‘City Chill’ Abertawe, a dyfarnwyd 15 gwobr dan gategorïau a 12 gwobr canmoliaeth uchel. Mae’r gwobrau’n arddangos gwaith partneriaeth ymhlith sefydliadau ac asiantaethau ledled Cymru er mwyn gwella bywydau unigolion a chreu gwell cydlyniant cymunedol.
Creodd prosiect ‘City Chill’ Abertawe argraff ar y beirniaid gyda’i waith partneriaeth ag atal yn ganolbwynt iddo. Roedd yn bartneriaeth rhwng Tîm Partneriaeth a Chynnwys Cyngor Abertawe, Tîm Plismona yn y Gymdogaeth Canol Dinas Abertawe Heddlu De Cymru, Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Cyngor Abertawe a Barod, Gwasanaeth Ieuenctid Evolve Cyngor Abertawe, CMET Cyngor Abertawe (Tîm Ar Goll, Camfanteisio, Masnachu mewn Pobl), a Choleg Gŵyr Abertawe.
Roedd y seremoni wobrwyo yn dathlu ac yn arddangos y gwaith gwych sy’n cael ei wneud ar hyd a lled Cymru i atal, lleihau a gwneud cymunedau’n fwy diogel mewn categorïau fel Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin domestig a Thrais Rhywiol a Chaethwasiaeth Fodern a Chamfanteisio.
Roedd yr enillwyr yn dod o bob rhan o Gymru gan gynnwys Tasglu Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Blaenau Gwent, Prosiect Gwrywdod Gwenwynig Gwasanaeth Ieuenctid Sir y Fflint a Thîm Adsefydlu Wcrainiad Powys.
Dywedodd Jane Mudd, Cyd-Gadeirydd Bwrdd Cymunedau Mwy Diogel Cymru a Chomisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent:
“Mae’n bwysig dathlu cryfder Partneriaethau Diogelwch Cymunedol sy’n ymateb i anghenion lleol ac sy’n darparu mentrau sydd wirioneddol yn newid bywydau ac yn gwneud ein cymunedau’n fwy diogel. Mae hwn yn gyfle i ddathlu’r gwaith sydd ar y gweill ar hyn o bryd, dysgu gan y naill a’r llall a chymryd camau pellach i gadw ein cymunedau’n ddiogel yn y cyfnodau caled hyn.”
Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Cyd-Gadeirydd Bwrdd Cymunedau Mwy Diogel Cymru ac Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych:
“Fel pob gwasanaeth cyhoeddus, mae Llywodraeth Leol yn gorfod ymateb i alwadau’r cyhoedd gyda llai o adnoddau a than amodau sy’n mynd yn fwy a mwy anodd. Ac eto mae’r balchder mewn darparu gwasanaeth yn parhau. Mae’r gwobrau hyn yn dangos angerdd ac ymroddiad y gweithwyr gwydn ledled Cymru sy’n gweithio’n ddiflino i wneud bywydau pobl yn fwy diogel.”