A allai eich sefydliad elwa o feddwl strategol am wirfoddoli?
Mae llawer i’w ddysgu gan dderbynwyr Grantiau Strategol Gwirfoddoli Cymru sydd wedi bod yn arwain prosiectau arloesol sy’n edrych yn y tymor hir at wirfoddoli a sut y gallwn ddatgloi ei botensial. Mae adnoddau sy’n rhannu canfyddiadau o’r prosiectau hyn bellach ar gael i’w defnyddio am ddim ar knowledgehub.cymru.
Dan reolaeth WCVA (Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru), mae cynllun Grant Strategol Gwirfoddoli Cymru (VWSG) yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru i wella gwirfoddoli yng Nghymru yn y tymor hir. Mae prosiectau a ariennir drwy’r cynllun yn gweithio i ddatgloi’r potensial ar gyfer ymgorffori a/neu gynyddu gwirfoddoli cydlynol ymhellach yng Nghymru.
Gallwch ddarllen mwy am nodau ac amcanion y cynllun ar wefan WCVA.
Blaenoriaethau ariannu’r dyfodol
Cyfarfu’r prosiectau a ariannwyd gan gynllun Grantiau Strategol Gwirfoddoli Cymru WCVA yn ddiweddar i drafod pum maes blaenoriaeth:
- Iechyd a gofal cymdeithasol
- Addysg a phobl ifanc
- Argyfwng yr amgylchedd a’r hinsawdd
- Celfyddydau, diwylliant a chwaraeon
- Yr iaith Gymraeg a chymunedau
Daeth sefydliadau ynghyd i drafod canfyddiadau’r prosiectau hyd yn hyn, ac i nodi meysydd y teimlent y dylid eu blaenoriaethu ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol yn y dyfodol.
Sut y gallwch chi elwa
Gall meddwl strategol am wirfoddoli fod o fudd mawr i gyflawni nodau eich sefydliad. Byddai WCVA yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i weld beth y gellir ei ddysgu o’r prosiectau drwy ymweld â’r Hwb Gwybodaeth. Yma fe welwch yr holl adnoddau o’r cynllun trwy chwilio ‘strategol’ yn yr adran adnoddau.
Dweud eich dweud ar gynlluniau yn y dyfodol
Mae’r WCVA hefyd yn ymestyn y gwahoddiad i fod yn rhan o drafodaethau yn y dyfodol ynghylch blaenoriaethau ar gyfer ariannu yng Nghymru. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, neu i drafod syniad posibl ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol, cysylltwch â Maggie Smith ar msmith@wcva.cymru.