Neidio i'r prif gynnwys

Cadwch y dyddiad – Gwobrau Cymunedau Mwy Diogel Cymru 2025

Eleni, cynhelir Gwobrau Cymunedau Mwy Diogel Cymru am y trydydd tro. Mae’r gwobrau yn dathlu gwaith, prosiectau, partneriaethau a phobl sydd wrthi’n gwneud cymunedau yn fwy diogel ar hyd a lled Cymru.

Eleni, cynhelir y seremoni wobrwyo yn nhref prifysgol Aberystwyth ddydd Iau 27 Tachwedd. 

Yn dilyn y seremoni agoriadol yn Abertawe yn 2023, teithiodd y gwobrau i Ogledd Cymru y llynedd, i’r clwb pêl-droed enwog yn Wrecsam. Eleni, byddwn yn mynd i Geredigion yng nghanolbarth Cymru i roi sylw i lwyddiannau mewn diogelwch cymunedol.

Fel yn ystod y blynyddoedd blaenorol, cynhelir y seremoni wobrwyo ganol y prynhawn fel bod y rhai sy’n dymuno gwneud hynny yn gallu teithio yno ac yn ôl yn ystod y dydd.

Bydd yr enwebiadau ar gyfer y gwobrau yn agor ddiwedd yr haf a bydd y manylion yn cael eu cyhoeddi ar wefan a chyfryngau cymdeithasol Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru.

Felly cadwch y dyddiad, ac edrychwn ymlaen at anrhydeddu cyflawniadau diogelwch cymunedol gydag ymarferwyr a phartneriaid ym mis Tachwedd.

Rhagor o wybodaeth am enillwyr 2024 a 2023