Neidio i'r prif gynnwys
Archwilio is-bynciau

Troseddau Casined ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Gwneud strydoedd a chymunedau yn fwy diogel

Ar 21 Mai byddwn yn edrych ar Droseddau Casineb ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a’r hyn sy’n cael ei wneud i wneud ein strydoedd a’n cymunedau’n fwy diogel.

Mae’r ap StreetSnap wedi’i ddatblygu i ddileu delweddau atgas o’n strydoedd.  Arweiniodd Dr Lella Nouri y gwaith o ddatblygu’r ap hwn a gydgynhyrchwyd sydd bellach wedi’i gyflwyno ac sy’n caniatáu i dimau’r cyngor a’u partneriaid weld a dadansoddi data sy’n ymwneud â chydlyniant cymunedol.  Bydd hi’n ymuno â ni i ddweud mwy wrthym am yr ap a’r prosiect Flip the Streets sy’n defnyddio celf i ddod â chymunedau at ei gilydd.

Mae Resolve yn cynnal Wythnos Ymwybyddiaeth o Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn flynyddol, ac eleni mae wedi gofyn pedwar peth o’r Llywodraeth i helpu i wneud cymunedau’n fwy diogel.  Bydd Rebecca Bryant OBE, Prif Weithredwr Resolve, yn esbonio mwy am y gofynion hyn a sut y gall ymarferwyr yng Nghymru gymryd rhan yn yr Wythnos Ymwybyddiaeth.

Archybwch yma