Neidio i'r prif gynnwys

Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Effaith ar y Gymuned – Cyfres Seminar 2025

Mae Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru yn lansio cyfres o seminarau yn canolbwyntio ar gyfiawnder cymdeithasol a’r effaith ar y gymuned. Mae’r gyfres hon o bum digwyddiad ar-lein yn dod ag ymarferwyr a phartneriaid ynghyd o bob cwr o Gymru i archwilio’r croestoriad rhwng iechyd, cyflawnder, cynhwysiant a diogelwch cymunedol.

Bydd pob sesiwn yn cynnwys mewnwelediad, yn sbarduno sgwrs ac yn rhannu dysg sy’n cefnogi ymagweddau ar y cyd a sy’n seiliedig ar dystiolaeth i greu cymunedau mwy diogel. P’un ai ydych chi’n ymarferydd rheng flaen, yn wneuthurwr polisi neu’n ymchwilydd, mae’r seminarau hyn yn cynnig persbectif gwerthfawr a syniadau ymarferol i wella eich gwaith.

Mae’r holl seminarau’n rhad ac am ddim. Bydd y sesiynau’n cynnwys amser ar gyfer cwestiynau a byddant yn cael eu recordio (yn ddibynnol ar gadarnhad).

Cliciwch y dolenni isod i gofrestru neu mewngofnodwch i’n porth aelod newydd i archebu lle.

Ardal Marmot – Creu Gwent mwy diogel

Dydd Gwener 16 Mai, 10:00–11:30

Mae ymagwedd Marmot yn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd drwy lens sy’n ystyriol o drawma. Yn y sesiwn hwn bydd yr Athro Tracy Daszkiewicz (Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan) a David Leech (Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen) yn trafod sut y daeth Gwent y rhanbarth gyntaf yng Nghymru i fabwysiadu’r model hwn. Bydd y seminar yn archwilio’r egwyddorion, yr heriau a chanlyniadau diogelwch cymunedol y gwaith hwn.

Troseddau Casineb ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol – Gwneud y strydoedd a chymunedau’n fwy diogel

Dydd Mercher 21 Mai, 10:00–11:30

Ymunwch â Dr Lella Nouri (Prifysgol Abertawe) a Rebecca Bryant OBE (Resolve) i archwilio ymatebion arloesol i droseddau casineb ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Bydd Dr Nouri yn cyflwyno’r ap StreetSnap a phrosiect Flip the Streets tra bydd Rebecca yn sôn am wythnos ymwybyddiaeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ac yn amlygu’r pedwar peth allweddol y mae Resolve yn gofyn amdanynt gan y Llywodraeth.

Dargyfeirio ar gyfer Troseddau yn Ymwneud â Meddu ar Gyffuriau

Dydd Mawrth 3 Mehefin, 14:00-15:30

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyflwyno cynllun dargyfeirio ar gyfer oedolion sy’n cael eu dal gyda sylweddau anghyfreithlon yn eu meddiant, gan gynnig llwybr tuag at driniaeth ac adferiad y tu allan i’r system gyfiawnder troseddol draddodiadol. Mae’r cynllun wedi arwain at ymgysylltu cynyddol gyda gwasanaethau triniaeth, lleihau’r galw am gyffuriau ar lefel y stryd a rhyddhau capasiti’r heddlu i ganolbwyntio ar atal a throseddau difrifol. Mae hefyd wedi lleddfu’r pwysau ar y system gyfiawnder troseddol. Ymunwch â Chomisiynydd yr Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn a’r Ditectif Uwch-arolygydd Gareth Roberts wrth iddynt amlinellu sut y cafodd y cynllun ei gyflwyno, y partneriaid fu’n ymwneud â hyn a’r gwersi a ddysgwyd.

Niwrowahaniaeth ac Eithafiaeth – Deall yr hyn sy’n gwneud unigolion yn agored i niwed a mynd i’r afael â’r risgiau

Dydd Mawrth 10 Mehefin, 14:00–15:30

Bydd Donna Sharland (Niwrowahaniaeth Cymru) yn trafod yr  elfennau y gall unigolion niwrowahanol eu hwynebu sy’n eu gwneud yn agored i niwed mewn perthynas â radicaleiddio a phwysigrwydd ymyrraeth gynnar. Bydd y rhai sy’n bresennol yn cael dealltwriaeth glir o’r risgiau, strategaethau diogelu ymarferol a sut i gefnogi unigolion yn fwy effeithiol.

Gofal Cywir, Person Cywir – Y cynnydd o ran ei gyflwyno a’i weithredu

Dydd Mercher 25 Mehefin, 13:00–14:30

Mae Gofal Cywir, Person Cywir yn cael ei weithredu ar hyd a lled Cymru i sicrhau fod unigolion sy’n profi argyfwng iechyd meddwl yn cael eu cefnogi gan y gwasanaethau mwyaf priodol. Mae’r sesiwn hwn yn rhoi trosolwg o gyflwyno’r cynllun hyd yma, gyda’r wybodaeth ddiweddaraf gan y Grŵp Partneriaeth Genedlaethol Gofal Cywir, Person Cywir yng Nghymru a heddluoedd ar hyd a lled Cymru. Bydd y rhai sy’n bresennol yn clywed am y cynnydd ar hyn o bryd, y camau yn y dyfodol, llywodraethu a sut i godi pryderon, yn ogystal â gwersi allweddol a ddysgwyd o weithredu’r cynllun hyd yma.