Gwobrau Dewi Sant yw gwobrau cenedlaethol Cymru sy’n cael eu henwebu gan y cyhoedd.
Bob blwyddyn mae 11 o Wobrau Dewi Sant, y 10 cyntaf yn cael eu henwebu ar gyfer gan y cyhoedd:
- Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg
- Arwr Cymunedol
- Busnes
- Ceidwad yr Amgylchedd
- Chwaraeon
- Dewrder
- Diwylliant
- Gwasanaethu’r Cyhoedd
- Gwirfoddoli
- Person Ifanc
- Gwobr Arbennig y Prif Weinidog
Prif Weinidog Llywodraeth Cymru a’u hymgynghorwyr sy’n penderfynu pwy sy’n cyrraedd y rownd derfynol a’r enillwyr.
Mae’r Gwobrau Dewi Sant yn cydnabod llwyddiannau eithriadol pobl wahanol o Gymru a thu hwnt. Mae enwebiadau ar gyfer y gwobrau 2026 yn cau ar 26 Medi 2025.
Os ydych chi’n adnabod rhywun sy’n haeddu gwobr, gallwch eu henwebu trwy lenwi ffurflen ar-lein..