Neidio i'r prif gynnwys

Mae Gwobrau Cymunedau Mwy Diogel 2025 ar agor i geisiadau

Mae Gwobrau Cymunedau Mwy Diogel yn ôl i ddathlu gwaith prosiectau, partneriaethau a phobl sydd wrthi’n gwneud cymunedau yn fwy diogel ar hyd a lled Cymru.

Bydd Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru yn cynnal y gwobrau ddydd Iau 27 Tachwedd ym Mhrifysgol Aberystwyth, a derbynnir enwebiadau yn awr.

Mae’r Seremoni Wobrwyo yn gyfle i ddathlu ac arddangos y gwaith gwych sy’n cael ei wneud ar hyd a lled Cymru i atal a lleihau niwed a gwneud cymunedau’n fwy diogel. Mae’r categorïau yn cynnwys Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trais yn erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol a Chaethwasiaeth Fodern a Chamfanteisio.

Roedd enillydd cyffredinol y llynedd, Swansea City Chill, yn bartneriaeth a oedd yn canolbwyntio ar atal a oedd yn hyrwyddo ymgysylltu â’r gymuned rhwng cenedlaethau, gan ddod â sawl partner ynghyd i ddarparu’r prosiect.  Bu i’r gwobrau yn 2024 hefyd gefnogi gwaith y timau, fel tîm Troseddu Cyfundrefnol Difrifol Heddlu Gwent, ac unigolion fel Elizabeth Ward o Swyddfa Gogledd Cymru Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd.

Mae’r enwebiadau ar agor i bartneriaethau, timau neu unigolion sy’n gweithio yn y maes diogelwch cymunedol yng Nghymru.  Gall unigolion enwebu eu hunain ar gyfer y gwobrau, neu gallwch enwebu cydweithiwr neu dîm yr ydych wedi gweithio â nhw. 

Dylid cyflwyno’r holl enwebiadau erbyn 5pm, ddydd Gwener 3 Hydref i gael eu hystyried.  Mae manylion ynghylch sut i enwebu ar gael ar wefan Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel.

Bydd y seremoni wobrwyo yn cael ei chynnal gan y cyflwynydd teledu, John-Paul Davies. Cyn ei yrfa ym maes newyddiaduraeth, treuliodd John-Paul bedair blynedd gyda’r Heddlu ac ef oedd y Swyddog Heddlu cyntaf o Dde Cymru ers ugain mlynedd i ennill lle ar Gynllun Carlam y Swyddfa Gartref ar gyfer Graddedigion.

Meddai Mark Brace, Pennaeth Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru:

“Bellach yn ein trydedd flwyddyn, mae Gwobrau Cymunedau Mwy Diogel yn arddangos yr amrywiaeth o waith gwych sy’n digwydd ar hyd a lled Cymru i gadw cymunedau yn ddiogel. Maent yn taflu’r goleuni ar unigolion, timau a phartneriaethau y mae eu hymroddiad tawel yn haeddu cydnabyddiaeth.

“Rydym yn edrych ymlaen at weld yr enwebiadau ar gyfer eleni a dod â chydweithwyr ynghyd i ddathlu’r bobl a’r meddwl arloesol sy’n sicrhau newid.”