Cefnogir Bwrdd Cymunedau Mwy Diogel Cymru gan y Rhwydwaith a byddwn yn cyhoeddi trosolwg o gyfarfodydd y Bwrdd. Dysgwch fwy am y bwrdd. Dysgwch fwy am y bwrdd.
Bwrdd Cymunedau Mwy Diogel Cymru crynodeb gweithredol cyfarfod – Medi 2025
Cynhaliwyd cyfarfod Bwrdd Cymunedau Mwy Diogel Cymru dros y we ar 10 Medi 2025. Roedd y pynciau allweddol a gafodd eu trafod yn cynnwys newidiadau deddfwriaethol, diwygio cyfiawnder, diogelwch cymunedol a chynllunio strategol. Rhannwyd y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch yr Adolygiad Dedfrydu, Adalw am Gyfnod Penodol, Adolygiad Leveson a’r Adolygiad Gwariant.
Bu i’r aelodau archwilio goblygiadau’r cynllun rhyddhau’n gynnar SDS40 ar y gwasanaethau cymunedol a thai, gan bwysleisio’r angen am gydweithio a chyfathrebu gwell ar draws sectorau.
Bu i’r Bwrdd adolygu’r Adolygiad Casey ar Gamfanteisio’n Rhywiol ar Blant a’r Diwygiad Tirwedd Plismona, gan amlygu pwysigrwydd effeithlonrwydd a chynrychiolaeth o Gymru. Fe adroddwyd bod Uwchgynhadledd Llywodraeth Cymru ar drais a diogelwch mewn ysgolion wedi arwain at sefydlu fforwm i fynd i’r afael â gwaharddiadau, diarddeliadau a’r defnydd o ffonau symudol. Rhannodd Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru gynlluniau ar gyfer asesiadau o effaith a datblygiad ieuenctid.
Fe ddangosodd ymgyrch Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yr Haf ymdrechion amlasiantaeth i wella diogelwch yng nghanol trefi ac roedd y mentrau yn amrywio o fwy o batrolau i gefnogi manwerthu ac ymgysylltiad ieuenctid.
Ymhlith y materion cyfredol eraill a gyflwynwyd i’w trafod gan yr aelodau roedd gwelededd baneri, camwybodaeth ac effaith costau byw ar y trydydd sector.
Talwyd teyrnged i Roger Thomas, Prif Swyddog Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru am ei gyfraniadau i’r Bwrdd a’r Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel, gan fod disgwyl iddo ymddeol fis nesaf. Mae’r cyfarfod nesaf wedi’i drefnu ar gyfer 20 Tachwedd 2025. Mae’r camau gweithredu y cytunwyd arnynt yn cynnwys sesiynau dilynol ar ddiogelwch safle’r ysgol, protocol baneri a gwarineb mewn bywyd cyhoeddus.