Hyrwyddwyr diogelwch cymunedol yn cael eu hanrhydeddu ym Mhrifysgol Aberystwyth
Ddoe (dydd Iau 27 Tachwedd 2025), dathlodd Gwobrau Cymunedau Mwy Diogel Cymru 2025 gyflawniadau rhagorol unigolion, timau a phartneriaethau sy’n gweithio i wneud cymunedau ar hyd a lled Cymru’n fwy diogel.
Yn ystod y seremoni, a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth, cyflwynwyd 33 o wobrau i brosiectau, partneriaethau a phobl sydd wedi gwneud gwahaniaeth go iawn o ran atal trosedd, cefnogi dioddefwyr, a meithrin cymunedau cryfach a mwy gwydn.
Dangosodd gwobrau eleni ehangder gwaith partneriaeth ledled Cymru, gyda’r enillwyr yn cynrychioli awdurdodau lleol, yr heddlu, sefydliadau’r trydydd sector, a grwpiau cymunedol. Tynnodd y digwyddiad sylw at y gwaith arloesol ac ymroddedig sy’n cael ei wneud i fynd i’r afael â phroblemau fel ymddygiad gwrthgymdeithasol, trais yn erbyn merched a genethod, caethwasiaeth fodern, a chamfanteisio ar bobl ifanc.
Cyflwynwyd gwobr fawreddog y prif enillydd i Sidestep Sir y Fflint (Gweithredu dros Blant) a’r Fenter Gwrywdod Cadarnhaol (Media Academy Cymru) ar y cyd.
Cafodd Sidestep Sir y Fflint ei gydnabod am ei ddull ystyriol o drawma sy’n seiliedig ar berthnasoedd o gefnogi pobl ifanc mewn perygl o gamfanteisio troseddol yng ngogledd Cymru, gan osod meincnod ar gyfer cydweithrediad amlasiantaeth ac ymarfer diogelu.
Dathlwyd y Fenter Gwrywdod Cadarnhaol (Positive Masculinity Initiative) am ei waith arloesol yn ne Cymru, yn herio ystrydebau niweidiol ac yn cynnig modelau hunaniaeth, gwydnwch ac ymgysylltu cymunedol iachach a mwy buddiol i ddynion ifanc. Mae gweithdai a gwaith mentora’r prosiect wedi cael effaith fesuradwy ar les, ymddygiad a chydlyniant cymdeithasol.
Mae’r ddau brosiect yn enghreifftiau o rym gwaith partneriaeth ac atal i greu cymunedau mwy diogel, mwy cynhwysol ledled Cymru.
Yn ogystal â’r ddau brif enillydd, bu i Wobrau Cymunedau Mwy Diogel eleni gydnabod 20 o enillwyr categori ac 11 o brosiectau a gafodd ganmoliaeth uchel, sy’n adlewyrchu ehangder ac amrywiaeth y gwaith diogelwch cymunedol sy’n cael ei wneud ar hyd a lled Cymru. Mae’r prosiectau llwyddiannus hyn yn dangos dulliau arloesol o fynd i’r afael â rhai o’r heriau mwyaf dybryd y mae cymunedau heddiw’n eu hwynebu, ac mae eu llwyddiant yn cynnig ysbrydoliaeth a gwersi i eraill.
Anrhydeddwyd prosiectau o bob cwr o Gymru, sy’n dangos cryfder gweithio mewn partneriaeth ac arloesi mewn lleoliadau trefol a gwledig fel ei gilydd. Dyma rai o enillwyr y categorïau:
- Hwb Cymunedol Amrywiol Môn (Ynys Môn), sy’n cefnogi integreiddiad a lles cymunedau amrywiol yng ngogledd Cymru.
- Ymgyrch Totara (Caerdydd), sef menter amlasiantaeth sy’n mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a defnydd anghyfreithlon o gerbydau yn y brifddinas.
- Gwasanaeth Eiriolaeth Stelcio Cenedlaethol Paladin a Heddlu Dyfed-Powys, am eu partneriaeth yn cefnogi dioddefwyr stelcio ac yn gwella prosesau diogelu.
- Ymgyrch Scotney (Dyfed Powys), am amharu ar droseddu cyfundrefnol a gwarchod pobl ddiamddiffyn.
- Ymgyrch Chwarae Dy Ran (Cwm Taf Morgannwg), am ei waith diogelu a chodi ymwybyddiaeth arloesol.
- Canllaw Arfau mewn Ysgolion a Lleoliadau Addysgol yng Nghaerdydd, sy’n cynnig dull amlasiantaeth cyson o atal trais mewn ysgolion.
- Together We Can (Gwent), sef menter iechyd meddwl ac atal hunanladdiad dan arweiniad cymunedol, sy’n dod ag iechyd y cyhoedd, sefydliadau lleol a phrofiad bywyd ynghyd i gefnogi dynion mewn cymunedau rygbi a thu hwnt.
Cyflwynwyd gwobrau canmoliaeth uchel i brosiectau fel Partneriaeth Gogledd Cymru Heb Drais, Celf Aeron Arts yng Ngheredigion, a’r Tîm Addysg Diogelwch Cymunedol a Chanolfan Arloesi Cerebra yng ngorllewin Cymru, ymysg eraill.
Ochr yn ochr â thimau a phartneriaethau, roedd y Gwobrau Cymunedau Mwy Diogel hefyd yn dathlu cyflawniadau anhygoel unigolion sydd wedi cael effaith arwyddocaol ar ddiogelwch cymunedol yng Nghymru. Mae enillwyr y gwobrau unigol yn cynrychioli amrywiaeth eang o swyddi a chefndiroedd, o swyddogion heddlu a gweithwyr ieuenctid i eiriolwyr cymunedol ac arweinwyr prosiectau. Mae eu hymroddiad a’u harloesedd wedi sbarduno newid cadarnhaol sydd wedi gwneud gwahaniaeth i fywydau yn y cymunedau y maent yn eu cynrychioli.
Meddai Jane Mudd, Cyd-gadeirydd Bwrdd Cymunedau Mwy Diogel Cymru a Chomisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent:
“Mae’n ysbrydoliaeth gweld cryfder gwaith partneriaeth ar hyd a lled Cymru, yn ymateb i anghenion lleol ac yn cyflwyno mentrau sydd wir yn newid bywydau. Mae’n galonogol gweld bod atal wrth wraidd cymaint o’r mentrau hyn.
“Mae’r gwobrau hyn yn dathlu ymroddiad ac arloesedd yr unigolion hynny sy’n gweithio’n ddiflino i gadw ein cymunedau’n ddiogel, yn enwedig mewn cyfnod mor heriol. Drwy rannu arferion gorau a dysgu oddi wrth y naill a’r llall, gallwn barhau i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl.”
Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Cyd-gadeirydd Bwrdd Cymunedau Mwy Diogel Cymru ac Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych:
“Er gwaethaf y pwysau y mae’r gwasanaethau cyhoeddus yn ei wynebu, mae brwdfrydedd ac ymrwymiad y staff a’r gwirfoddolwyr ar hyd a lled Cymru’n disgleirio. Maent yn adnabod eu cymunedau a’r heriau unigryw y maent yn eu hwynebu, ac wedi ymrwymo i ddatblygu atebion sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn ar lefel leol.
“Mae’r gwobrau hyn yn tynnu sylw at wydnwch a chreadigrwydd yr unigolion hynny sy’n gweithio ar reng flaen diogelwch cymunedol. Mae eu hymdrechion yn helpu meithrin cymunedau mwy diogel, mwy cynhwysol i bawb.”